Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf heddiw yn cadarnhau cychwyn adrannau 119 a 120 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 yng Nghymru. 

Mae hwn yn gam arwyddocaol a chadarnhaol, sy'n cryfhau amddiffyniadau ar gyfer staff y GIG ac a fydd yn helpu i sicrhau bod ein holl ysbytai a lleoliadau gofal iechyd yn lleoedd diogel lle gall gofal tosturiol ffynnu.

Mae adran 119 yn creu trosedd benodol o achosi niwsans neu aflonyddwch ym mangreoedd y GIG, gan atgyfnerthu'r neges nad oes lle i ymddygiad aflonyddgar a bygythiol yn ein gwasanaeth iechyd. Mae adran 120 yn rhoi'r pŵer i swyddogion awdurdodedig y GIG symud ymaith person yr amheuir yn rhesymol o gyflawni'r drosedd honno. 

Gyda'i gilydd, mae'r darpariaethau hyn yn rhoi'r hyder a'r mandad i staff weithredu'n gyflym i amddiffyn eu hunain, eu cydweithwyr, a'u cleifion, fel y gellir parhau i ddarparu gwasanaethau heb darfu.

Mae hyn yn ymwneud â rhoi diogelwch, urddas a chefnogaeth i'r gweithlu. Nid yw'n troseddoli pobl sy'n ceisio gofal; mae'n sicrhau y gall staff wneud eu gwaith yn rhydd rhag ofn ac y gall pobl gael triniaeth mewn amgylcheddau tawel a diogel. 

Trwy gychwyn yr adrannau hyn, rydym yn tanlinellu'r ymagwedd dim goddefgarwch sydd gennym ers tro tuag at drais ac ymddygiad annerbyniol yn y GIG.

Mae'r gwaith hwn wedi'i lunio mewn partneriaeth â'r Grŵp Cydweithredol Gwrth‑drais, yr Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, cyrff y GIG ac undebau llafur, gan adlewyrchu ein hymrwymiad cyffredin i sicrhau gweithleoedd diogel a llesiant staff. Mae'r ymgysylltiad adeiladol a'r mewnwelediadau ymarferol wedi helpu i sicrhau bod y dull yn gadarn, yn gymesur ac yn barod i'w weithredu.

Yng Nghymru, rydym yn sefyll gyda’n gweithlu yn y GIG. Byddwn yn parhau i gefnogi staff gyda'r offer, yr hyfforddiant a'r partneriaethau sydd eu hangen arnynt i deimlo'n ddiogel yn y gwaith ac i ddarparu'r gofal o ansawdd uchel y mae pobl yn dibynnu arno.

Er mwyn cefnogi'r gweithrediad, rydym yn cyhoeddi canllawiau i sefydliadau'r GIG yng Nghymru o dan adran 121 o'r Ddeddf. Mae'n nodi disgwyliadau ymarferol ar gyfer awdurdodi, hyfforddiant, tynnu'n ddiogel, cadw cofnodion, ac integreiddio â pholisïau trais ac ymosodol lleol. Mae ar gael yn Rheoli ymddygiad niwsans ar safleoedd GIG Cymru | LLYW.CYMRU