Neidio i'r prif gynnwy

Mae cyllid Llywodraeth Cymru yn helpu cwmni logisteg arobryn i sefydlu canolfan logisteg fodern, sy'n seiliedig ar dechnoleg, gan gefnogi busnesau Cymru a chreu swyddi newydd medrus iawn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Freight Logistics Solutions (FLS) o Bont-y-pŵl yn ehangu ei waith i fodloni'r galw cynyddol am wasanaethau logisteg digidol a ddarperir yn lleol ledled Cymru a'r DU ehangach.

Mae FLS, a gafodd ei sefydlu yn 2016, wedi tyfu i fod yn un o brif ddarparwyr cludo nwyddau digidol y DU, gan weithio gyda mwy na 16,000 o gludwyr ledled y DU ac Ewrop. Mae ei dechnoleg berchnogol yn cysylltu cleientiaid â darparwyr trafnidiaeth cyfagos gan ddefnyddio data amser real er mwyn optimeiddio'r gwaith o lwybro, gweithio'n fwy effeithlon a dod o hyd i atebion trafnidiaeth mwy carbon-effeithlon.

Mae cymorth Llywodraeth Cymru eisoes wedi galluogi FLS i ddatblygu offeryn rheoli allyriadau arloesol, gan helpu cwsmeriaid i leihau effaith amgylcheddol eu gwaith logisteg yn sylweddol.

Bydd yr hwb logisteg digidol newydd ym Mhont-y-pŵl yn cryfhau gallu technoleg FLS ymhellach, yn cynyddu ei gapasiti gweithredol ac yn galluogi'r busnes i gefnogi gweithgynhyrchwyr, cynhyrchwyr a chadwyni cyflenwi Cymru yn well wrth iddynt ehangu.

Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

Rydym yn parhau i wneud Cymru yn wlad lle mae swyddi da, busnesau cryf, a chymunedau ffyniannus yn sylfaen i economi gryfach, decach a gwyrddach."

"Bydd y datblygiad hwn yn cryfhau'r gadwyn gyflenwi ranbarthol, yn darparu rolau medrus newydd, ac yn golygu ein bod yn mabwysiadu atebion logisteg craffach a mwy effeithlon sy'n cyd-fynd â'n huchelgeisiau Sero Net."

Dywedodd Ieuan Rosser, Prif Weithredwr FLS:

Mae'r buddsoddiad hwn yn gam pwysig wrth i ni barhau i dyfu. Mae ein ffocws bob amser wedi bod ar ddatblygu atebion logisteg 'digidol yn gyntaf' sy'n helpu busnesau i symud nwyddau yn fwy effeithlon, yn graffach a gydag effaith amgylcheddol is.

"Mae sefydlu'r ganolfan newydd hon ym Mhont-y-pŵl yn ein galluogi i ddatblygu ein technoleg, creu swyddi gwerth uchel yn lleol, a chefnogi busnesau Cymru yn well gyda seilwaith logisteg modern sy'n addas ar gyfer y dyfodol."