Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r buddsoddiad mwyaf erioed mewn diogelwch tomenni glo trwy gynllun grant amlflwyddyn newydd ar gyfer Tomenni Glo.
Rwy'n falch iawn o gadarnhau, yn dilyn ein galwad am geisiadau, y bydd cam 1 y grant diogelwch tomenni glo newydd yn dyrannu dros £80m o gyllid i 10 awdurdod lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o 2026-27, tan 2029-30.
Mae'r dull amlflwyddyn hwn yn rhywbeth yr wyf wedi galw amdano ers amser maith. Bydd yn galluogi gwaith cynnal a chadw hanfodol ar dros 400 o domenni rhwng nawr a 2030 a bydd yn galluogi awdurdodau lleol a CNC i gynllunio, datblygu a chyflawni cynlluniau mwy cymhleth.
Bydd awdurdodau lleol a CNC yn gwneud ystod o waith, o fân waith cynnal a chadw hyd at gynigion cyfalaf mawr ar gyfer prosiectau gwerth hyd at £7 miliwn.
Mae rhai o'r prif ddyraniadau yn cynnwys:
- Nant-yr-Odyn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful - £7m
- Cam 1 Prosiect Adfywio safle'r British - Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen - £5.6m
- Graig Ddu, Dinas, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf - £4.8m
- Penyrenglyn, Cyfoeth Naturiol Cymru - £3.8m
- Gwaith Cyweirio ar ôl Tirlithriad Tylorstown, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf - £2.3m
Rwy'n ddiolchgar i'r holl bartneriaid am eu gwaith parhaus wrth gyflawni'r rhaglen hon.
Rwyf am gydnabod cyfraniad Llywodraeth y DU, sydd wedi ymrwymo £25 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon a £118 miliwn arall dros y tair blynedd nesaf, gan ddod â chyfanswm buddsoddiad y DU i £143 miliwn.
O'i gyfuno â chyllid Llywodraeth Cymru, mae hyn yn golygu bod dros £230 miliwn bellach wedi'i ymrwymo i ddiogelwch tomenni glo ledled Cymru. Mae hyn yn adlewyrchu'r realiti bod y tomenni hyn yn dyddio o'r cyfnod cyn datganoli a bod y cyfrifoldeb i fynd i'r afael â nhw yn cael ei rannu.
O ystyried bod cyflwr tomenni glo, yn eu hanfod, yn anrhagweladwy, gan gynnwys effaith tywydd anffafriol ac eithafol arnynt, bydd y cynllun grant yn cael ei ailagor yn flynyddol. Bydd hyn yn sicrhau bod penderfyniadau cyllido yn parhau i ymateb i risgiau sy'n dod i'r amlwg a blaenoriaethau lleol sy'n newid.Mae buddsoddi mewn diogelwch tomenni glo yn cefnogi'r cymunedau sy'n byw yng nghysgod y tomenni hyn. Mae'r buddsoddiad hwn yn dod â thwf economaidd a chyfleoedd cyflogaeth i rai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, gan ddefnyddio tir unwaith eto ac annog buddsoddiad mewn technolegau newydd.
Byddaf yn gwneud Datganiad Llafar i'r Senedd cyn bo hir ar gyflawni'r rhaglen ehangach ynghylch diogelwch tomenni glo yng Nghymru lle byddaf yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sy'n ymwneud â'r Cynllun Grant.
