Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Person Ifanc

Mae Cian Evans, plentyn 11 oed o Bontardawe, wedi dangos gwytnwch a thosturi eithriadol yn wyneb trasiedi ofnadwy.

Yn ddwy oed, bu Cian mewn damwain car ar yr M4 a hawliodd fywydau ei fam, Rebecca, a'i chwaer heb ei geni, Cari. Er iddo yntau ddioddef anafiadau difrifol a llawdriniaethau, mae Cian wedi troi ei boen yn ymgyrch bwerus i helpu eraill. Mae'n dal i weld arbenigwyr am driniaeth barhaus ond dyw hynny ddim yn ei atal rhag cefnogi eraill sydd mewn angen.

Yn ddiweddar, cwblhaodd Cian her Tri Chopa Cymru, gan godi dros £10,000 ar gyfer Harry’s Fund, sef gwasanaeth cwnsela i blant a theuluoedd sy'n wynebu trawma. Hefyd, cododd £2,700 i Ambiwlans Awyr Cymru drwy’r her ar-lein “Walk 100km” ym mis Ebrill 2023. Mae penderfyniad diwyro, ac ymdrechion codi arian Cian wedi dod ag achubiaeth i eraill. Enwebai rhagorol ar gyfer Gwobr Dewi Sant yn y categori Person Ifanc.