Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Lluniwyd y Memorandwm Esboniadol hwn gan Adran Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, ac fe’i gosodir gerbron Senedd Cymru ar y cyd â’r is-ddeddfwriaeth uchod ac yn unol â Rheol Sefydlog 27.1.

Datganiad Ysgrifennydd y Cabinet

Yn fy marn i, mae'r Memorandwm Esboniadol hwn yn rhoi darlun teg a rhesymol o effaith ddisgwyliedig Rheoliadau Cau Cynlluniau Amaethyddol Gwaddol yr Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2026. Rwy’n fodlon bod y manteision yn cyfiawnhau’r costau tebygol.

Huw Irranca-Davies AS
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

20 Ionawr 2026

Rhan 1: memorandwm esboniadol

Disgrifiad

Mae Rheoliadau Cau Cynlluniau Amaethyddiaeth Gwaddol yr Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2026 ("y Rheoliadau") yn cau tri o gynlluniau amaethyddol gwaddol yr UE yng Nghymru. Sef y cynllun Cymorth Ffrwythau a Llysiau, y cynllun Ymyrraeth Gyhoeddus a'r cynllun Cymorth Storio Preifat. 

Materion o ddiddordeb arbennig i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Dim.

Y cefndir deddfwriaethol

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 23 a 50(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 ac adran 14(1) o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023. 

Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023

Mae adran 23 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i newid deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargadwyd sy’n ymwneud ag ymyrraeth gyhoeddus yn y farchnad neu gymorth ar gyfer storio preifat, i’r graddau y mae’n cael effaith o ran Cymru. 

Mae adran 50(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 yn darparu bod pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf yn cynnwys y pŵer i newid deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargadwyd. 

Mae rheoliadau a wneir trwy ddefnyddio adran 23 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo'r Senedd yn unol ag adran 50(6) o'r Ddeddf honno. 

Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023

Mae adran 14(1) o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 yn rhoi'r pŵer i awdurdod cenedlaethol perthnasol wneud rheoliad i ddirymu unrhyw gyfraith eilaidd yr UE a ddargedwir heb roi rhywbeth arall yn ei lle. Ystyrir mai Gweinidogion Cymru yw'r "awdurdod cenedlaethol perthnasol" yn unol ag adran 21(1) o'r Ddeddf honno.

Mae rheoliadau a wneir trwy ddefnyddio adran 14(1) o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 yn ddarostyngedig i'r weithdrefn annilysu yn unol â pharagraff 8(3) o Atodlen 5 i'r Ddeddf. 

Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

Mae adran 37G o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn gymwys pan fydd  Gweinidogion Cymru yn gwneud offeryn statudol sy'n ddarostyngedig i 2 weithdrefn wahanol neu ragor. Mae adran 37G(2) yn nodi mai’r weithdrefn Seneddol gymwys yw’r un a enwir gyntaf yn is-adran (3) ac na fydd gweithdrefnau eraill y Senedd yn gymwys. 

Y weithdrefn gymeradwyo yw'r un a restrir gyntaf yn 37G(3)(a) ac felly dyma'r weithdrefn sy'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn. 

Diben y ddeddfwriaeth a’r effaith y bwriedir iddi ei chael

Pwrpas y Rheoliadau hyn yw cau'r cynllun Cymorth Ffrwythau a Llysiau, y cynllun Ymyrraeth Gyhoeddus a'r cynllun Cymorth Storio Preifat yng Nghymru.

Y Cynllun Cymorth Ffrwythau a Llysiau

Mae'r Cynllun Cymorth Ffrwythau a Llysiau yn gynllun gwaddol gan yr UE a sefydlwyd ym 1996, sy'n cynnig cymorth ariannol i Sefydliadau Cynhyrchwyr (POs) i wella cynhyrchiant ffrwythau a llysiau. Ers ei sefydlu ym 1996, ni chafwyd unrhyw geisiadau oddi wrth Sefydliadau Cynhyrchwyr yng Nghymru.

Mae'r Rheoliadau yn diwygio Rheoliad (UE) Rhif 2013/1308 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu trefn ar gyfer cyd-drefnu'r marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol, er mwyn cau'r cynllun Cymorth Ffrwythau a Llysiau yng Nghymru.

Y Cynllun Ymyrraeth Gyhoeddus a'r Cynllun Cymorth Storio Preifat

Y cynlluniau hyn yw'r ddwy brif ffordd o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin i ymyrryd yn y farchnad er mwyn cefnogi prisiau'r farchnad. O dan y ddau gynllun, mae cynnyrch amaethyddol yn cael eu tynnu o'r farchnad pan fydd prisiau'n mynd yn is na throthwyon penodol. 

Ar hyn o bryd, gellir agor cynlluniau Ymyrraeth Gyhoeddus mewn dwy sefyllfa. Mae cynlluniau Ymyrraeth Gyhoeddus gorfodol yn cael eu hagor yn awtomatig os yw pris y farchnad yn disgyn yn is na'r trothwy sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA) brynu hyd at swm penodol o'r cynhyrchion. Mae ‘Ymyrraeth Gyhoeddus pan fydd amodau eithriadol yn y farchnad’ yn gynlluniau a agorir fel y gwêl Gweinidogion yn dda pan fydd argyfwng yn cael effaith ar farchnad sector penodol. 

Mae cynlluniau Cymorth Storio Preifat yn fesurau cymorth i'r farchnad a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i sefydlogi marchnadoedd amaethyddol yn ystod cyfnodau o warged neu pan fydd prisiau'n anwadal.  O dan y cynlluniau hyn, rhoddir cymhellion ariannol i gynhyrchwyr neu broseswyr storio rhai cynhyrchion amaethyddol dros dro. Nid yw'r cynlluniau hyn wedi cael eu defnyddio yng Nghymru ers o leiaf y flwyddyn 2000. 

Byddai parhau i sicrhau bod y cynlluniau hyn ar gael i ffermwyr yn rhoi straen gweinyddol ac ariannol mawr ar Lywodraeth Cymru. Hynny am fod y cytundeb presennol ar gyfer darparu'r cynlluniau hyn wedi dod i ben a byddai angen i Lywodraeth Cymru gyflogi staff newydd a chaffael cyfleusterau newydd i barhau i'w rhedeg.

Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i roi taliadau uniongyrchol i gefnogi ffermwyr mewn cyfnod pan fydd amodau eithriadol yn y farchnad gan ddefnyddio pwerau a ddarperir yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023. Mae hwn yn ddull mwy effeithlon o ymyrryd i gefnogi busnesau fferm na defnyddio Ymyrraeth Gyhoeddus neu Gymorth Storio Preifat.

Mae'r rheoliadau yn diwygio'r gyfraith a gymathwyd sy'n ymwneud â'r Cynllun Ymyrraeth Gyhoeddus a'r Cynllun Cymorth Storio Preifat, fel na fyddant bellach yn gymwys yng Nghymru ar ôl i'r rheoliadau ddod i rym. 

Ymgynghori

Rhwng 2 Mehefin a 25 Awst 2025, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad, i geisio barn am ein cynnig i gau'r cynllun Cymorth Ffrwythau a Llysiau a'r cynlluniau Ymyrraeth Gyhoeddus a Chymorth Storio Preifat yng Nghymru. 

Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad ar-lein a'i rannu â grwpiau o randdeiliaid allweddol yn y sector amaethyddiaeth a chyda'r cyhoedd i geisio barn am y newidiadau a gynigir yn y ddogfen ymgynghori. Gofynnodd yr ymgynghoriad am farn am y defnydd o'r cynlluniau yng Nghymru ac effaith terfynu'r cynlluniau.

Daeth tri ymateb i law, dau ohonynt yn cytuno â'r newidiadau a gynigiwyd. Nid oedd y trydydd yn cynnwys ymatebion oedd yn berthnasol i'r pwnc. Tynnodd yr ymatebwyr sylw at y diffyg defnydd o'r Cynllun Cymorth Ffrwythau a Llysiau yng Nghymru ac y byddai tyfwyr garddwriaethol yn cael eu cefnogi orau mewn ffyrdd eraill. Dywedon nhw fod y cynllun yn rhy gymhleth a dyna pam nad oedd pobl wedi gwneud cais i’r cynllun.

Nid oedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn gwybod beth oedd y cynlluniau Ymyrraeth Gyhoeddus a Chymorth Storio Preifat ac roeddent yn hapus yn eu gweld nhw'n cau.

Gan fod yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cytuno'n fras â'r cynigion, ni newidiwyd y cynigion yn sgil yr ymgynghoriad. Ceir crynodeb o’r ymatebion ar ein gwefan.

Rhan 2: Asesiad Effaith Rheoleiddiol (RIA)

Prif amcan y polisi hwn yw cau'r cynllun Cymorth Ffrwythau a Llysiau a'r Cynlluniau Ymyrraeth Gyhoeddus a Chymorth Storio Preifat yng Nghymru.

Drwy ddileu'r cynlluniau hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn lleihau'r risg ariannol a gweinyddol i gyllid cyhoeddus o ddatblygu, rhedeg a chynnal cynlluniau nad ydynt bellach yn addas i'w diben i'r sector amaethyddol yng Nghymru. 

Bydd y newidiadau hyn yn negyddu'r angen am set newydd o brosesau nad yw Llywodraeth Cymru yn eu gweinyddu ar hyn o bryd. Bydd hefyd yn negyddu'r angen i ddiweddaru'r systemau oedd yn cael eu defnyddio i redeg y cynlluniau. Pe bai'r cynlluniau'n cael eu cadw, byddai angen caffael storfeydd, hyfforddi swyddogion technegol newydd ac ailddechrau contractau technegol gyda labordai. Byddai gofyn am fuddsoddiad ariannol sylweddol i wneud hynny.

Mae'r adborth drwyddo draw yn awgrymu nad yw'r cynlluniau hyn o ddefnydd i'r sector amaethyddol yng Nghymru ac ni fydd eu cau yn cael unrhyw effaith ar y sector yng Nghymru.

Yr opsiynau

Opsiwn 1: cadw'r status quo

Byddai'r opsiwn hwn yn cadw'r holl gynlluniau yng Nghymru hyd at 2026, gan gynnig cymorth i Sefydliadau Cynhyrchwyr Ffrwythau a Llysiau drwy'r cynllun a pharhau i ddarparu Ymyrraeth Gyhoeddus a Chymorth Storio Preifat yng Nghymru. Gan nad yw'r RPA yn gallu parhau i redeg y cynlluniau ar ran Llywodraeth Cymru, byddai angen datblygu mecanwaith cyflawni newydd ar gyfer cynnal y cynlluniau a byddai’n golygu mwy o gostau staffio, hyfforddiant a gweinyddu i Lywodraeth Cymru. Oherwydd cyfyngiadau amser, byddan nhw'n annhebygol o fod yn barod ar gyfer 2026.

Opsiwn 2: dod â'r Cynllun Cymorth Ffrwythau a Llysiau i ben a chau'r cynlluniau Ymyrraeth Gyhoeddus a Chymorth Storio Preifat ac eithrio pan fydd amgylchiadau eithriadol yn y farchnad 

Byddai'r opsiwn hwn yn adlewyrchu'r newidiadau a wnaed yn Lloegr rhwng 2022 a 2025, drwy gau'r cynllun Cymorth Ffrwythau a Llysiau yng Nghymru yn ogystal â’r cynlluniau Ymyrraeth Gyhoeddus a Chymorth Storio Preifat ac eithrio pan fydd amodau eithriadol yn y farchnad. Byddai hyn yn caniatáu i Weinidogion Cymru gadw'r opsiwn o gynnal Cynllun Ymyrraeth Gyhoeddus neu Gymorth Storio Preifat pe bai aflonyddwch yn y farchnad yn dangos bod angen help ar sector penodol.

Mae'r cynlluniau Ymyrraeth Gyhoeddus a Chymorth Storio Preifat yn annhebygol o roi gwerth am eu harian, gan na fydd yr RPA yn parhau i weinyddu cynlluniau yn y dyfodol ar ran Llywodraeth Cymru, ac am fod cynlluniau o'r fath y tu allan i gwmpas model gweithredu Taliad Gwledig Cymru (RPW). Mae gan yr opsiwn hwn rwystrau tebyg i Opsiwn 1. Hefyd, mae'r pwerau i ymyrryd yn y farchnad a roddir yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 yn caniatáu i Weinidogion Cymru gefnogi ffermwyr drwy daliadau uniongyrchol o dan amgylchiadau eithriadol. Mae'r newid hwnnw’n rhoi ffordd lawer mwy uniongyrchol ac effeithiol o ymyrraeth i helpu busnesau fferm ac yn negyddu'r angen am y cynlluniau uchod. 

Opsiwn 3: dod â’r cynllun Cymorth Ffrwythau a Llysiau a'r cynlluniau Ymyrraeth Gyhoeddus a Chymorth Storio Preifat yng Nghymru i ben (yr opsiwn a ffefrir)

Byddai'r opsiwn hwn yn golygu diwedd y cynllun Cymorth Ffrwythau a Llysiau, y cynllun Ymyrraeth Gyhoeddus a'r cynllun Cymorth Storio Preifat yng Nghymru

Gan nad oes neb erioed yng Nghymru wedi gwneud cais am y cynllun Cymorth Ffrwythau a Llysiau a chan had oes Sefydliad Cynhyrchwyr Ffrwythau a Llysiau yng Nghymru ar hyn o bryd, bach iawn fyddai effaith hyn ar y sector a byddai'n lleihau'r risg weinyddol ac ariannol i Lywodraeth Cymru o sefydlu, gweinyddu a rhedeg grant nad yw erioed wedi'i ddefnyddio. Felly hefyd y Cynlluniau Ymyrraeth Gyhoeddus a Chymorth Storio Preifat yng Nghymru gan mai'r RPA arferai eu rhedeg a byddai’n rhoi'r gorau i redeg cynlluniau ar ran y llywodraethau datganoledig o ddechrau 2026.

Mae Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 yn rhoi'r pwerau i Weinidogion Cymru ymyrryd yn y farchnad i gefnogi ffermwyr o dan amgylchiadau eithriadol. Mae'r pwerau hyn yn ffordd fwy effeithiol o ymyrryd i helpu busnesau fferm. O ganlyniad, mae'r cynlluniau Ymyrraeth Gyhoeddus a Chymorth Storio Preifat yn ddiangen ac yn anaddas i'r oes, ac nid ydynt bellach yn cynnig gwerth am arian i'r sector cyhoeddus yng Nghymru eu sefydlu a'u rhedeg.

Costau a manteision

Opsiwn 1: cadw'r status quo

Gan nad yw'r RPA yn gallu parhau i redeg y cynlluniau ar ran Llywodraeth Cymru, byddai angen rhoi adnoddau ychwanegol i'r RPW i redeg a gweinyddu'r cynlluniau. O ganlyniad, byddai'n golygu creu systemau gweinyddol newydd, costau staff uwch, costau hyfforddi a rhagor o gostau gweinyddol i Lywodraeth Cymru, ynghyd â neilltuo rhagor o gyllid ar gyfer cyfleusterau storio yng Nghymru gan na fyddai'r RPA yn eu rhedeg hwythau mwyach. Byddai'n cynnwys hefyd y costau i gadw'r cynllun Cymorth Ffrwythau a Llysiau ac unrhyw daliadau y byddai angen eu talu i sefydliadau cynhyrchwyr sy'n gwneud cais i'r cynllun. 

Mae'r cynllun yn caniatáu i sefydliadau cynhyrchwyr sydd ag aelodau yng ngwledydd eraill y DU wneud cais am gyllid cyhyd â bod pencadlys y sefydliad cynhyrchwyr yng Nghymru a bod mwyafrif yr  aelodau yng Nghymru (rhaid i fwy na 50% o'r aelodau neu'r cynnyrch sy'n cael ei farchnata fod yng Nghymru i fod yn gymwys). Byddai'r opsiwn hwn yn golygu hefyd costau pellach sydd eu hangen i archwilio ffermydd a'r costau teithio sy'n gysylltiedig â hyn.  Nid oes asesiad wedi'i wneud o'r costau sy'n gysylltiedig â'r opsiwn hwn. 

Opsiwn 2: dod â'r Cynllun Cymorth Ffrwythau a Llysiau i ben a chau'r cynlluniau Ymyrraeth Gyhoeddus a Chymorth Storio Preifat ac eithrio pan fydd  amgylchiadau eithriadol yn y farchnad

Byddai'r opsiwn hwn yn costio llai nag Opsiwn 1 gan na fyddai unrhyw gost yn gysylltiedig â'r cynllun Cymorth Ffrwythau a Llysiau ond byddai cost yn gysylltiedig â rhedeg y cynlluniau Ymyrraeth Gyhoeddus a Chymorth Storio Preifat pan fydd amgylchiadau eithriadol yn y farchnad. Fel yr opsiwn uchod, nid yw'r RPA yn gallu parhau i redeg y cynlluniau ar ran Llywodraeth Cymru, ac o ganlyniad, bydd hynny'n creu'r angen i roi adnoddau ychwanegol i RPW i redeg a gweinyddu'r cynlluniau pan fydd amgylchiadau eithriadol yn y farchnad. Hefyd, byddai'r opsiwn hwn yn golygu bod angen i Lywodraeth Cymru brynu cyfleusterau storio yng Nghymru gan na fyddai'r RPA yn eu rhedeg mwyach.

Opsiwn 3: dod â'r cynllun Cymorth Ffrwythau a Llysiau a'r cynlluniau Ymyrraeth Gyhoeddus a Chymorth Storio Preifat yng Nghymru i ben (yr opsiwn a ffefrir)

Ni fyddai unrhyw oblygiadau ariannol o ganlyniad i ddewis Opsiwn 3. Byddai'r opsiwn hwn yn cau'r tri chynllun yng Nghymru ac yn negyddu'r angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu systemau, timau neu weinyddiaeth newydd. Ni ddylai chwaith gael effaith ystyrlon ar fusnesau fferm na busnesau prosesu bwyd, gan nad oes yr un cais wedi'i wneud i'r cynlluniau hyn mewn pum mlynedd ar hugain. O ganlyniad, yr opsiwn hwn sy'n cynnig y gwerth gorau am arian i'r llywodraeth heb effeithio'n negyddol ar y sector preifat.