Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Castell Sain Ffagan ar gau am dri mis er mwyn dechrau gwaith cadwraeth a gwaith atgyweirio hanfodol i'r to, fel rhan o fuddsoddiad mawr gan Lywodraeth Cymru yn adeiladau hanesyddol Amgueddfa Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Er mwyn diogelu dyfodol hirdymor yr adeilad, dros y ddwy flynedd nesaf, bydd gwaith adnewyddu yn cael ei wneud ar do'r castell rhestredig Gradd I, un o'r adeiladau hanesyddol mwyaf arwyddocaol yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.

Mae cau'r castell yn rhan o £1.8 miliwn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu y flwyddyn ariannol hon ar gyfer gwaith gwella ar draws safle Sain Ffagan. Bydd hyn yn cynnwys gwaith adfer ar dai gwydr hanesyddol yr amgueddfa, yr unig ddau sydd ar ôl ar y tir o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae grant sylweddol gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, ynghyd â nifer o gyfranwyr eraill, hefyd yn cefnogi'r gwaith adfer hwn.

Mae'r buddsoddiad yn Sain Ffagan yn rhan o raglen ehangach o gymorth ychwanegol i Amgueddfa Cymru y flwyddyn ariannol hon, sy'n dod i gyfanswm o £11.5 miliwn:

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru: tua £1.8 miliwn ar gyfer adfer y castell, atgyweirio tai gwydr a gwelliannau i'r safle
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd: bron i £3.5 miliwn ar gyfer gwaith adeiladu â blaenoriaeth, yn ychwanegol at £1.3 miliwn a ddarparwyd y llynedd
  • Amgueddfa Lechi Cymru: £3.3 miliwn tuag at y gwaith ailddatblygu parhaus, gan ddod â chyfanswm buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y prosiect i £5.8 miliwn
  • Cynllun Ynni Llywodraeth Cymru: £1.5 miliwn tuag at brosiectau datgarboneiddio
  • Storio a gofalu am gasgliadau: dros £780,000 i helpu i ddiogelu casgliadau cenedlaethol Cymru
  • Gwelliannau i brofiad ymwelwyr: dros £706,000 ar gyfer Sain Ffagan ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, i gynnwys siop wedi'i huwchraddio a chyfleusterau toiledau mwy hygyrch.

Mae hyn yn ychwanegol at y cyllid cyfalaf o £5 miliwn y mae Amgueddfa Cymru hefyd yn ei dderbyn fel rhan o'i chyllid grant blynyddol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gydag Amgueddfa Cymru i gynnal arolygon cyflwr adeiladau ar draws safle Sain Ffagan i lywio'r gwaith o flaenoriaethau buddsoddiadau yn y dyfodol.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant:

Mae Castell Sain Ffagan yn rhan werthfawr o'n stori genedlaethol, a bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau y gall ymwelwyr ei fwynhau am genedlaethau i ddod. Unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau, y gobaith yw y bydd y cyhoedd yn gallu crwydro rhywfaint i fyny'r grisiau eto.

Mae hyn yn ymwneud â mwy nag un adeilad. Rydym yn buddsoddi bron i £11.5 miliwn y flwyddyn ariannol hon i ofalu am ein hamgueddfeydd cenedlaethol, ar gyfer gwaith hanfodol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a thrawsnewid Amgueddfa Lechi Cymru.

Mae ein Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant yn nodi dyhead clir i gasgliadau ac asedau hanesyddol Cymru gael eu diogelu a'u defnyddio i gefnogi dysgu, creadigrwydd a llesiant. Mae'r buddsoddiad hwn yn cyflawni'r ymrwymiad hwnnw, gan sicrhau bod ein safleoedd treftadaeth mwyaf poblogaidd yn parhau i fod wrth galon cymunedau ledled Cymru.

Sain Ffagan yw atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru ac mae ymhlith y deg atyniad rhad ac am ddim mwyaf poblogaidd yn y DU yn ôl pleidlais gan ddefnyddwyr TripAdvisor. Bydd gweddill safle'r amgueddfa, gan gynnwys yr adeiladau hanesyddol, yr orielau a’r tiroedd, yn parhau ar agor trwy gydol y gwaith ar y castell.

Dywedodd Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru, Jane Richardson:

Bydd y gwaith sy'n dechrau yng Nghastell Sain Ffagan y mis hwn yn helpu i ddiogelu'r adeilad ar gyfer y dyfodol ac rydym yn hynod ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu buddsoddiad. Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru, ynghyd ag Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, hefyd yn cefnogi'r gwaith o adfer ein tai gwydr hanesyddol yn Sain Ffagan.

Mae'n gyffrous gweld cymaint o waith yn digwydd i warchod, diogelu a datblygu ein hamgueddfeydd ledled Cymru, a fydd yn y pen draw yn ein helpu i ehangu mynediad i'r casgliad cenedlaethol i bawb.