Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cymru yn gartref i boblogaethau adar môr sy'n bridio o bwys rhyngwladol, a hynny o ganlyniad i'w chynefinoedd arfordirol, clogwyni ac ynysoedd amrywiol.  Mae Ynys Skomer ac Ynys Skokholm, ar arfordir Sir Benfro, ymhlith cynefinoedd adar môr pwysicaf Cymru, gan gefnogi'r boblogaeth fwyaf yn y byd o adar drycin Manaw, tua 450,000 o barau, ochr yn ochr â nythfa balod fwyaf Cymru. Ymhellach oddi ar y môr, mae Ynys Gwales yn gartref i un o'r nythfeydd huganod mwyaf yn y byd, gan gynnig cynefin hanfodol i'r rhywogaeth hon.

Mae pwysigrwydd arfordir Cymru yn ymestyn i'r gogledd, gan gynnwys y traeth ger Aber Afon Dyfrdwy yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, sy'n darparu lle nythu hanfodol i fôr-wenoliaid bychain, yr ail nythfa fwyaf o'i math yn y DU. Mae poblogaethau adar môr ledled Cymru a thu hwnt wedi wynebu pwysau parhaus dros nifer o flynyddoedd, gan gynnwys argaeledd ysglyfaethau a diffyg cynefinoedd addas, wedi'i waethygu gan yr argyfwng hinsawdd yr ydym i gyd yn ei wynebu. Mae poblogaethau yn dod yn llai gwydn, fel y dangosir gan yr effeithiau diweddar a difrifol sy'n deillio o Ffliw Adar Pathogenig Iawn (HPAI). Yn 2022, effeithiodd y feirws hwn yn sylweddol ar nythfeydd môr-wenoliaid a gwylanod allweddol, ac yn fwyaf nodedig, y nythfa huganod ar Ynys Gwales, lle credir bod parau sy'n bridio wedi gostwng tua 50%.

Er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hyn, comisiynais ddatblygu Strategaeth Gwarchod Adar Môr Cymru a fydd yn darparu fframwaith sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer diogelu ein poblogaethau adar môr sy'n arwyddocaol yn genedlaethol ac yn fyd-eang yn y tymor hir.

Mae datblygu'r strategaeth wedi bod yn ymdrech gydweithredol sylweddol rhwng Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Adareg Prydain, y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur, a'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i bawb a gyfrannodd at y gwaith pwysig hwn.

Mae'r Strategaeth yn cwmpasu 29 o rywogaethau adar môr a geir yng Nghymru - rhai sy'n byw yma, rhai sy'n gaeafu, ac eraill sy'n bridio. Waeth beth fo'u cam cylch bywyd, mae'n hanfodol bod gan y rhywogaethau hyn fynediad at dir ar gyfer porfwyd a chynefinoedd nythu addas.

Mae asesiadau bregusrwydd yn ganolog i'r Strategaeth. Mae'r rhain yn ystyried sensitifrwydd rhywogaeth i bwysau a lefel y cysylltiad sydd gan y rhywogaeth i'r pwysau hwnnw. Mae dros 20 o ffactorau pwysau wedi'u hasesu gan ddefnyddio barn arbenigol a'r dystiolaeth orau sydd ar gael. 

O'r sylfaen dystiolaeth hon, mae pum prif bwysau wedi dod i'r amlwg fel rhai sy'n effeithio'n arbennig ar adferiad a gwydnwch poblogaethau adar môr yng Nghymru:

  • Cyflwyniad neu ledaeniad rhywogaethau estron goresgynnol
  • Aflonyddwch gweledol
  • Cyflwyniad pathogenau microbaidd
  • Gostyngiad yn argaeledd, lefelau neu ansawdd cynefin cynhaliol
  • Cynnydd heb ei reoli mewn rhywogaethau cystadleuol/ysglyfaethus brodorol

Yn sgil y canfyddiadau hyn, mae'r strategaeth yn nodi cyfres o argymhellion wedi'u targedu gyda chamau gweithredu cyfrannol sy'n mynd i'r afael â'r meysydd blaenoriaeth hyn. Credaf fod y camau hyn yn cynrychioli llwybr ymlaen sy'n glir ac yn angenrheidiol - un y mae'n rhaid i ni ei ddilyn gyda'n gilydd i sicrhau dyfodol gwydn a chynaliadwy i boblogaethau adar môr Cymru.

Er bod hyn yn nodi dechrau taith hirach tuag at gadwraeth adar môr yng Nghymru, mae'n gam arwyddocaol y dylem ei groesawu. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i adolygu'r sylfaen dystiolaeth o bryd i'w gilydd a diweddaru'r argymhellion wrth i ddata newydd ddod i'r amlwg, gan sicrhau bod ein dull yn parhau i ymateb i anghenion esblygol y rhywogaethau hanfodol hyn.