Cyfarfod y Grŵp Cynghori ar Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) Strategol: 24 Tachwedd 2025
Crynodeb o gyfarfod y Grŵp Cynghori ar AI Strategol a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Cadeirydd: Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Rachel Purchase, Admiral
Alexander Iosad, Sefydliad Tony Blair ar gyfer Newid Byd-eang
Shavanah Taj, TUC Cymru
Walter Pasquarelli, Cynghorydd ar AI a Realiti Synthetig
Marloes Pomp, Fforwm AI Ewrop
Gina Neff, Prifysgol y Frenhines Mary Llundain
Santosh Takoor, Microsoft UK
Ruth McGuinness, Kainos
Louise Harris, Tramshed Tech
Myra Hunt, Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol
Matt Lewis, Y Grŵp Arweinyddiaeth AI ar Draws y Sector Cyhoeddus yng Nghymru
Lindsey Phillips, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Glyn Jones, Llywodraeth Cymru
Jas Pal Baydal, Llywodraeth Cymru
Mike Thomas, Llywodraeth Cymru
Janine Pepworth, Llywodraeth Cymru
Liberty Hill, Llywodraeth Cymru
Michael Groves, Llywodraeth Cymru
Andy Hunt, Porthladd Rhydd Ynys Môn
Paul Spencer, Prifysgol Bangor
Ymddiheuriadau
Anthony Tracey, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Diane Gutiw, CGI
Eitem 1 ar yr Agenda: Croeso a Chyflwyniadau
1.1 Croesawodd Ysgrifennydd y Cabinet Louise Harris fel aelod newydd o'r grŵp.
Eitem 2 ar yr Agenda: Diweddariad Strategol gan Lywodraeth Cymru
2.1 Rhoddodd swyddogion Llywodraeth Cymru yr wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r Cynllun AI i Gymru, gan amlinellu ei nodau i gefnogi twf economaidd, gwella gwasanaethau cyhoeddus dwyieithog, a meithrin sgiliau AI.
2.2 Nododd y grŵp sefydlu'r Swyddfa AI, gan gynnwys recriwtio parhaus a rolau newydd i gryfhau capasiti AI ar draws y sector cyhoeddus.
2.3 Trafododd y grŵp gyflwyno menter hyfforddi AI gwasanaeth sifil y DU, 'Un Peth Mawr', gan bwysleisio pwysigrwydd dysgu hygyrch sy'n canolbwyntio ar egwyddorion AI yn hytrach nag ar offer AI penodol, datblygu sgiliau parhaus, a heriau ymarferol o ran cyfranogiad i'r holl staff.
2.4 Trafodwyd datblygiadau AI ym maes addysg, gan gynnwys cyhoeddi adroddiad thematig gan Estyn. Roedd ymateb Llywodraeth Cymru yn yn canolbwyntio ar ddefnyddio AI mewn ffordd foesegol a deallus mewn ysgolion a photensial i AI gefnogi addysgu, dysgu a chynhwysiant.
Eitem 3 ar yr Agenda: Portffolio Cronfa AI
3.1 Cyflwynodd swyddogion Llywodraeth Cymru gyflwyniad ar bortffolio cronfa AI Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys wyth prosiect gyda'r nod o ddangos manteision ymarferol AI yn y sector cyhoeddus.
3.2 Trafododd y grŵp bwysigrwydd sicrhau bod y prosiectau'n darparu gwerth ymarferol, yn cefnogi rhannu gwybodaeth, ac yn mynd i'r afael â heriau megis datblygu sgiliau, mynediad cyfartal at adnoddau, a'r angen am gymorth Cymraeg cadarn.
Eitem 4 ar yr Agenda: Diweddariad Ardaloedd Twf AI
4.1 Rhoddodd swyddogion Llywodraeth Cymru, ynghyd â chydweithwyr o Borthladd Rhydd Ynys Môn a Phrifysgol Bangor, drosolwg i'r Grŵp o'r Ardaloedd Twf AI a gyhoeddwyd yn ddiweddar yng Ngogledd a De Cymru.
4.2 Trafodwyd dewis safleoedd, seilwaith, partneriaethau, effaith economaidd, a heriau polisi.
4.3 Nododd y Grŵp yr angen am fuddsoddiad cydlynol mewn seilwaith a datblygu sgiliau er mwyn gwneud y mwyaf o fanteision Ardaloedd Twf AI i Gymru.
Eitem 5 ar yr Agenda: Diweddariad gan y Grŵp Cynghori ar AI Strategol
5.1 Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet y bydd yn ymddiswyddo fel Cadeirydd ac aelod o'r Grŵp, gyda'r Athro Gina Neff wedi'i chadarnhau yn Gadeirydd ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol.
5.2 Cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd fod ymdrechion ar waith i wahodd cynrychiolwyr addysg uwch ac addysg bellach i'r Grŵp.
Eitem 6 ar yr Agenda: Cydgysylltu a Llywodraethiant
6.1 Cynigiodd y Grŵp drafod cydraddoldeb iaith mewn modelau AI a darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.
6.2 Cadarnhaodd swyddogion Llywodraeth Cymru y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar-lein ddiwedd mis Chwefror 2026.
Eitem 7 ar yr Agenda: Y Camau Nesaf
7.1 Cytunodd y grŵp ar y camau nesaf canlynol:
- Sicrhau bod holl Weinidogion Cymru yn cwblhau'r hyfforddiant 'Un Peth Mawr' ar AI ar draws y gwasanaeth sifil.
- Hyrwyddo ymgysylltu â'r cyhoedd drwy gynnwys cyfryngau cymdeithasol Gweinidogion Cymru sy'n cymryd rhan mewn hyfforddiant AI.
- Rhannu deunyddiau hyfforddi AI presennol gyda'r grŵp i lywio cyngor ac osgoi dyblygu.
- Archwilio ffyrdd o wella hygyrchedd hyfforddiant AI gorfodol ar gyfer holl staff gwasanaethau cyhoeddus.
- Cysylltu â rhaglenni iaith cenedlaethol i gryfhau'r cymorth Cymraeg sydd ar gael o ran offer AI.
- Darparu awgrymiadau ar gyfer eitemau agenda yn y dyfodol.
Dyddiad y cyfarfod nesaf:
Diwedd mis Chwefror 2026.
