Vikki Howells AS, Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant o adsefydlu yn y system cyfiawnder troseddol.
Rydym yn gwybod bod darparu rhaglenni dysgu, sgiliau a chyflogadwyedd o ansawdd da mewn carchardai yn ffactor sy'n cyfrannu at leihau cyfraddau aildroseddu ac rydym wedi ymrwymo i roi darpariaeth ar waith mewn carchardai sy'n cefnogi pobl i ddilyn llwybr effeithiol er mwyn atal aildroseddu.
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi ein bod wedi sicrhau £500,000 ychwanegol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer gweithredu darpariaeth ddysgu, sgiliau a llyfrgelloedd yng Nghymru. Mae hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i adsefydlu yn y system gyfiawnder. Felly, £11.566m yw cyfanswm ein cyllid ar gyfer dysgu, sgiliau a llyfrgelloedd, gyda'r cymorth ychwanegol yn cael ei ddarparu drwy ein rhaglen ReAct Plws.
