Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae a wnelo'r Asesiad Effaith Integredig hwn â'r offeryn statudol (OS) drafft canlynol:

Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2026

Mae Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2026 (“Rheolidau”) yn darparu rheol ad-dalu newydd ar gyfer trafodiadau sy'n ddarostyngedig i gyfraddau preswyl uwch y dreth trafodiadau tir.

Caiff yr OS drafft ei osod gerbron y Senedd ar y cyd â'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy'n cynnwys yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol:

Effaith a'r dull cymesur

Yn unol â chanllawiau ac arfer Llywodraeth Cymru o ran Asesiadau Effaith Integredig, defnyddiwyd dull cymesur o ymdrin â'r asesiad hwn. Cynllun gan Lywodraeth Cymru yw Cynllun Lesio Cymru, sy'n cyfrannu at ddarparu cartrefi fforddiadwy. Nod yr ad-daliad newydd yw cymell mwy i fod yn rhan o'r Cynllun a helpu i ddarparu tai i awdurdodau lleol Cymru, i'w defnyddio fel llety rhent fforddiadwy. Bydd hyn yn helpu i fynd i'r afael ag effaith digartrefedd a'r defnydd o lety dros dro.

Gan fod y rheoliadau arfaethedig wedi'u cynllunio i ysgogi mwy o bobl i gymryd rhan yn y Cynllun, mae'r asesiad effaith hwn yn dibynnu, a lle bo angen, yn adeiladu ar yr asesiad effaith ar gyfer Cynllun Lesio Cymru a'r asesiad effaith ar gyfer y Papur Gwyn ar Dai Digonol, Rhenti Teg, a Fforddiadwyedd. Mae'r Papur Gwyn yn nodi'r cynnig polisi i edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno, drwy ddiwygiadau i ddeddfwriaeth, ad-daliad o gyfraddau preswyl uwch TTT, pan fo person yn prynu eiddo ac yna'n ei lesio i awdurdod lleol drwy’r Cynllun.

Felly, mae ffocws yr asesiad hwn wedi'i gyfyngu i'r newid rheoleiddiol sy'n ymwneud â'r ad-daliad o gyfraddau preswyl uwch TTT. Er bod y nod polisi yn gysylltiedig â Chynllun Lesio Cymru, mae dadansoddiad manwl o effeithiau ehangach y Cynllun ei hun y tu allan i gwmpas y ddogfen hon.

Adran 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried eu cymryd a pham?

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig diwygiadau deddfwriaethol i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017. Mae Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2026 (“Rheolidau”) yn darparu rheol ad-dalu newydd ar gyfer trafodiadau y mae cyfraddau preswyl uwch TTT yn gymwys iddynt.

Bydd yr ad-daliad newydd ar gyfer cyfraddau preswyl uwch y dreth trafodiadau tir yn gymwys pan fo person (y trethdalwr) yn prynu annedd sy'n costio £400,000 neu lai sy'n atebol i'r ad-daliad, ac yna'n ei lesio i awdurdod lleol yng Nghymru, o fewn 18 mis i'r pryniant hwnnw, ac mae’r les yn bodloni amodau'r eraill yn y Rheoliadau (mae'r amodau wedi'u cynllunio i sicrhau bod lesoedd a roddir i awdurdodau lleol o dan Gynllun Lesio Cymru yn gymwys i gael yr ad-daliad). Fodd bynnag, dim ond ad-daliad rhannol yw'r ad-daliad. Pan fodlonir yr amodau yn y rheoliadau, mae'r trafodiad yn cael ei drin fel pe na bai'n ddarostyngedig i'r HRRLTT, ond yn hytrach yn ddarostyngedig i brif gyfraddau preswyl LTT, a wedyn mae gan y trethdalwr hawl i hawlio ad-daliad, a fydd, yn gyffredinol, yn hafal i'r gwahaniaeth.

Cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Cynllun Lesio Cymru sy'n cyfrannu at ddarparu cartrefi fforddiadwy. Nod y rheoliadau ad-dalu arfaethedig yw helpu i ysgogi mwy o bobl i gymryd rhan yn y Cynllun a chefnogi'r broses o ddarparu tai i awdurdodau lleol Cymru i’w defnyddio fel llety rhent fforddiadwy, yn enwedig o ran mynd i'r afael ag effaith digartrefedd a'r defnydd o lety dros dro.

Mae cartref fforddiadwy o ansawdd da yn dod ag ystod eang o fanteision o ran iechyd, dysgu a ffyniant. Bydd darparu tai fforddiadwy yn helpu'r rhai â'r angen mwyaf ac, o ganlyniad, yn helpu i fynd i'r afael â thlodi. Mae’r Cynllun yn cyfrannu’n uniongyrchol at yr ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ddatblygu:

cynllun cenedlaethol sy’n cyfyngu rhent i lefelau lwfans tai lleol i deuluoedd a phobl ifanc sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref

(Rhaglen lywodraethu: diweddariad 2021)

O ran y Pum Ffordd o Weithio drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, bydd y rheoliadau ad-dalu arfaethedig yn gwneud y canlynol:

  • Hirdymor - Fel rhan o'r ymrwymiad hirdymor i roi terfyn ar ddigartrefedd, mae Llywodraeth Cymru yn ceisio lleihau dibyniaeth ar lety dros dro drwy gynyddu'r cyflenwad o gartrefi tymor hwy addas. Wrth gymell mwy o bobl i gymryd rhan yng Nghynllun Lesio Cymru, y nod yw cynyddu'r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy dros y tymor hir i fynd i'r afael ag effaith digartrefedd a lleihau'r defnydd o lety dros dro.
  • Atal - Nod polisi y cynllun ad-dalu arfaethedig yw helpu i gymell mwy o bobl i fod yn rhan o'r Cynllun a helpu i ddarparu tai i awdurdodau lleol eu defnyddio ar gyfer llety rhent fforddiadwy, fel rhan o’r gwaith o fynd i’r afael ag effaith digartrefedd a'r defnydd o lety dros dro.
  • Integreiddio - Cartref digonol yw'r garreg sylfaen i sicrhau y gall pawb gyflawni eu potensial waeth beth fo'u cefndir, gan gynnwys eu hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol. Nod yr ymgais i gymell mwy o bobl i gymryd rhan yn y Cynllun yw mynd i'r afael â phryderon ynghylch tlodi sy’n digwydd yn sgil costau tai, gan gynnwys cymunedau lle mae teuluoedd a phobl ifanc yn cael eu prisio allan o'r farchnad rhentu preifat. Mae’r Cynllun hefyd yn ymdrin â'r problemau iechyd meddwl ac iechyd corfforol sy'n gysylltiedig â thai o ansawdd gwael yn ogystal ag anghydraddoldebau a chyfleoedd bywyd gwael sy'n gysylltiedig â byw mewn llety o ansawdd gwael heb sicrwydd. Mae i gartref fforddiadwy, diogel, fanteision sylweddol o ran llesiant ac ansawdd bywyd yn fwy cyffredinol.

Cydweithio a chynnwys

Ym mis Mehefin 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyrdd Galwad am dystiolaeth ar sicrhau llwybr tuag at dai digonol, gan gynnwys rhenti teg a fforddiadwyedd.

Nod y Papur Gwyrdd oedd casglu gwybodaeth er mwyn meithrin dealltwriaeth well o'r sector rhentu preifat yng Nghymru, gan gynnwys ymddygiad landlordiaid a thenantiaid, a'r newidiadau tymor hwy y gellid bod eu hangen yn y sector.

Dangosodd tystiolaeth a gyflwynwyd i'r Papur Gwyrdd fod cynyddu'r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy yn rhan allweddol o symud ymlaen tuag at sicrhau digonolrwydd tai yng Nghymru. Galwodd nifer o ymatebwyr i'r Papur Gwyrdd ar Lywodraeth Cymru i ystyried darparu ad-daliad TTT i gynyddu'r cyflenwad o eiddo rhent preifat fel rhan o’r gwaith o hyrwyddo ailgydbwyso rhwng y cyflenwad a'r galw yn y sector rhentu preifat.

Mae dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran datblygu polisi trethi yn cael ei ategu gan y Fframwaith Polisi Trethi a'r Diweddariad ar y Fframwaith Polisi Trethi sy'n manteisio ar y cyfle i nodi a mynegi'r dull Cymreig unigryw o ddatblygu a chyflawni polisi trethi ar y cyd, gan gynnwys rhanddeiliaid a phartneriaid. Mae'n nodi sut y byddwn yn sicrhau ein bod yn parhau i ymgorffori cynaliadwyedd, tegwch ac ystyriaethau cydraddoldeb yn y modd yr ydym yn ymdrin â'n blaenoriaethau. Felly, ni ddylai newidiadau trethi a wneir yn y maes hwn, sy'n arwain at ostyngiad yn nerbyniadau trethi y Llywodraeth, gael eu gwneud yn bennaf er budd buddsoddwyr preifat – yn hytrach dylent fod yn seiliedig ar gael "rhywbeth am rywbeth" a fydd er budd y cyhoedd a'r rhannau mwy agored i niwed o gymdeithas sydd angen cefnogaeth.

Ym mis Hydref 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn ar sicrhau llwybr tuag at Dai Digonol, Rhenti Teg, a Fforddiadwyedd:

Roedd y Papur Gwyn yn amlinellu’r cynnig i edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno, drwy ddiwygiadau i ddeddfwriaeth, ad-daliad o gyfraddau preswyl uwch TTT pan fo landlord preifat yn prynu eiddo ac yna'n ei roi ar les i awdurdod lleol drwy Gynllun Lesio Cymru. Byddai prif gyfraddau preswyl TTT yn parhau i fod yn gymwys i'r trafodiad. Nod polisi datganedig yr ad-daliad arfaethedig oedd helpu i ysgogi mwy o bobl i gymryd rhan yn y Cynllun a chefnogi'r broses o ddarparu tai i awdurdodau lleol eu defnyddio fel llety rhent fforddiadwy a thrwy hynny fynd i'r afael ag effaith digartrefedd.

Dangosodd canfyddiadau cychwynnol ymgynghoriad y Papur Gwyn fod mwyafrif bach o'r rhai a fynegodd farn yn cefnogi'r ad-daliad TTT arfaethedig. Roedd hyn yn cynnwys sawl awdurdod lleol.

Nid yw Llywodraeth Cymru yn darparu tai fforddiadwy yn uniongyrchol gan ei bod yn fwy effeithlon gweithio gyda sefydliadau partner sy'n gwneud hyn eisoes. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, landlordiaid cofrestredig preifat a’r sector rhentu preifat i ddarparu tai ar ei rhan. Yn 2022, cyflwynodd Llywodraeth Cymru fesurau i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy drwy gyflwyno ac ariannu Cynllun Lesio Cymru (LSW).

Nod y Cynllun yw cynyddu'r mynediad at rentu'n breifat yng Nghymru drwy roi cyfle i landlordiaid a pherchnogion tai gwag roi eu heiddo ar les i awdurdod lleol. Mae Llywodraeth Cymru eisiau cymell pobl i gofrestru gymryd rhan yn y Cynllun. Prif nod y rheoliadau ad-dalu newydd yw helpu i ysgogi mwy o bobl i gymryd rhan yn y Cynllun a chefnogi'r broses o ddarparu tai i awdurdodau lleol eu defnyddio fel llety rhent fforddiadwy, fel rhan o’r gwaith o fynd i'r afael ag effaith digartrefedd a'r defnydd o lety dros dro.

Costau ac arbedion

Nod polisi'r ad-daliad arfaethedig yw cymell mwy o bobl i gymryd rhan yn y Cynllun. Felly, mae'n anodd rhag-weld faint o eiddo a allai ddod yn rhan o’r cynllun o ganlyniad uniongyrchol i'r ad-daliad. Mae hynny yn ei dro yn achosi anhawster wrth amcangyfrif y refeniw treth a gollir drwy ddarparu'r ad-daliad. Er mwyn rhoi syniad o'r costau, mae nifer o senarios wedi'u profi ac maent wedi'u nodi yn y Memorandwm Esboniadol a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol (EMRIA).

Mae'r EMRIA yn dangos, dros gyfnod les isafswm 5 mlynedd Cynllun Lesio Cymru, y buddion o ran arbedion cost trwy osgoi costau llety dros dro o'u cymharu â'r gostyngiad mewn refeniw TTT.  Er enghraifft, yr arbedion cost amcangyfrifedig o gartrefu dau o bobl mewn annedd o dan y Cynllun dros gyfnod les o 5 mlynedd yn hytrach nag mewn llety dros dro yw £31,646. Os yw'r eiddo'n costio £180,000 i’w brynu, byddai’r ad-daliad yn £9,000. Byddai'r arbediad cost cyffredinol yn dal i fod yn £22,646 dros y cyfnod les 5 mlynedd, ar ôl y gostyngiad yn y refeniw treth.

Ystyrir hefyd bod buddion cymdeithasol sylweddol i denantiaid o ran cael diogelwch deiliadaeth tymor hwy yn eu cartref (yn enwedig i deuluoedd â phlant). Mae adroddiadau gan Sefydliad Bevan a Shelter Cymru (Nowhere to call home - living in temporary accommodation a The impact of temporary accommodation on children and their families) yn dangos pam y mae angen rhagor o dai parhaol, fforddiadwy ac addas, a hynny er mwyn galluogi pobl i symud allan o lety dros dro ac ymlaen i gartref sefydlog, hirdymor. Daw'r adroddiadau i'r casgliad ei bod yn amlwg bod gormod o bobl yn byw mewn llety dros dro sy'n anaddas i'w hanghenion, a'u bod yn byw mewn llety o'r fath am lawer rhy hir. Nid yw lleoli nifer cynyddol o bobl mewn llety dros dro ychwaith yn gynaliadwy i awdurdodau lleol. Mae symud pobl i gartrefi addas yn allweddol i leihau'r pwysau ar wasanaethau, yn ogystal â galluogi pobl i ailadeiladu eu bywydau ar ôl trawma digartrefedd. Mae cartrefi cymdeithasol yn darparu diogelwch hirdymor, rhenti fforddiadwy a reoleiddir a thawelwch meddwl ar gyfer y dyfodol. Mae gwneud yn siŵr bod pawb sy'n byw mewn llety dros dro yn gallu cael gafael ar gartrefi o'r fath yn hanfodol.

Er ei bod yn anodd cyfrifo'r gost, aeth adroddiad diweddar a luniwyd ar gyfer Homes England ati i ddeall sut y mae llesiant unigolion yn newid pan fyddant yn symud o lety dros dro i dai cymdeithasol. Mae'r dadansoddiad yn awgrymu bod gwahaniaethau ystadegol arwyddocaol mewn boddhad â bywyd a hunangofnodir rhwng preswylwyr llety dros dro a thai cymdeithasol. Adroddodd tenantiaid a symudodd o lety dros dro i dai cymdeithasol welliant sylweddol mewn boddhad cyffredinol â bywyd, gan gynnwys iechyd meddwl gwell a llai o straen, mynediad gwell at wasanaethau a chymorth, mwy o breifatrwydd a gofod personol, ac effaith gadarnhaol ar blant.

Mae'r adroddiad hefyd yn meintioli'r gwelliant i lesiant pobl sy'n symud o lety dros dro i dai cymdeithasol. Mae'r tablau isod yn dangos gwerth ariannol amcangyfrifedig y cynnydd mewn boddhad â bywyd ymysg oedolion (Tabl 1) a phlant (Tabl 2) sy'n symud o lety dros dro i dai cymdeithasol.

Tabl 1: Gwerthoedd Ariannol Llesiant Gwell (prisiau 2024, fesul oedolyn, y flwyddyn):

  • Newid cyfartalog mewn boddhad â bywyd (ymatebwyr sy’n byw mewn tai cymdeithasol o’u cymharu a’r rhai sy’n byw mewn llety dros dro) - +0.86
  • Isel - £10,593
  • Canolig - £13,771
  • Uchel - £16,949

(Ffynhonnell: Homes England – Measuring Social Value Paper 6: Measuring the Wellbeing Impacts of Temporary Accommodation & Social Housing (SQW), Gorffennaf 2025)

Tabl 2: Gwerthoedd Ariannol Llesiant Gwell (prisiau 2024, fesul plentyn, y flwyddyn):

  • Newid cyfartalog mewn hapusrwydd (ymatebwyr sy’n byw mewn tai cymdeithasol o’u cymharu a’r rhai sy’n byw mewn llety dros dro) - +1.01
  • Isel - £12,410
  • Canolig - £16,133
  • Uchel - £19,856

(Ffynhonnell: Homes England – Measuring Social Value Paper 6: Measuring the Wellbeing Impacts of Temporary Accommodation & Social Housing (SQW), Gorffennaf 2025)

Asesiad o'r effaith ar hawliau plant

1. Amcanion polisi

Cynigir cyflwyno, drwy ddiwygiadau i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, ad-daliad o elfen ardrethi preswyl uwch TTT pan fo person yn prynu eiddo ac yna'n ei roi ar les i awdurdod lleol yng Nghymru drwy Gynllun Lesio Cymru. Byddai prif gyfraddau preswyl TTT yn parhau i fod yn gymwys i'r trafodiad.

Nod polisi'r ad-daliad arfaethedig yw cymell mwy o bobl i gymryd rhan yn y Cynllun, gan helpu i ddarparu tai i awdurdodau lleol i’w defnyddio fel llety rhent fforddiadwy.  Mae hyn yn rhan o nod Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag effaith digartrefedd a defnyddio llety dros dro. Menter gan Lywodraeth Cymru yw Cynllun Lesio Cymru, sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at yr ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ddatblygu:

cynllun cenedlaethol sy'n cyfyngu rhent i lefelau lwfans tai lleol i deuluoedd a phobl ifanc sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

(Rhaglen lywodraethu: diweddariad)

Fel rhan o'r ymrwymiad hirdymor i roi terfyn ar ddigartrefedd, mae Llywodraeth Cymru yn ceisio lleihau dibyniaeth ar lety dros dro drwy gynyddu'r cyflenwad o gartrefi tymor hwy addas. Felly, y nod wrth gymell mwy o bobl i fod yn rhan o'r Cynllun yw cynyddu'r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy i leihau'r defnydd o lety dros dro. Bydd hyn yn helpu i leihau costau sylweddol llety dros dro i awdurdodau lleol ac effaith niweidiol digartrefedd ar unigolion, gan gynnwys plant, a theuluoedd.

Er na fydd yr ad-daliad arfaethedig ei hun yn effeithio'n uniongyrchol ar blant, mae’n bosibl y bydd effeithiau cadarnhaol eilaidd ar blant a phobl ifanc. Drwy helpu i ysgogi mwy o anheddau i fod ar gael drwy’r Cynllun, bydd hyn yn cynyddu mynediad at dai diogel, sefydlog. Drwy leihau dibyniaeth ar lety dros dro, bydd teuluoedd â phlant yn elwa ar amodau byw gwell sy'n cefnogi iechyd, addysg a llesiant emosiynol. Fel y nodir yn asesiad effaith integredig y cynllun, mae tystiolaeth yn dangos yn gyson bod cartrefi diogel a pharhaol yn darparu sylfaen gryfach i blant ar gyfer datblygu, lleihau straen ac ansefydlogrwydd, ac yn gwella gwydnwch teuluoedd. Mae'r polisi a'r ddeddfwriaeth arfaethedig felly yn cyfrannu at liniaru effeithiau andwyol digartrefedd ar blant a chefnogi canlyniadau hirdymor gwell.

2. Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc

Ystyrir bod manteision cymdeithasol sylweddol yn gysylltiedig â thenantiaid yn cael sicrwydd o ddeiliadaeth tymor hwy yn eu cartref eu hunain (yn enwedig i deuluoedd â phlant). Mae adroddiad diweddar gan Sefydliad Bevan yn dangos bod 2,604 o blant o dan 16 oed yng Nghymru ym mis Mehefin 2025 yn byw mewn llety dros dro. Mae'r adroddiad yn disgrifio sut y gall llety dros dro gael effeithiau negyddol sylweddol ar blant a'u teuluoedd. Mae'r themâu hyn yn cael eu hadleisio mewn adroddiad gan Gomisiynydd Plant Cymru ar sut mae tai a digartrefedd yn effeithio ar blant yng Nghymru. Mae tai diogel, digonol yn hanfodol ar gyfer iechyd corfforol, sefydlogrwydd emosiynol a llwyddiant addysgol plant. Mae amodau tai gwael a digartrefedd yn tanseilio'r canlyniadau hyn.

Roedd adroddiad diweddar a baratowyd ar gyfer Homes England hefyd yn mynd ati i geisio deall sut mae llesiant yn newid pan fydd unigolyn yn symud o lety dros dro i dai cymdeithasol. Mae'r dadansoddiad yn awgrymu bod gwahaniaethau ystadegol arwyddocaol mewn boddhad â bywyd a hunangofnodir rhwng preswylwyr llety dros dro a thai cymdeithasol. Adroddodd tenantiaid a symudodd o lety dros dro i dai cymdeithasol welliant sylweddol mewn boddhad cyffredinol â bywyd, gan gynnwys iechyd meddwl gwell a llai o straen, mynediad gwell at wasanaethau a chymorth, mwy o breifatrwydd a gofod personol, ac effaith gadarnhaol ar blant.

Mae'r adroddiad hefyd yn meintioli'r gwelliant i lesiant pobl sy'n symud o lety dros dro i dai cymdeithasol. Dangosir gwerth ariannol amcangyfrifedig y cynnydd mewn boddhad bywyd i Blant yn nhabl 1.

Tabl 1: Gwerthoedd Ariannol Llesiant Gwell (prisiau 2024, fesul plentyn, y flwyddyn)

  • Newid cyfartalog mewn hapusrwydd (ymatebwyr sy’n byw mewn tai cymdeithasol o’u cymharu a’r rhai sy’n byw mewn llety dros dro) - +1.01
  • Isel - £12,410
  • Canolig - £16,133
  • Uchel - £19,856

(Ffynhonnell: Measuring Social Value Paper 6: Measuring the Wellbeing Impacts of Temporary Accommodation & Social Housing (SQW), Gorffennaf 2025)

3. Dadansoddi’r dystiolaeth ac asesu’r effaith

Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyladwy i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) a’i Brotocolau Opsiynol wrth iddynt arfer unrhyw rai o’u swyddogaethau.

Wrth ddatblygu ein cynnig, rydym wedi ystyried yr effaith y gallai ei chael ar hawliau plant fel y nodir o dan CCUHP. Mae'r erthyglau canlynol yn berthnasol yng nghyd-destun y rheoliadau ad-dalu arfaethedig:

Erthygl 2: Peidio â gwahaniaethu

Mae'r Confensiwn yn gymwys i bob un, beth bynnag fo'i hil, ei grefydd, ei alluoedd, beth bynnag y mae’n ei feddwl neu'n ei ddweud a pha fath bynnag o deulu y daw ohono.

Effaith

Effaith gadarnhaol (anuniongyrchol) bosibl trwy sicrhau bod mwy o dai fforddiadwy ar gael drwy Gynllun Lesio Cymru, gan roi budd i blant o bob cefndir a lleihau anghydraddoldeb o ran mynediad at gartrefi diogel.

Erthygl 3: Budd Gorau’r Plentyn

Dylai pob sefydliad sy’n ymwneud â phlant weithio at yr hyn sydd orau i bob plentyn.

Effaith

Er bod y mesurau arfaethedig yn targedu landlordiaid ac awdurdodau lleol yn bennaf, maent yn effeithio ar fynediad plant at dai sefydlog, fforddiadwy. Mae sefydlogrwydd yn cael ei ystyried yn elfen greiddiol o hyrwyddo buddiannau gorau plant ac ystyriwyd yr effaith neu'r effaith anuniongyrchol ar les plant.

Erthygl 12: Yr hawl i ddweud eu dweud

Mae gan blant yr hawl i leisio’u barn ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd pan fo oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt, ac i’w barn gael ei hystyried.

Effaith

Nid fu unrhyw ymgysylltu uniongyrchol â phlant a phobl ifanc ar gyfer y cynnig polisi hwn. Defnyddiwyd tystiolaeth o adroddiad Comisiynydd Plant Cymru ar dai a digartrefedd a glywodd farn plant a phobl ifanc, i lywio'r asesiad hwn.

Erthygl 27: Safon byw ddigonol

Mae gan bob plentyn yr hawl i safon byw sy'n ddigon da i ddiwallu ei anghenion corfforol a chymdeithasol a chefnogi ei ddatblygiad. Rhaid i lywodraethau helpu teuluoedd na allant fforddio darparu hyn.

Effaith

Effaith gadarnhaol (anuniongyrchol) bosibl drwy helpu i ysgogi mwy o anheddau i fod ar gael drwy’r Cynllun, a fydd yn cynyddu mynediad at dai diogel, sefydlog. Drwy leihau dibyniaeth ar lety dros dro, bydd teuluoedd â phlant yn elwa ar amodau byw gwell sy'n cefnogi iechyd, addysg a llesiant emosiynol.

4. Cyngor a phenderfyniad gweinidogol

Mae'r asesiad hwn wedi'i gymeradwyo ar lefel Dirprwy Gyfarwyddwr, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg yn cael gwybod am yr asesiad.

5. Cyhoeddi Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant

Mae'r asesiad hwn yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

6. Cyfathrebu â phlant a phobl ifanc

Nid fu unrhyw ymgysylltu uniongyrchol â phlant a phobl ifanc ar y cam hwn. Mae hyn oherwydd natur dechnegol y cynnig a'r amser cyfyngedig sydd ar gael i'w ddatblygu. Mae'r cynnig polisi wedi'i anelu at landlordiaid ac awdurdodau lleol yn hytrach na phlant eu hunain. Serch hynny, rydym yn cydnabod y bydd y canlyniadau yn effeithio ar fynediad plant at dai a sefydlogrwydd.

7. Monitro ac adolygu

Bydd gwaith monitro ôl-weithredu yn cael ei wneud er mwyn asesu effeithiolrwydd y rheoliadau, gan gynnwys dadansoddi data sy’n adlewyrchu diddordeb yn y cyfle ad-dalu a nifer yr hawliadau amdano. Caiff hawliadau eu monitro'n barhaus gan Awdurdod Cyllid Cymru.

Mae cymal machlud o 5 mlynedd ar gyfer yr ad-daliad hwn. Y nod yw i'r ad-daliad arfaethedig ddod i rym cyn 31 Mawrth 2026, felly pennir mai 31 Mawrth 2031 fydd y dyddiad machlud. Bydd hyn, ar y cyd â'r monitro parhaus, yn rhoi cyfle i Weinidogion Cymru adolygu'r ad-daliad ac adnewyddu os yw'n cyflawni ei ddiben. Mater i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol fydd ystyried a yw'n dymuno adnewyddu'r cyfle ad-dalu yn y cyfnod cyn dyddiad gorffen y cymal machlud.

Os oes angen, bydd swyddogion yn edrych eto ar y fersiwn o’r asesiad a gyhoeddwyd ac yn diweddaru unrhyw dystiolaeth o effaith. Byddai'r asesiad diwygiedig hwn yn cael ei gyhoeddi hefyd.

Adran 8. Casgliad

8.1 Sut mae'r bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi helpu i'w ddatblygu?

Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn ar Dai Digonol, Rhenti Teg a Fforddiadwyedd ar 24 Hydref 2024 a daeth i ben ar 31 Ionawr 2025.

Roedd y Papur Gwyn yn nodi cynnig i archwilio cyflwyno, drwy ddiwygiadau i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, ad-daliad o gyfraddau preswyl uwch y dreth trafodiadau tir LTT) pan fo person yn prynu annedd ac yna'n ei roi ar les i awdurdod lleol yng Nghymru drwy Gynllun Lesio Cymru.

Amlinellodd y Papur Gwyn mai nod y polisi ad-dalu yw helpu i gymell mwy o bobl i fod yn rhan o'r Cynllun a helpu i ddarparu tai i awdurdodau lleol i'w defnyddio ar gyfer llety rhent fforddiadwy, fel rhan o’r gwaith o fynd i'r afael ag effaith digartrefedd a'r defnydd o lety dros dro.

Dangosodd canfyddiadau cychwynnol yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, o'r ymatebwyr a fynegodd farn, fod mwyafrif bychan ohonynt yn gefnogol i'r ad-daliad TT arfaethedig, gan gynnwys sawl awdurdod lleol (Crynodeb o’r ymatebion).

Fel rhan o'r broses o gasglu tystiolaeth i gefnogi'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, cynhaliwyd cyfres o weithdai ym mis Ionawr 2025. Cynhaliwyd gweithdy ar gyfer landlordiaid ac asiantau yng Nghaerdydd a Llandudno. Cynhaliwyd gweithdy ar gyfer tenantiaid y sector rhentu preifat yng Nghaerdydd.

Ni chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y Rheoliadau drafft ad-daliad ar gyfer yr ad-daliad arfaethedig; Fodd bynnag, cynhaliodd swyddogion ymgysylltiad technegol penodol ar gyfer cynghorwyr treth allanol i brofi'r rheoliadau. Cynhaliwyd y trafodaethau hyn dros gyfnod o 2 wythnos, a oedd yn cynnwys cyfarfod â'r cynghorwyr treth allanol.

8.2 Beth yw’r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Mae'r asesiad effaith integredig yn adeiladu ar yr ymchwil a'r dystiolaeth bresennol a ddarperir yn asesiad effaith Cynllun Lesio Cymru. Mae’r Cynllun yn cael effaith fuddiol ar bobl, diwylliant a'r Gymraeg, yr economi a'r amgylchedd yng Nghymru. Bydd yr ad-daliad yn cymell perchnogion eiddo i lesio cartrefi i awdurdodau lleol drwy’r Cynllun gan gynyddu'r cyflenwad o lety rhent fforddiadwy o ansawdd da ledled Cymru. Mae hyn yn cefnogi ymrwymiad hirdymor Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar ddigartrefedd a lleihau dibyniaeth ar lety dros dro.

Un o’r themâu allweddol yn yr asesiad effaith yw y bydd yr ad-daliad arfaethedig yn ysgogi mwy o i gymryd rhan yn y Cynllun ac yn helpu i sicrhau bod mwy o dai sefydlog, diogel ar gael drwy’r Cynllun. Bydd y polisi o fudd cadarnhaol (yn anuniongyrchol) i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd, gan gefnogi eu hiechyd, eu haddysg a'u llesiant emosiynol. Mae tystiolaeth yn dangos bod symud o lety dros dro i gartref parhaol yn gwella boddhad bywyd a chanlyniadau i oedolion a phlant.

Rhagwelir y bydd yr ad-daliad arfaethedig hefyd yn cael effaith ariannol gadarnhaol, gan gynnig arbedion cost posibl i Lywodraeth Cymru drwy lai o ddibyniaeth ar lety dros dro drud. Disgwylir i'r arbedion hyn a ragwelir orbwyso unrhyw ostyngiadau mewn refeniw treth a, dros amser, liniaru'r risg o gynyddu costau llety dros dro.

Mae'r ad-daliad arfaethedig yn gweithio tuag at 7 nod a 5 ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 drwy helpu i ddarparu mwy o ddiogelwch llety i denantiaid, a fydd yn cyfrannu tuag at Gymru Iach a mwy Cyfartal, Cymru o Gymunedau Cydlynol, a Chymru o ddiwylliant bywiog ac iaith Gymraeg ffyniannus. Dangosir hyn gan fuddion iechyd clir cael cartref o ansawdd da sy'n fforddiadwy ac wedi’i leoli mewn amgylchedd diogel.

Bydd y cynnig hwn yn cael ei weithredu a bydd yn cadw at Safonau'r Gymraeg.

8.3 Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:

  • yn cyfrannu cymaint â phosibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant, a/neu

  • yn osgoi, yn lleihau, neu’n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Bydd yr ad-daliad arfaethedig yn fuddiol gan fod ganddo'r potensial i helpu rhai o'r bobl fwy difreintiedig ac agored i niwed mewn cymdeithas i gael mynediad at lety fforddiadwy ac addas.

8.4 Sut y bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a'i gwerthuso wrth i'r gwaith fynd rhagddo, ac wedi iddo gael ei gwblhau?

Bydd y gwaith monitro ôl-weithredu er mwyn asesu effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth yn cynnwys dadansoddi data sy’n adlewyrchu diddordeb yn y cyfle ad-dalu ac yn y nifer sy’n cymryd rhan ynddo. Mae cymal machlud o 5 mlynedd ar gyfer yr ad-daliad hwn. Y nod yw i'r ad-daliad arfaethedig ddod i rym cyn 31 Mawrth 2026, felly pennir mai 31 Mawrth 2031 yw dyddiad y cymal machlud. Caiff hawliadau eu monitro'n barhaus gan Awdurdod Cyllid Cymru. Bydd hyn, ar y cyd â'r monitro parhaus, yn rhoi cyfle i Weinidogion Cymru adolygu'r ad-daliad a’i adnewyddu os yw'n cyflawni ei ddiben. Mater i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol fydd ystyried a yw'n dymuno adnewyddu'r cyfle ad-dalu yn y cyfnod cyn y dyddiad y daw’r cymal machlud i ben.