Anwen-Grace Rodaway
Enwebiad ar gyfer gwobr Person Ifanc
Mae Anwen yn berson ifanc ysbrydoledig o fro Gŵyr, sy'n cael ei chydnabod am ei gwytnwch, ei charedigrwydd a'i phenderfyniad eithriadol. Wedi cael diagnosis o awtistiaeth, mae Anwen wedi goresgyn heriau personol sylweddol i ragori yn academaidd ac yn bersonol.
Daeth yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru yn ddim ond 13 oed, gan ddod yn llais cryf i bobl ifanc ag anableddau. Cododd ymwybyddiaeth am dan-ddiagnosis merched ag awtistiaeth; arweiniodd fentrau fel glanhau traethau a gwnaeth gyfweliadau ar faterion cymdeithasol.
Yn dilyn y cyfyngiadau symud COVID, nid oedd Anwen yn gallu dychwelyd i addysg oherwydd iechyd meddwl gwael. Ond, er gwaethaf yr anawsterau, llwyddodd Anwen i gael canlyniadau rhagorol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gan ennill gwobrau Myfyriwr y Flwyddyn Ffotograffiaeth a'r Dyniaethau ac Ieithoedd. Creodd fannau cefnogol i fyfyrwyr LGBTQIA+ a chyfrannodd at banel cydraddoldeb ei choleg.
Ar hyn o bryd, mae hi'n ysgrifennu nofel ac yn ei blwyddyn gyntaf o wneud ffilmiau ym Mhrifysgol Aberystwyth lle mae'n gynrychiolydd undeb y myfyrwyr. Mae ymroddiad ac ysbryd positif Anwen wrth ymdrechu i sicrhau newid yn ysbrydoliaeth i bob person ifanc yng Nghymru.
