Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, gosodwyd rheoliadau drafft i wneud newidiadau i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017. 

Mae Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2026 yn darparu ad-daliad newydd ar gyfer trafodiadau sy'n ddarostyngedig i gyfraddau preswyl uwch y dreth trafodiadau tir. Bydd yr ad-daliad newydd yn gymwys pan fo person yn prynu annedd sy'n costio £400,000 neu lai sy'n atebol i'r ad-daliad, ac yna'n ei lesio i awdurdod lleol yng Nghymru, o fewn 18 mis i'r pryniant hwnnw, a phan fo'r les yn bodloni'r amodau yn y rheoliadau.

Bwriad yr ad-daliad yw cymell unigolion i lesio eiddo i awdurdodau lleol yng Nghymru o dan Gynllun Lesio Cymru, sef cynllun gan Lywodraeth Cymru sy'n cyfrannu tuag at ddarparu cartrefi am renti fforddiadwy. Bydd hyn yn helpu i fynd i'r afael ag effaith digartrefedd a'r defnydd o lety dros dro.

Edrychaf ymlaen at y ddadl ar y rheoliadau ar 10 Chwefror 2026.

Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2026

Memorandwm Esboniadol ar gyfer Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2026