Etholiad Senedd Cymru Mai 2026: Canllawiau i staff Llywodraeth Cymru
Yn esbonio sut mae gweision sifil i barhau’n ddiduedd yn y cyfnod cyn etholiad Senedd Cymru 2026.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Crynodeb
Cynhelir etholiadau'r Senedd ar 7 Mai 2026. Diben y canllawiau hyn yw hysbysu staff o’r trefniadau ar gyfer ymdrin â busnes y llywodraeth yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol, er mwyn osgoi’r farn eu bod yn dylanwadu ar yr ymgyrch etholiadol mewn unrhyw ffordd neu beri iddi ymddangos fel pe bai hynny yn digwydd, cynnal didueddrwydd y gwasanaeth sifil, ac osgoi beirniadaeth o wneud defnydd amhriodol o adnoddau swyddogol.
1. Cyflwyniad
Bydd y Senedd yn cael ei diddymu am funud wedi hanner nos ddydd Mercher 8 Ebrill 2026 a bydd y cyfnod cyn-etholiadol yn dechrau ar y diwrnod hwnnw.
Bydd Gweinidogion (y Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru/ysgrifenyddion y cabinet, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflenwi a'r dirprwy weinidogion - a elwir yn weinidogion ar hyn o bryd) yn parhau i ddal swydd Weinidogol tan ar ôl yr etholiad a hyd nes y caiff Prif Weinidog newydd ei benodi gan Ei Fawrhydi y Brenin, ar ôl ei enwebu gan y Senedd, ac y penodir Cabinet newydd.
Yn unol â Chod y Gweinidogion, ni fydd y Gweinidogion yn mynd i unrhyw ddigwyddiadau, na’n gwneud unrhyw gyhoeddiadau neu benderfyniadau y gallai pobl eu dehongli fel rhai sy'n rhoi mantais i blaid wleidyddol neu'n rhoi mantais etholiadol. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw weithgarwch uchel ei broffil neu sensitif gan Weinidogion yn dod i ben yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad.
Bydd busnes gweision sifil o ddydd i ddydd yn parhau yn ôl yr arfer yn y rhan fwyaf o achosion. Fodd bynnag, gall fod rhai meysydd lle cyfyngir ar ein gweithgarwch.
Yn rhinwedd ein swyddi fel swyddogion Llywodraeth Cymru, ein rôl ni yw parhau i gynorthwyo'r Gweinidogion wrth eu gwaith n unol â’n harfer, gan gofio’r un pryd fod angen osgoi gweithredu mewn modd y bernir, neu y gellid barnu, ei fod yn gysylltiedig â gwleidyddiaeth plaid neu mewn modd sy'n debygol o fod â chysylltiad uniongyrchol ag Etholiad y Senedd.
Yn ystod unrhyw gyfnod cyn-etholiadol, mae’n bwysig bod y cyhoedd yn hyderus nad yw adnoddau Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys amser a sylw y gwasanaeth sifil, yn cael ei ddefnyddio i helpu unrhyw blaid wleidyddol benodol nac i gefnogi unrhyw weithgaredd gwleidyddol yn ystod ymgyrch etholiadol.
Mae’n ofynnol i’r gwasanaeth sifil fod yn gwbl amhleidiol a diduedd yng nghyswllt etholiadau. Er mwyn helpu i sicrhau hyn, mae Prif Weinidog Cymru yn gwahodd Cabinet Llywodraeth Cymru i ymrwymo i ddilyn canllawiau i atal unrhyw achosion gwirioneddol, neu ymddangosiadol, o ddefnyddio adnoddau cyhoeddus at ddibenion ymgyrchu neu gamau neu weithgarwch a gynlluniwyd yn bennaf i ddylanwadu ar ganlyniad yr etholiad. Mae’r Ysgrifennydd Parhaol, gyda chefnogaeth y Prif Weinidog, yn cytuno ar ganllawiau ategol ar gyfer y gwasanaeth sifil ar ymddygiad yn ystod cyfnod cyn-etholiadol.
Mae’r gweithgarwch hwn yn seiliedig ar y priod godau ymddygiad ar gyfer y Gweinidogion a’r gweision sifil, y cyfeirir atynt isod. Gweler y dolenni at God y Gweinidogion a Chod y Gwasanaeth Sifil.
Diben y nodyn hwn yw rhoi arweiniad cyffredinol ar yr effaith a gaiff ymgyrch yr etholiad arnom ni fel gweision sifil. Bydd staff sy’n gweithio yng Nghomisiwn y Senedd yn cael canllawiau ar wahân, a fydd wedi’u llunio yng ngoleuni eu hamgylchiadau penodol hwy. Mae canllawiau ychwanegol wedi’u cynnwys ar gyfer staff yn y proffesiwn cyfathrebu a’r rheini sy’n rhan o weithgarwch ystadegol, arolygon ac ymchwil ehangach. Bydd egwyddorion y canllawiau hyn yn cael eu cyfleu i gyrff y GIG yng Nghymru. Mae crynodeb o’r canllawiau ar gyfer Cyrff Hyd Braich Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus datganoledig eraill yng Nghymru wedi’i gynnwys ar ddiwedd y cyngor hwn. Dylai timau partneriaeth sicrhau eu bod yn trafod y canllawiau hynny â’u holl gyrff cyhoeddus.
Nid yw awdurdodau lleol yng Nghymru yn ddarostyngedig i'r canllawiau cyfnod cyn-etholiadol hyn, ond maent yn debygol o gynhyrchu eu canllawiau eu hunain ar wahân ar gyfer staff.
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil yn parhau i fod yn berthnasol yn ystod yr ymgyrch. O dan y Cod hwnnw, rhaid inni lynu wrth ddwy egwyddor sylfaenol drwy’r amser:
- bod yn wleidyddol ddiduedd, a chael ein gweld i fod yn gweithredu felly, a
- sicrhau nad oes adnoddau cyhoeddus yn cael eu defnyddio at ddibenion gwleidyddiaeth plaid.
2. Cynorthwyo Gweinidogion: Deunydd briffio, cyflwyniadau a busnes rheolaidd
Yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, ni ddylid gofyn i Weinidogion wneud penderfyniadau uchel eu proffil neu sensitif, gan gynnwys ymrwymiadau gwario newydd. Yn achos penderfyniadau o'r fath, dylid un ai eu gwneud cyn diwrnod cyntaf y cyfnod cyn yr etholiad, neu eu gohirio tan ar ôl y diwrnod pleidleisio. Dylid parhau i ddelio â materion rheolaidd neu faterion brys iawn.
Yn fwy cyffredinol, dylem barhau i roi cyngor i'r Gweinidogion a’u briffio, a bwrw ymlaen â'u gwaith fel arfer, heb anghofio'r gofynion arferol i fod yn ddiduedd. Mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr nad oes unrhyw beth yn ein gwaith (gan gynnwys papurau briffio ac atebion i ohebiaeth) yn awgrymu cefnogaeth neu wrthwynebiad i unrhyw blaid neu bleidiau gwleidyddol, neu a allai awgrymu hynny i eraill. Os oes gennych amheuaeth, gofynnwch am gyngor y Cyfarwyddwr Cyffredinol neu Gyfarwyddwr Adrannol perthnasol.
Fodd bynnag, dylem gofio y gall argaeledd Gweinidogol i glirio gwaith fod yn gyfyngedig yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad. Felly, os ydych yn bwriadu cyflwyno gwaith i Weinidog sydd angen sylw brys, yna dylech gysylltu â'r swyddfa breifat berthnasol mewn da bryd i drafod amseroedd.
Bydd busnes gweision sifil o ddydd i ddydd yn parhau yn ôl yr arfer yn y rhan fwyaf o achosion. Fodd bynnag, gall fod rhai meysydd lle cyfyngir ar ein gweithgarwch. Ni ddylem ymgymryd ag unrhyw waith (gan gynnwys cyhoeddiadau, cyfarfodydd neu ymgyrchoedd) sy'n debygol o ddenu sylw'r cyfryngau, a/neu sy'n sensitif yn wleidyddol neu'n uchel ei broffil. Wrth gynllunio gweithgareddau o'r fath, dylid osgoi'r cyfnod cyn yr etholiad yn gyfan gwbl. Ceir mwy o ganllawiau am y mathau o weithgareddau na ddylid ymgymryd â hwy yn ystod y cyfnod ymgyrchu yn atodiad A y nodyn hwn. Ceir canllawiau eraill ar ymgyngoriadau isod.
Ni ddylem ychwaith gytuno i wneud cyhoeddiadau ar y cyd gydag Adrannau Whitehall. Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i swyddogion Llywodraeth Cymru, fodd bynnag, efallai na fydd swyddogion yn Whitehall wedi’u cyfyngu i’r un graddau yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol. Beth bynnag, byddai gwneud cyhoeddiad ar y cyd yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol bron yn sicr yn groes i’r canllawiau hyn ar gyfer Llywodraeth Cymru. Felly, os oes angen gwneud unrhyw fath o gyhoeddiad ar y cyd, dylid ei ohirio tan ar ôl yr etholiad. Os oes gennych unrhyw amheuon, dylech ymgynghori â'r adran gyfathrebu, yn unol â’r manylion cyswllt ym mharagraff 16.
Dylid cyfeirio unrhyw gais gan bleidiau gwleidyddol yng nghyd-destun confensiynau ymgynghori cyn etholiad at swyddfa'r Ysgrifennydd Parhaol yn y lle cyntaf. Bydd yr Ysgrifennydd Parhaol yn cymryd barn ar sut i ymateb yn fwyaf priodol yn unol â'r confensiwn a gall ofyn am gyngor yn ôl yr angen.
Cyfathrebu cyhoeddus gan uwch weision sifil
Ni ddylai fod unrhyw gyfathrebu cyhoeddus gan uwch weision sifil yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad. Mae hyn yn cynnwys cyfweliadau, ymddangosiadau mewn cynadleddau / digwyddiadau, neu unrhyw gyfweliadau â'r cyfryngau. Dylid gofalu nad yw unrhyw gyfweliadau a gynhelir cyn y cyfnod cyn-etholiadol yn cael eu cadw a'u cynnal yn ystod yr ymgyrch, a dylid ceisio sicrwydd ysgrifenedig ar hyn.
Os oes angen brys neu anochel am gyngor gan y llywodraeth i'r cyhoedd ar, er enghraifft, argyfwng iechyd neu iechyd anifeiliaid, bydd cydweithwyr cyfathrebu yn darparu cymorth i sicrhau bod hyn yn parhau i fod yn amlwg y tu allan i'r maes gwleidyddol.
3. Ymgyngoriadau
Pan fydd Llywodraeth Cymru yn paratoi cynigion newydd ar gyfer polisïau, rhaglenni neu ddeddfwriaeth a bod angen ymgynghori arnynt, fel rheol ni ddylai ymgyngoriadau gychwyn yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad.
Ni ddylai ymgyngoriadau proffil uchel neu sensitif gyd-fynd â'r cyfnod cyn yr etholiad o gwbl. Fodd bynnag, gall ymgyngoriadau a gychwynnodd cyn dechrau'r cyfnod cyn-etholiadol fynd yn eu blaen, gyda chyfyngiadau priodol ar y cyhoeddusrwydd iddynt, os nad yw'r ymgynghoriad yn un o broffil uchel neu sensitif. Mater i'r Llywodraeth newydd ei ystyried fyddai canlyniad unrhyw ymgyngoriadau.
Pan gynigir cynnal ymgynghoriad ar y cyd rhwng un o Adrannau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, dylid gwneud pob ymdrech i osgoi cychwyn unrhyw ymgynghoriad yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad (neu osgoi bod ymgynghoriad o'r fath yn rhedeg i mewn i'r cyfnod hwnnw, os bydd yn ddadleuol neu'n uchel ei broffil). Pan fydd hyn yn anorfod oherwydd yr amserlen ddeddfwriaethol yn San Steffan, neu os oes perygl gwirioneddol y gallai Cymru gael ei heithrio o ddeddfwriaeth ac y gallai hynny fod yn andwyol i fudd y cyhoedd, dylai’r ymgynghoriad fynd rhagddo ond gan fod yn sensitif i’r ymgyrchoedd etholiadol.
Pan fydd un o Adrannau Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar sail y DU, Prydain Fawr, neu ar sail “Cymru a Lloegr”, dylem dynnu eu sylw at y cyfnod cyn yr etholiad a gofyn iddynt fod yn sensitif i ymgyrchoedd yr etholiad – fel y gwnaethom ni yma pan gynhaliwyd etholiadau Senedd y DU yn 2024.
4. Ceisiadau mynediad at wybodaeth, ac ymholiadau
Dylem barhau i ddarparu gwybodaeth gofnodedig mewn ymateb i ymholiadau gan bleidiau, ymgeiswyr ac eraill.
Mae pob cais am wybodaeth gofnodedig yn dod o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ac fel arfer dylid ymateb iddynt o fewn 20 diwrnod gwaith. Dylid parhau i ymdrin â cheisiadau sy’n ceisio am ddatgelu gwybodaeth gofnodedig nad yw’n gyhoeddus yn unol â’r canllawiau. Serch hynny, yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad mae'n arbennig o bwysig bod staff yn rhoi sylw i oblygiadau gwleidyddol ymatebion i geisiadau. Dylid trafod sut i ymdrin â cheisiadau sy'n debygol o fod â goblygiadau gwleidyddol iddynt â'r Cyfarwyddwr Cyffredinol neu Gyfarwyddwr Adrannol perthnasol.
Dylid trin pob cais am wybodaeth gofnodedig yr un fath â’i gilydd, waeth beth yw ymlyniad gwleidyddol y sawl sy'n cyflwyno'r cais.
5. Gohebiaeth
Lle bynnag y bo'n bosibl dylem wneud pob ymdrech i ddrafftio a chlirio ymatebion i ohebiaeth cyn diwrnod cyntaf y cyfnod cyn yr etholiad.
Dylid trin ymgeiswyr yn yr etholiad yn gydradd, p'un a ydynt yn ACau neu beidio. Mae hyn yn golygu y dylai'r Gweinidogion ymateb i lythyrau a ddaw i law gan ymgeiswyr yn yr etholiad yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad.
Dim ond os bydd yr ymateb arfaethedig yn debygol o ddenu sylw'r cyfryngau lleol neu genedlaethol heblaw am gyfeiriadau dibwys neu arwynebol, neu os yw'n ymdrin â materion gwleidyddol dadleuol, y bydd angen ymatebion dros dro. Bydd ymatebion dros dro yn cael eu cyhoeddi gan ysgrifenyddion preifat ar gyngor swyddogion ac mae'r testun a awgrymir yn Atodiad A.
Heblaw am yr hyn a ddisgrifir uchod, mae’r canllawiau ynghylch pwy ddylai dderbyn gohebiaeth Weinidogol/gohebiaeth a fydd yn cael ei hateb gan Weinidogion/swyddogion yn parhau’n ddigyfnewid. Bydd yr Uned Ohebiaeth yn penderfynu ar hynny yn y ffordd arferol. Mae enghreifftiau o eiriadau safonol ar gyfer ymateb i wahoddiadau ar gael isod.
Geiriad safonol ar gyfer ymateb i wahoddiadau cyffredinol
Mae'r Gweinidog wedi gofyn i mi ddiolch i chi am eich llythyr/e-bost ar [dyddiad] yn ei wahodd/gwahodd i [digwyddiad] ar/ym mis [dyddiad] 2026.
Cynhelir etholiadau'r Senedd ar 7 Mai ac felly nid yw'n bosibl cadarnhau argaeledd y Gweinidog ar hyn o bryd. Mae croeso i chi gysylltu eto ar ôl 7 Mai pan fydd y Llywodraeth newydd ar waith.
Geiriad safonol ar gyfer ymateb i wahoddiadau i ddigwyddiadau proffil uchel
Mae'r Gweinidog wedi gofyn i mi ddiolch i chi am eich llythyr/e-bost ar [dyddiad] yn ei wahodd/gwahodd i [digwyddiad] ar/ym mis [dyddiad] 2026.
Byddai'r Gweinidog yn falch o dderbyn ond mewn egwyddor yn unig y gall gytuno ar hyn o bryd. Cynhelir etholiadau'r Senedd (Senedd Cymru) ar 7 Mai ac felly nid yw'n bosibl cadarnhau presenoldeb y Gweinidog tan ar ôl y diwrnod hwnnw pan fydd y Llywodraeth newydd ar waith.
Byddwn yn cysylltu â chi eto cyn gynted â phosibl ar ôl 7 Mai ond os ydych yn dymuno gwneud trefniadau eraill yn y cyfamser, rhowch wybod inni.
6. Penodiadau cyhoeddus
Dylid cwblhau’r broses penodiadau cyhoeddus (h.y. bydd y Gweinidog perthnasol o blith Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad penodi yn unol â’r broses cyflwyniadau ysgrifenedig arferol a chyhoeddi’r penodiad) cyn i’r cyfnod cyn-etholiadol ddechrau. Os yw'r broses benodi yn rhedeg i mewn i'r cyfnod cyn-etholiadol, yna bydd yn rhaid ei stopio. Unwaith y bydd llywodraeth newydd yn cael ei ffurfio, bydd angen ceisio cytundeb Gweinidogol i gynnal ymgyrch recriwtio penodiadau cyhoeddus newydd. Dim ond trwy eithriad y bydd yn bosibl oedi ac ail-gychwyn ymgyrch a oedd hanner ffordd drwodd cyn y cyfnod cyn-etholiadol lle mae angen busnes llethol a brys y cytunwyd arno gan Weinidogion. Rhaid i'r Uned Cyrff Cyhoeddus gytuno ar geisiadau eithrio. Bydd angen ystyried a chytuno ar unrhyw geisiadau am estyniadau neu ailbenodiadau cyn i'r cyfnod cyn-etholiadol ddechrau.
7. Gweithgarwch gwleidyddol gan staff
Dylai swyddogion ymgynefino â’r rheolau ar weithgarwch gwleidyddol, gan ei bod yn ofynnol i’r mwyafrif o weision sifil ofyn am ganiatâd cyn cymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch gwleidyddol.
Os oes unrhyw un sy’n cael ei gyflogi gan Lywodraeth Cymru am ymgymryd ag unrhyw weithgarwch gwleidyddol neu weithgarwch ymgyrchu mewn cysylltiad â’r etholiad, gan gynnwys sefyll fel ymgeisydd, dylai geisio caniatâd yn ysgrifenedig yn gyntaf oddi wrth ei Bartner Busnes Adnoddau Dynol, gan wneud hynny drwy ei reolwr llinell.
Wrth benderfynu a ddylid rhoi caniatâd, cymhwysir y prawf sy’n ystyried a yw’r ymgeisydd yn gweithio mewn “maes sensitif”. Ceir eglurhad llawn am hyn yn y polisi ar weithgarwch gwleidyddol. Gall Llywodraeth Cymru osod amodau neu gyfyngiadau ar unrhyw ganiatâd a roddir. Er enghraifft, mae'n bosibl y byddai'n caniatáu canfasio dienw dros y ffôn ond nid canfasio o ddrws i ddrws neu annerch cyfarfodydd. Mae’r Uwch Wasanaeth Sifil, Bandiau Gweithredol (Graddau 6 a 7) a Swyddogion ar y Llwybr Carlam wedi’u heithrio rhag ymgymryd â gweithgarwch gwleidyddol cenedlaethol, sy’n cynnwys etholiadau’r Senedd.
Mae gan staff ar raddau diwydiannol a heb fod mewn swyddfa ganiatâd cyffredinol i gymryd rhan mewn gweithgarwch gwleidyddol.
8. Defnyddio safleoedd ac adnoddau Llywodraeth Cymru
Ni ddylid byth ddefnyddio safleoedd nac adnoddau Llywodraeth Cymru at ddibenion ymgyrchu. Ni ddylem ganiatáu i safleoedd Llywodraeth Cymru gael eu defnyddio at ddibenion o’r fath mewn unrhyw amgylchiadau, na’u defnyddio ar gyfer arddangos posteri etholiadol. Fodd bynnag, gellir defnyddio rhai adeiladau'r Llywodraeth i hwyluso digwyddiadau gwleidyddol gytbwys, fel hustings trawsbleidiol, ond dylid cymryd gofal mawr bod natur y digwyddiad yn glir ymlaen llaw a dylid gofyn am gyngor gan y Pennaeth Cyfathrebu Strategol ym mhob achos. Bydd canllawiau tebyg yn cael eu cyhoeddi i gyrff y GIG, a Chyrff Hyd Braich ar y defnydd a wneir o’u hystadau hwythau.
9. Grantiau a threfniadau caffael Llywodraeth Cymru
Grantiau
Dylech osgoi agor neu hysbysebu cynlluniau grant yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol.
Dylai swyddogion osgoi agor neu hysbysebu unrhyw gynlluniau grant yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol. Ar gyfer unrhyw gynlluniau grant, sy’n agored i geisiadau cyn y cyfnod cyn-etholiadol, dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod penderfyniadau yn cael eu gwneud a sefydliadau yn cael eu hysbysu am y canlyniadau cyn y cyfnod cyn-etholiadol. Os nad yw hyn yn bosibl, dylid ystyried gohirio agor y cynllun grant tan ar ôl yr etholiad.
Dylid gwneud pob ymdrech i gyhoeddi llythyrau dyfarnu grant cyn y cyfnod cyn-etholiadol. Os nad yw hyn yn bosibl, dylid gwneud asesiad ynghylch a yw’r grant yn cael ei ystyried yn un uchel ei broffil a/neu sensitif. Os ystyrir bod grant yn un uchel ei broffil a/neu sensitif, rhaid gofyn am gyngor priodol (Cyfarwyddwr Cyffredinol/Cyfarwyddwr Adrannol/y Ganolfan Ragoriaeth Grantiau) cyn cyhoeddi unrhyw lythyrau dyfarnu grant. Mewn achosion brys neu dyngedfennol, efallai y bydd yn bosibl cyhoeddi ar sail eithriad. Fodd bynnag, unwaith eto, rhaid gofyn am gyngor cyn cyhoeddi unrhyw lythyrau dyfarnu grant sy’n rhwymo mewn cyfraith.
Os na fernir bod y llythyrau dyfarnu grant yn rhai uchel eu proffil a/neu sensitif ac ystyrir eu bod yn fwy o grantiau “busnes fel arfer”, dylid ymdrechu o hyd i gyhoeddi’r llythyrau dyfarnu grant cyn, yn hytrach nag yn ystod, y cyfnod cyn-etholiadol.
Dylai swyddogion fod yn ymwybodol bod hefyd angen ystyried unrhyw lythyrau dyfarnu grant y mae angen eu cyhoeddi yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol ar sail eithriadol yn ofalus, er mwyn sicrhau bod y cyllid grant a roddir yn cyd-fynd â gweddill y canllawiau hyn.
Ar ôl yr etholiad, mae angen i swyddogion fod yn ymwybodol y gallai fod angen iddynt ailedrych ar fwriad polisi'r cynllun grant gyda'r Gweinidog newydd cyn i'r cynllun grant gael ei hysbysebu. Mae ystyriaethau pwysig eraill a chamau posibl sy'n ofynnol gan swyddogion grant ar ôl etholiad, yn bennaf ynglŷn â chyhoeddi llythyrau dyfarnu grant o dan yr awdurdod Gweinidogol cywir. Mae’r llythyr dyfarnu grant yn gytundeb sy’n rhwymo mewn cyfraith a gall beryglu cyllid cyhoeddus os na fydd canllawiau a chyngor yn cael eu dilyn. Mae'n hanfodol nad yw llythyrau dyfarnu grant yn cael eu hôl-ddyddio, eu diwygio na'u cyflwyno. Rhaid i'r Gweinidog newydd gael gweld pob dyfarniad grant newydd o dan ei gylch gorchwyl.
Wrth reswm, gall unrhyw waith cynllunio a datblygu cynlluniau grant newydd yn fewnol, gan gynnwys mynd i gyfarfodydd y Panel Sicrwydd Grantiau, ddigwydd fel arfer.
Cysylltwch â Grantscentreofexcellence@llyw.cymru i gael cyngor a chymorth pellach ynglŷn â grantiau.
Gweithgarwch caffael yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol
Dylid trefnu gweithgarwch caffael i sicrhau nad yw contractau yn cael eu hysbysebu na’u dyfarnu yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad. Os bydd gweithgarwch caffael wedi dechrau cyn y cyfnod cyn-etholiadol, dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod penderfyniadau yn cael eu gwneud a bod y sefydliadau yn cael eu hysbysu am y canlyniadau cyn y cyfnod cyn-etholiadol. Dylai swyddogion weithio gyda’r arweinydd caffael a fydd wedi’i neilltuo iddynt i bennu amserlenni realistig a chyraeddadwy.
Gweithgarwch caffael dros £25,000 (ac eithrio TAW)
Dylai swyddogion osgoi hysbysebu unrhyw gyfleoedd contract neu ddyfarnu unrhyw gontractau yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol sydd:
- yn uchel eu proffil ac yn debygol o ddenu sylw’r cyfryngau, a/neu
- yn creu ymrwymiadau sylweddol ar gyfer y tymor hir, a / neu
- yn wleidyddol sensitif.
Dylid cynnal asesiad i benderfynu a ddylid ystyried bod y gweithgarwch caffael yn uchel ei broffil neu’n sensitif yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol. Dylid ceisio cyngor gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol a / neu’r Cyfarwyddwr Adrannol perthnasol cyn dechrau ar unrhyw weithgarwch.
Unwaith y bydd Gweinidog newydd yn cael ei benodi ar ôl yr etholiad, dylai swyddogion fod yn ymwybodol y gallai fod angen iddynt ailedrych ar fwriad polisi'r gweithgarwch caffael gyda'r Gweinidog a benodir, cyn hysbysebu / dyfarnu.
Gall unrhyw gynllunio mewnol ar gyfer gweithgarwch caffael nad yw’n gynhennus ei natur ddigwydd fel arfer.
Gweithgarwch caffael o dan £24,999.99 (ac eithrio TAW)
Siaradwch â’ch Dirprwy Gyfarwyddwr cyn bwrw ymlaen ag unrhyw Weithgarwch Caffael perthnasol gwerth £24,999.99 ac islaw’r ffigur hwn.
Mae cyngor ar gaffael Ymchwil i’w gael yn y cyngor ehangach i Lywodraeth Cymru.
Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch beth i’w wneud, siaradwch â CPS/CPICT neu cysylltwch â CPSprocurementadvice@llyw.cymru.
10. Staff yn Swyddfeydd Preifat y Gweinidogion
Dylai swyddogion yn Swyddfeydd Preifat y Gweinidogion barhau i gynorthwyo'r Gweinidogion yn eu dyletswyddau swyddogol drwy gydol y cyfnod cyn yr etholiad.
Bydd y Gweinidogion yn ymgyrchu, ac oherwydd hynny efallai y bydd staff y Swyddfeydd Preifat eisiau trafod egwyddorion y canllawiau hyn gyda'u Gweinidogion cyn diwrnod cyntaf y cyfnod cyn yr etholiad, neu bryd bynnag y bydd yn briodol gwneud hynny. Yn annibynnol ar hynny, bydd papur y Cabinet yn nodi disgwyliad y Prif Weinidog sy'n ymwneud ag ymddygiad Gweinidogion yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad.
Bydd y Gweinidogion, yn unol â'r arfer, yn destun amodau Cod y Gweinidogion, sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gadw eu rolau Gweinidogol a gwleidyddol ar wahân. Dylai swyddogion y Swyddfeydd Preifat barhau i gynorthwyo'r Gweinidogion gyda'u dyletswyddau swyddogol drwy'r amser. Mae hyn yn cynnwys sicrhau mai swyddogion y Swyddfa Breifat, ac nid aelod o staff personol neu etholaeth y Gweinidog, sy'n mynd i bob digwyddiad swyddogol. Hefyd, os oes un ymgeisydd yn cael ei wahodd i ddigwyddiad Gweinidogol swyddogol, dylech sicrhau bod pob un o'r ymgeiswyr eraill yn cael yr un cyfle hefyd. Dylai swyddogion mewn Swyddfeydd Preifat ymgyfarwyddo â'r canllawiau ar ddelio â gohebiaeth a Rhyddid Gwybodaeth sydd wedi'u hamlinellu yn y ddogfen hon.
Ni ddylai swyddogion y Swyddfeydd Preifat fyth fynd i ddigwyddiadau sy'n amlwg at ddibenion yn ymwneud â gwleidyddiaeth plaid neu at ddibenion ymgyrchu. Ni ddylent ychwaith ganiatáu i adnoddau Llywodraeth Cymru gael eu defnyddio at ddibenion ymgyrchu. Yn arbennig, ni ddylent archebu ceir swyddogol nac ystafelloedd yn adeiladau Llywodraeth Cymru nac unrhyw le arall, comisiynu areithiau neu bapurau briffio, na threfnu unrhyw fath arall o gymorth ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud â phlaid neu ar gyfer digwyddiadau ymgyrchu.
Dylai digwyddiadau'r Gweinidogion sy'n ymwneud â phlaid neu eu digwyddiadau ymgyrchu barhau i gael eu cofnodi yn eu dyddiaduron swyddogol.
11. Cynghorwyr Arbennig
Bydd y Cynghorwyr Arbennig yn parhau i roi cyngor a chymorth i Weinidogion, gan gynnwys cyngor gwleidyddol, yn unol â'r Cod Ymddygiad i Gynghorwyr Arbennig [Saesneg yn Unig] – yn enwedig paragraffau 20 ac 21.
Mae’r Cod yn nodi’r goblygiadau pan fydd Cynghorydd Arbennig yn ystyried ymgymryd ag unrhyw weithgarwch ymgyrchu cyhoeddus neu’n dymuno bod yn ymgeisydd mewn etholiad. Mae’r rheolau sy’n ymwneud â hyn wedi’u nodi ym mharagraff 22 o’r Cod.
12. Staff cyfathrebu, ystadegol, arolygon ac ymchwil ehangach
Darllenwch y canllawiau penodol sydd ynghlwm wrth y canllawiau hyn. Ceir y canllawiau i staff yn y gyfarwyddiaeth gyfathrebu yn Atodiad B a'r canllawiau i staff sy'n rhan o weithgarwch ymchwil ystadegol, arolygon ac ehangach yn Atodiad C.
13. Staff ac Aelodau Byrddau Cyrff Hyd Braich Llywodraeth Cymru
Ceir egwyddor hirsefydlog bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus fod yn wleidyddol ddiduedd. Er bod Cyrff Hyd Braich – cyrff statudol, cwmnïau sydd ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru, deiliaid swyddi statudol a Chomisiynwyr – yn gweithredu’n annibynnol ar Lywodraeth Cymru, maen nhw’n dal i fod yn sefydliadau’r Llywodraeth ac ni ddylent ymddangos fel pe baent yn dylanwadu neu’n ceisio dylanwadu ar ganlyniad unrhyw etholiad. Ni allant gael eu gweld yn ceisio cymeradwyaeth unrhyw bleidiau gwleidyddol ar unrhyw adeg. Dylai pob corff gyfeirio at ei God Ymddygiad ei hun ar gyfer sut y dylai staff ac aelodau o’r bwrdd ymddwyn yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol.
Ni ddylid defnyddio adnoddau Corff Hyd Braich, gan gynnwys ei safleoedd a’i adeiladau, at ddibenion gwleidyddiaeth plaid ar unrhyw adeg. Ni ddylai aelodau o fwrdd neu staff cyrff cyhoeddus fynd i ddigwyddiadau pleidiau gwleidyddol mewn rhinwedd swyddogol yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol ffurfiol. Ni ddylai cyrff cyhoeddus ddechrau unrhyw ymgyrchoedd hysbysebu neu ymgynghori, na pharhau ag unrhyw ymgyrchoedd o’r fath, yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol. Os, mewn amgylchiadau eithriadol, bydd angen hysbysebu neu gyhoeddusrwydd yn ystod y cyfnod hwn, rhaid i gyrff ofyn am gyngor gan eu tîm partneriaeth. Dylai cyrff bwyso a mesur hefyd a ellid ystyried bod cyhoeddusrwydd sy’n bodoli eisoes ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd neu unrhyw weithgarwch parhaus arall yn gysylltiedig â gwleidyddiaeth plaid. Dylai sicrhau ei fod yn cael gwared ar unrhyw ddeunyddiau cyhoeddusrwydd o’r fath neu yn eu newid tan ar ôl yr etholiad. Ni ddylid cyhoeddi unrhyw ymateb i unrhyw ymgynghoriad tan ar ôl yr etholiad.
Dylai staff sy’n dymuno sefyll mewn etholiad neu ymgyrchu dros blaid neu ymgeisydd gyfeirio at eu telerau ac amodau cyflogaeth.
Ni ddylai aelodau o fyrddau a benodir gan Weinidogion Cymru wneud unrhyw ddatganiadau cyhoeddus yn ystod yr etholiad y gellid ystyried eu bod yn ffafrio un neu ragor o bleidiau, ac ni ddylent ychwaith geisio na derbyn cymeradwyaeth o gynlluniau neu weithgareddau’r corff gan unrhyw blaid neu ymgeisydd. Rhaid i aelodau o fyrddau ymwrthod ag unrhyw weithgarwch gwleidyddol dadleuol, a rhaid iddynt fod yn wleidyddol ddiduedd a rhaid i eraill fedru weld eu bod felly. Yr unig eithriad i hyn yw pan fo aelod o’r Bwrdd wedi’i benodi i’r corff oherwydd ei fod yn dal swydd etholedig, fel aelodau o awdurdodau lleol. Dim ond yn yr achos hwnnw y caniateir i’r aelodau hynny o’r bwrdd gymryd rôl gyhoeddus yn yr etholiad.
14. Penodiadau Gweinidogol i Fyrddau Cyrff Hyd Braich
Dylid cwblhau’r broses penodiadau cyhoeddus (h.y. bydd y Gweinidog perthnasol o blith Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad penodi yn unol â’r broses cyflwyniadau ysgrifenedig arferol a chyhoeddi’r penodiad) cyn i’r cyfnod cyn-etholiadol ddechrau. Os yw'r broses benodi yn rhedeg i mewn i'r cyfnod cyn-etholiadol, yna bydd yn rhaid ei stopio. Unwaith y bydd llywodraeth yn cael ei ffurfio ar ôl yr etholiad, bydd angen cais newydd am gytundeb Gweinidogol i gynnal ymgyrch recriwtio penodiadau cyhoeddus newydd. Dim ond trwy eithriad y bydd yn bosibl oedi ac ail-gychwyn ymgyrch a oedd hanner ffordd drwodd cyn y cyfnod cyn-etholiadol, a dim ond lle mae angen busnes llethol a brys y cytunwyd arno gan Weinidogion. Rhaid i'r Uned Cyrff Cyhoeddus gytuno ar geisiadau eithrio. Bydd angen ystyried a chytuno ar unrhyw geisiadau am estyniadau neu ailbenodiadau cyn i'r cyfnod cyn-etholiadol ddechrau.
15. Aelodau byrddau cynghori
Os yw aelod o fwrdd cynghori Llywodraeth Cymru yn cael ei fabwysiadu fel ymgeisydd i'r Senedd, dylai esgusodi ei hunain a chamu'n ôl o'i rôl nes bod canlyniad yr etholiad yn hysbys.
Er nad yw aelodau'r bwrdd cynghori yn weision sifil ac efallai na fyddant yn cael eu cynnwys yn benodol o dan y Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus, mae'r dull hwn yn osgoi unrhyw ganfyddiad o gamddefnyddio adnoddau cyhoeddus - gan gynnwys mynediad breintiedig i randdeiliaid a gwybodaeth Llywodraeth Cymru.
16. Enwau cyswllt
Yn y lle cyntaf, dylech drafod unrhyw amheuon sydd gennych gyda'ch rheolwr llinell. Ond gallwch gael rhagor o gymorth a chyngor, yn enwedig mewn perthynas ag achosion penodol, oddi wrth y swyddogion isod. Anfonwch unrhyw ymholiadau sydd gennych drwy e-bost:
Ar gyfer ymholiadau ynghylch:
- briffio Gweinidogion a materion tebyg – yr ysgrifennydd preifat perthnasol
- gohebiaeth Weinidogol: Pennaeth yr Uned Ohebiaeth
- hawl y cyhoedd i wybodaeth – blwch post y Swyddog Rhyddid Gwybodaeth
- materion sy’n ymwneud â phenderfyniadau cyllido, costio polisïau pleidiau etc – Adran y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth
- ymddygiad personol staff (gan gynnwys cynghorwyr arbennig) sy’n dymuno cymryd rhan mewn gweithgarwch ymgyrchu ac ati – eich Tîm Partner Busnes Adnoddau Dynol
- cyhoeddiadau, digwyddiadau, marchnata a chyhoeddusrwydd – Pennaeth Cyfathrebu Strategol neu Pennaeth Newyddion
- ymholiadau penodol gan staff sy’n ymgymryd â gwaith ar ystadegau neu arolygon – Y Prif Ystadegydd;
- ymholiadau penodol gan staff ar gynnal ymchwil
- PrifSwyddogYmchwilGymdeithasol@llyw.cymru
- ymholiadau penodol sy'n ymwneud â Chynigion Cydsyniad Deddfwriaethol (LCM), Cynigion Cydsyniad Offerynnau Statudol (SICM) –Tîm Deddfwriaeth y DU uklegislationteam@llyw.cymru
- ymholiadau am gysylltiadau rhynglywodraethol a/neu weithgarwch arfaethedig ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru – uklegislationteam@llyw.cymru
- polisi a deddfwriaeth mewn perthynas â chynnal yr etholiad ei hun –Llywodraeth Leol a Chynllunio;
- canllawiau ar grantiau a chaffael – Canolfan Ragoriaeth Grantiau
- Cyrff Hyd Braich – Uned Cyrff Cyhoeddus
- swyddogion yn y swyddfeydd preifat – Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Os oes gennych unrhyw ymholiad arall sy’n ymwneud â’r canllawiau hyn, cysylltwch â Ysgrifenyddiaeth y Cabinet.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Ionawr 2026
Atodiad A: Gweithgarwch na ddylid ymgymryd ag ef yn ystod cyfnod yr ymgyrch
Bydd busnes gweision sifil o ddydd i ddydd yn parhau yn ôl yr arfer yn y rhan fwyaf o achosion. Fodd bynnag, gall fod rhai meysydd lle cyfyngir ar ein gweithgarwch. Isod, cewch feini prawf i'w defnyddio wrth fynd ati i benderfynu a ddylai menter neu weithgarwch arfaethedig fynd rhagddo yn ystod y cyfnod ymgyrchu. Nid yw'n ymdrin â phob posibilrwydd ac, os oes gennych unrhyw amheuon, gofal piau hi – arhoswch tan ar ôl yr etholiad cyn bwrw ati.
Ni ddylid ymgymryd ag unrhyw weithgarwch os oes un o'r meini prawf hyn yn berthnasol:
- os yw'n debygol o ddenu sylw'r cyfryngau lleol neu genedlaethol, heblaw am gyfeiriadau dibwys neu arwynebol, neu
- os yw'n fater sy'n destun dadlau gwleidyddol, hynny yw un y mae gwahaniaeth barn yn ei gylch ymhlith prif bleidiau Cymru ac y maent yn debygol o ymgyrchu yn ei gylch.
Dylid cymhwyso'r meini prawf hyn i weithgareddau sy'n ymwneud ag achosion unigol, megis ateb gohebiaeth, yn ogystal â llunio polisïau eang. Yn yr achosion hyn, dylech ystyried a fyddai'r ohebiaeth yn dod o dan unrhyw un o'r meini prawf uchod, pe bai'r hyn a ddywedir ynddi'n dod yn wybodaeth gyhoeddus. Os byddai, bydd angen anfon ateb dros dro, a dylech ddefnyddio'r geiriad a ganlyn:
Mae'n ddrwg gennyf [nad wyf i/nad yw'r Gweinidog] yn gallu rhoi ateb llawn i'ch llythyr dyddiedig [DD/MM/BBBB] ynghylch [testun yr ohebiaeth]. Mae'r rheolau sy'n ymwneud â'n hymddygiad yn cyfyngu'n fawr arnom o ran y graddau y gallwn hyrwyddo polisi Llywodraeth Cymru yn ystod ymgyrch etholiad. Diben y rheolau hyn yw osgoi unrhyw awgrym ein bod yn ceisio dylanwadu'n ormodol ar ganlyniad yr etholiad.
Anfonaf ateb llawn atoch cyn gynted â phosibl ar ôl yr etholiad.
Atodiad B: Etholiadau Senedd Cymru (y Senedd) 7 Mai 2026
Canllawiau ar Gyfathrebu i'r holl staff yn y cyfnod cyn yr etholiad.
Egwyddorion
Ni ddylid gweld unrhyw elfen o weithgarwch cyfathrebu Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol yn dylanwadu, neu o bosibl yn dylanwadu ar ganlyniad yr etholiad ar ran unrhyw blaid wleidyddol, neu fod ag unrhyw oblygiad bod y llywodraeth yn cymryd safbwynt ar unrhyw fater sy'n gysylltiedig â'r ymgyrch etholiadol drwy ei sianeli, gan gynnwys cefnogi Gweinidogion i wneud hynny.
Canllawiau manwl
Y Wasg a’r Cyfryngau
Fel gydag ymgyrchoedd etholiadol blaenorol yng Nghymru, ni ddylid gwneud cyhoeddiadau rhagweithiol yn y wasg a'r cyfryngau ynghylch polisi neu gyllid drwy gydol y cyfnod cyn yr etholiad.
Dylai gweithgarwch y wasg a'r cyfryngau hefyd fod yn gyfyngedig yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad. Byddwn yn dal i fonitro a chywiro gwallau adrodd yn y cyfryngau, ond dim ond y rhai sy’n ymwneud yn uniongyrchol â Llywodraeth Cymru, er enghraifft, camgymeriadau wrth adrodd ystadegau neu wallau ffeithiol sylfaenol.
Sianeli cyfryngau cymdeithasol
Ac eithrio gwybodaeth iechyd y cyhoedd neu wybodaeth ffeithiol, ni ddylai sianeli cyfryngau cymdeithasol y Llywodraeth gyhoeddi cynnwys newydd yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol.
Dylid ymgysylltu cyn lleied â phosibl â defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol yn ystod y cyfnod hwn, a'i gyfyngu i atgyfeiriadau ffeithiol. Ni ddylid gallu dehongli cynnwys cyfryngau cymdeithasol ar sianeli'r llywodraeth fel cynnwys sy’n hyrwyddo neu’n dathlu cyflawniadau'r llywodraeth, ac ni ddylid postio unrhyw beth y gellid ei ystyried fel sylwadau ar yr ymgyrch etholiadol barhaus.
Ymgyrchoedd a gwybodaeth i'r cyhoedd
Dylid cadw gweithgarwch ymgyrchu Llywodraeth Cymru i'r lleiafswm posibl yn y cyfnod cyn yr etholiad. Ni ddylid lansio unrhyw ymgyrchoedd newydd yn ystod y cyfnod hwn a dylid craffu'n fanwl ar unrhyw weithgarwch ymgyrchu presennol, boed yn ymgyrch y talwyd amdani, neu'n ymgyrch organig, a dylid gwneud achos cadarnhaol pam na ddylid ei atal am y cyfnod cyn-etholiad.
Dylid ystyried ymgyrchoedd eraill, fel cyllid myfyrwyr neu gymorth busnes, lle efallai na fyddai pobl yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddynt, fesul achos. Dylai unrhyw gytundeb i barhau fod yn gyfyngedig i ddarparu gwybodaeth niwtral a ffeithiol i'r cyhoedd, ac ni ddylai fod modd ei ystyried fel ymgyrch sy'n hyrwyddo cyflawniadau'r llywodraeth yn y maes hwnnw. Efallai y bydd angen addasu cynnwys a grëwyd cyn dechrau'r cyfnod cyn-etholiadol cyn ei ddefnyddio yn ystod y cyfnod hwn.
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi nifer fawr o gylchlythyrau sectorau i randdeiliaid er mwyn eu hysbysu am ddatblygiadau allweddol. Dylai'r rhain fod yn destun yr un profion uchod, ac os ystyrir eu bod yn amlwg yn angenrheidiol yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, rhaid iddynt gynnwys gwybodaeth ffeithiol a gwybodaeth gyfeirio yn unig. Gall hysbysiadau statudol barhau i gael eu cyhoeddi, ond dylent ymwneud â phrosiectau a gyhoeddwyd eisoes yn unig.
Cyfathrebu cyhoeddus gan uwch weision sifil
Ni ddylai fod unrhyw gyfathrebu cyhoeddus gan uwch weision sifil yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad. Mae hyn yn cynnwys cyfweliadau, ymddangosiadau mewn cynadleddau / digwyddiadau, neu unrhyw gyfweliadau â'r cyfryngau. Dylid gofalu nad yw unrhyw gyfweliadau a gynhelir cyn y cyfnod cyn-etholiad yn cael eu cadw a'u rhedeg yn ystod yr ymgyrch, a dylid ceisio sicrwydd ysgrifenedig ar hyn.
Os oes angen brys neu anochel am gyngor gan y llywodraeth i'r cyhoedd ar, er enghraifft, argyfwng iechyd neu iechyd anifeiliaid, bydd cydweithwyr cyfathrebu yn darparu cymorth i sicrhau bod hyn yn parhau i fod yn amlwg y tu allan i'r maes gwleidyddol.
Cyrff Hyd Braich
Er bod Cyrff Hyd Braich – cyrff statudol, cwmnïau sydd ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru, deiliaid swyddi statudol a Chomisiynwyr – yn gweithredu’n annibynnol ar Lywodraeth Cymru, maen nhw’n dal i fod yn sefydliadau’r Llywodraeth ac ni ddylent ymddangos fel pe baent yn dylanwadu neu’n ceisio dylanwadu ar y Senedd, Llywodraeth Cymru nac unrhyw blaid wleidyddol.
Mae cyfyngiadau'n berthnasol i Gyrff Hyd Braich yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol ac ni ddylent ganiatáu i'w safleoedd neu adnoddau eraill gael eu defnyddio at ddibenion gwleidyddiaeth plaid. Dylai pob corff gyfeirio at ei God Ymddygiad ar gyfer staff ac aelodau'r Bwrdd. Dylai cadeiryddion ac aelodau Bwrdd Cyrff Hyd Braich sy'n cael eu penodi gan Weinidogion Cymru osgoi gwneud datganiadau cyhoeddus yn ystod yr etholiad. Dylai timau partneriaeth sicrhau bod eu cyrff a'u cwmnïau yn ymwybodol o'r canllawiau hyn cyn i'r cyfnod cyn-etholiadol ddechrau.
Ymweliadau gan Weinidogion
Ni fydd ymweliadau gweinidogol fel arfer yn digwydd yn ystod yr ymgyrch cyn-etholiadol, ac ni fydd Gweinidogion yn cynnal digwyddiadau rhithwir cyhoeddus. Pan fydd hyn yn digwydd, dylid craffu'n fanwl ar unrhyw gyfathrebiadau cyhoeddus sy'n ymwneud â hwy trwy sianeli'r Llywodraeth o ran a ddylid eu cyhoeddi ac os felly, eu clirio ar lefel uwch cyn eu cyhoeddi. Dylid cymryd gofal hefyd gydag unrhyw gyfathrebiadau a gyhoeddir gan drydydd partïon neu sefydliadau os cynhelir unrhyw ddigwyddiadau yn rhinwedd swydd Weinidogol yn y cyfnod cyn yr etholiad.
Marchnata Cymru Wales
Dylid cadw gweithgarwch ymgyrchu o dan frand cenedl Cymru Wales i'r lleiafswm posibl yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad. Ni ddylid lansio unrhyw ymgyrchoedd newydd yn ystod y cyfnod hwn a dylid craffu'n fanwl ar unrhyw weithgarwch ymgyrchu presennol, boed yn ymgyrch y talwyd amdani, neu'n ymgyrch organig, a dylid gwneud achos cadarnhaol pam na ddylid ei atal am y cyfnod cyn-etholiadol.
Dylid cymeradwyo'r holl gynnwys (gan gynnwys gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol) ar lefel uwch cyn ei gyhoeddi. Dylid ystyried ymgyrchoedd eraill a gyflwynir o dan frand Cymru Wales fesul achos. Dylid eu cyfyngu i wybodaeth hyrwyddo am Gymru fel cyrchfan (e.e. i astudio, masnachu, buddsoddi neu ymweld), ac ni ddylai bod modd eu hystyried fel gwybodaeth sy'n hyrwyddo cyflawniadau'r llywodraeth yn y maes hwnnw.
Rhyngweithio â Llywodraethau eraill y DU
Rhaid ystyried a thrafod unrhyw ymgyrchoedd marchnata ar y cyd neu weithgarwch cyfathrebu arall a gynhelir mewn partneriaeth â gweinyddiaethau'r DU neu sefydliadau trydydd parti yn ofalus cyn y cyfnod cyn-etholiadol. Dylai'r ystyriaethau hyn fod yn seiliedig ar yr egwyddorion a nodir uchod. Bydd Llywodraeth y DU yn gosod eu cyfyngiadau eu hunain ar eu gweithgarwch yng Nghymru yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad. Pan wneir datganiadau gan Weinidogion y DU yn rhinwedd eu swydd fel Gweinidogion sy'n ymwneud â materion yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn, mae'n ddilys i Weinidogion Cymru ymateb drwy sianeli'r llywodraeth.
Casgliad
Y neges gyffredinol yw bod yn ofalus iawn yn y cyfnod yn union cyn y cyfnod cyn-etholiadol, ac yn ystod y cyfnod hwn, a gwirio bob amser os oes unrhyw amheuaeth yn eich meddwl am yr hyn a allai fod yn briodol yn y cyfnod cyn-etholiadol.
Pennaeth Newyddion.
Pennaeth Cyfathrebu Strategol.
Atodiad C: Etholiad Senedd Cymru (Y Senedd) 2026
Canllawiau ar gyfer gweithgarwch ystadegol, arolygon ac ymchwil yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol
Dyma ganllawiau i’r holl staff sy’n ymwneud â gweithgarwch ystadegol, arolygon ac ymchwil. Mae hyn yn cynnwys dadansoddwyr proffesiynol y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi (KAS) ac unrhyw staff eraill yn adrannau eraill Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â’r gweithgarwch hwn. Dylai’r cyrff sy’n bartneriaid inni ac eraill sy’n cynhyrchu ystadegau swyddogol yng Nghymru hefyd gadw’r canllawiau hyn mewn cof. Maent yn ategu'r Canllawiau i staff Llywodraeth Cymru. Mae’r canllawiau yn cwmpasu’r cyfnod cyn-etholiadol, sy’n weithredol o 8 Ebrill 2026, tan y diwrnod pleidleisio ar 7 Mai 2026, a chan gynnwys y diwrnod hwnnw.
Nid yw’r canllawiau yn ymdrin â phob posibilrwydd, ac os bydd unrhyw faterion eraill yn codi yn ystod yr ymgyrch dylech eu codi â’r Prif Ystadegydd neu’r Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol yn y lle cyntaf, a fydd yn rhoi arweiniad.
Egwyddorion
1. Ar gyfer ystadegau swyddogol, yn ôl yr arfer, sicrhewch eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau a Gorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009. Ar gyfer ymchwil, mae cod Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth a'r protocol cyhoeddi yn parhau i weithredu yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad.
2. Peidiwch â chystadlu â phleidiau ac ymgeiswyr am sylw'r cyhoedd.
3. Peidiwch â chymryd rhan mewn gwleidyddiaeth plaid na chael eich defnyddio at ddibenion gwleidyddiaeth plaid na rhoi eich hun mewn sefyllfa lle bo'n ymddangos eich bod yn gwneud hynny.
Cyhoeddi ystadegau
4. Dylid cyhoeddi allbynnau ystadegol y rhoddwyd rhag-hysbysiad amdanynt cyn dechrau’r cyfnod cyn-etholiadol. Peidiwch â chyhoeddi unrhyw ddeunydd ystadegol ad hoc na roddwyd rhag-hysbysiad amdanynt a pheidiwch â gohirio cyhoeddi unrhyw ddeunydd y rhoddwyd rhag-hysbysiad amdanynt gan y gallai'r cymhelliad dros wneud hynny gael ei gwestiynu.
5. Os na ellir osgoi gohirio allbwn ystadegol, byddwch yn dryloyw am y rhesymau dros ohirio mewn unrhyw ohebiaeth gyhoeddus ac, os oes modd, dylech ddatgan pryd y mae’n debygol y bydd yr ystadegau gohiriedig yn cael eu cyhoeddi. Pan fo modd, dylid osgoi gohirio pan fydd hynny’n golygu bod ystadegau’n cael eu cyhoeddi ar ôl y diwrnod pleidleisio yn lle cyn hynny.
6. Dylech osgoi cyhoeddi ystadegau swyddogol ar ddyddiad yr etholiad. Os oes allbwn wedi’i gyhoeddi ymlaen llaw ar gyfer y dyddiad hwnnw, dylech ymgynghori â’r Pennaeth Safonau a Pholisïau Ystadegol a glynu wrth ganllawiau'r GSS ar gyhoeddi ystadegau swyddogol ar ddiwrnodau pleidleisio.
7. Efallai y bydd rhai amgylchiadau eithriadol sy'n gofyn am gyhoeddi ystadegau ad hoc na roddwyd rhag-hysbysiad amdanynt (er enghraifft, pan fydd ystadegyn heb ei gyhoeddi wedi’i ddefnyddio’n gyhoeddus). Dylid trafod hyn bob amser â’r Prif Ystadegydd.
8. Dylid parhau i gyhoeddi negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n ymwneud â chyhoeddi allbynnau ystadegol drwy gyfrifon @ystadegaucymru a @statisticswales. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, dylid osgoi cynhyrchu ffeithluniau neu siartiau newydd ar gyfer cyfryngau cymdeithasol nad ydynt wedi'u llunio a'u cyhoeddi yn flaenorol.
9. Cymerwch ofal mawr drwy'r amser i fod yn ddiduedd ac yn wrthrychol yn y modd y byddwch yn cyflwyno ac yn disgrifio ystadegau, ac mewn cyfarfodydd briffio wyneb yn wyneb.
10. Dylid osgoi blogiau ystadegol newydd yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol.
Cyhoeddi Adroddiadau Ymchwil
11. Dylid cyhoeddi unrhyw adroddiadau y rhoddwyd rhag-hysbysiad amdanynt cyn dechrau'r cyfnod cyn-etholiadol. Fodd bynnag, gan ystyried y cyfnod rhag-hysbysiad byr (pythefnos) ar gyfer ymchwil, y disgwyliad cyffredinol yw na fydd ymchwil yn cael ei chyhoeddi yn ystod y cyfnod. Er hyn, os oes rhesymau dros gyhoeddi yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol, dylid rhoi cyfnod rhag-hysbysiad hirach a chlirio'r mater â'r Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol. Gallwch ofyn am gyngor ar achosion penodol hefyd gan y Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol.
Caffael ymchwil
12. Ni ddylid cynnal gweithgarwch caffael ar gyfer darn newydd o ymchwil yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol, ac ni ddylid gwneud unrhyw ddyfarniad caffael presennol yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol. Dylid gofyn am gymeradwyaeth gan y Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol os oes amgylchiadau eithriadol sy'n golygu na fyddai'n bosibl aros tan ar ôl yr etholiad i ddechrau caffael neu ddyfarnu.
Ceisiadau am wybodaeth neu gyngor
13. Dylid ymdrin â cheisiadau am wybodaeth ffeithiol yn unol â'r Canllawiau i Staff Llywodraeth Cymru.
14. Byddwch yn deg wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth ffeithiol gan ymgeiswyr – er enghraifft o ran manylder yr wybodaeth y byddwch yn ei rhoi ac o ran prydlondeb eich ateb.
15. Dylech barhau i ymateb i geisiadau am arweiniad ffeithiol ar fethodoleg.
16. Cymerwch ofal mawr wrth ymdrin â cheisiadau am gyngor ar ddehongli neu ddadansoddi ystadegau, yn arbennig ceisiadau sy'n ymwneud â pholisïau neu addewidion maniffesto pleidiau. Peidiwch â chostio polisïau nac addewidion heb ymgynghori'n gyntaf ag Is-adran y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth.
17. Bydd cyhoeddi deunyddiau a gyhoeddwyd mewn ymateb i geisiadau am wybodaeth ystadegol bob pythefnos yn parhau drwy gydol y cyfnod cyn-etholiadol a dylech sicrhau bod y tîm cyhoeddiadau ystadegol (Stats.web) yn cael eu hysbysu am geisiadau o’r fath. Mae’n bwysig bod hyn yn cael ei wneud ar sail systematig sy’n osgoi’r canfyddiad o fod yn ddethol.
Ceisiadau am ddeunydd sydd wedi'i gyhoeddi
18. Gallwch ddarparu niferoedd bach o daflenni, papurau cefndir neu gyhoeddiadau am ddim a oedd ar gael cyn cyfnod yr etholiad, mewn ymateb i geisiadau amdanynt. Peidiwch â bodloni archebion mawr heb gymeradwyaeth y Prif Ystadegydd neu’r Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol, oherwydd mae’n bosibl mai’r bwriad yw eu defnyddio at ddibenion ymgyrchu.
Arolygon
19. Gallwch barhau i gynnal cyfrifiadau ac arolygon rheolaidd, arolygon parhaus ac arolygon sydd ar y gweill eisoes. Gall arolygon ad hoc sy'n rhan o gyfres ystadegol barhaus gael eu cynnal hefyd.
20. Gall arolygon ad hoc eraill fod yn ddadleuol neu fod yn gysylltiedig â mater yn ymwneud â'r etholiad. Lle bo hyn yn debygol, dylech ystyried eu gohirio neu eu canslo. Petai hyn yn anodd neu'n gostus holwch Dîm Cyngor Arolygon y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi am gyngor.
Ymchwil maes
21. Yn gyffredinol, ni ddylid gwneud gwaith maes sy'n ymwneud â phrosiect ymchwil yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol, er y gall fod yn amhosibl osgoi'r cyfnod cyn-etholiadol ar gyfer gwaith arolwg parhaus neu waith ymchwil lle mae amser yn hollbwysig. Dylid gofyn i'r Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol am gyngor ar achosion penodol, ac mae angen ei gymeradwyaeth i wneud gwaith maes yn y cyfnod cyn-etholiadol.
Cyngor
22. Os oes gennych unrhyw amheuon, cysylltwch â’r unigolion isod neu â’r enwau cyswllt yn y canllawiau cyffredinol ynghylch yr etholiad.
Enwau cyswllt yn y Gwasanaeth Gwybodaeth a Dadansoddi (KAS):
Y Prif Ystadegydd
Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol – PrifSwyddogYmchwilGymdeithasol@llyw.cymru
Penaethiaid Polisi Ystadegau a Safonau
