Eileen Hodge
Enwebwyd ar gyfer gwobr Gwirfoddoli
Cyd-sefydlodd Eileen Hodge o Gonwy elusen Therapy Dogs Nationwide 10 mlynedd yn ôl. Ers 20 mlynedd a mwy bu’n gwirfoddoli yn helpu plant ac unigolion agored i niwed. Mae hi'n arwain tîm o 30 o wirfoddolwyr ymroddedig gan ddefnyddio ei chŵn, addas i’r gwaith, i gynnig cysur, cwmnïaeth a hyder i'r rhai sy'n wynebu heriau emosiynol, ymddygiadol a datblygiadol.
Mae Eileen a'i chŵn yn ymweld ag ysgolion, llyfrgelloedd a chanolfannau meddygol, gan helpu plant i oresgyn ofnau, meithrin sgiliau llythrennedd, a gwella ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth. Mae hi hefyd yn rhoi cefnogaeth werthfawr i bobl sy'n byw gyda dementia, awtistiaeth, a chyflyrau iechyd meddwl. Yn y pandemig, roedd tosturi Eileen yn arbennig o amlwg wrth iddi deithio'r rhanbarth i helpu plant pryderus i ymdopi â brechiadau.
Drwy recriwtio gwirfoddolwyr newydd yn ddiflino, trefnu digwyddiadau, a chodi ymwybyddiaeth, mae Eileen wedi trawsnewid bywydau di-ri ar draws y Gogledd. Mae empathi ac ymroddiad Eileen yn ysbrydoliaeth i'r rhai y mae'n eu helpu. Un sy’n deilwng iawn o wobr Dewi Sant.
