Neidio i'r prif gynnwy

Mae dwy orsaf yng Ngogledd Cymru, Shotton a Rhiwabon, wedi symud ymlaen i gam nesaf y rhaglen Mynediad i Bawb, cynllun Llywodraeth y DU a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i wella hygyrchedd mewn gorsafoedd rheilffordd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gydag ymrwymiad ariannu cyfatebol gan Lywodraeth Cymru, mae Shotton a Rhiwabon yn ddwy o'r 23 orsaf ledled y DU i symud ymlaen i'r cam dylunio manwl.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: 

"Rwy'n falch o groesawu'r newyddion da hwn.  Mae'r rhaglen Mynediad i Bawb yn darparu gwelliannau hygyrchedd hanfodol i orsafoedd rheilffordd yng Nghymru sy'n eiddo i Lywodraeth y DU.

"Gyda chefnogaeth ein hymrwymiad ariannu cyfatebol, mae'r cyhoeddiad hwn yn gam mawr ymlaen i'r cynlluniau Mynediad i Bawb yn Shotton a Rhiwabon ac yn paratoi'r ffordd ar gyfer mwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU yn ein rheilffyrdd yng Nghymru.

"Mae'r gorsafoedd hyn yn allweddol i deithwyr sy'n teithio yng ngogledd Cymru ac yn ganolog i'n cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Rhwydwaith Gogledd Cymru – gan danlinellu pwysigrwydd ein partneriaeth barhaus gyda Llywodraeth y DU.

"Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU, arweinwyr lleol a'r diwydiant rheilffyrdd ehangach yng Nghymru i wella hygyrchedd ein rheilffordd."