Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Heddiw, mae Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Caffaeliadau sy’n Ymwneud ag Anheddau Lluosog) (Cymru) 2026 wedi eu gosod gerbron y Senedd.
Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, bydd y rheoliadau yn diwygio cyfradd isaf rheol treth rhyddhad anheddau lluosog y dreth trafodiadau tir.
Mae hyn yn gymwys i’r dreth trafodiadau tir a delir ar bryniant anheddau mewn trafodiadau anheddau lluosog. Mae’n gymwys gan amlaf mewn trafodiadau defnydd cymysg ond gall hefyd fod yn gymwys i drafodiadau sy’n ymwneud ag eiddo preswyl yn unig. Trafodiadau ‘defnydd cymysg’ yw’r trafodiadau hynny pan fo cyfuniadau o eiddo preswyl ac eiddo amhreswyl yn cael eu prynu gyda’i gilydd.
Mae’r rheol yn nodi bod rhaid i’r atebolrwydd ar bryniant anheddau fod o leiaf 1% o werth yr anheddau hynny.
Mae’r rheol isafswm treth rhyddhad anheddau lluosog yn darparu tegwch mewn trafodiadau lle gallai atebolrwydd treth, fel arall, fod yn isel iawn o ran pryniant rhai eiddo preswyl, o gymharu ag atebolrwydd ar drafodiadau annedd sengl.
Gosodwyd y gyfradd o 1% pan gyflwynwyd y rheol yn rhan o dreth dir y dreth stamp yn 2011 ac nid yw wedi newid ers hynny. Daeth y rheol yn rhan o’r dreth trafodiadau tir yn 2018. Bydd cynnydd i 3% yn gwella tegwch wrth gynnal triniaethau treth gwahanol fel sy’n briodol ar gyfer trafodiadau anheddau lluosog.
Mewn datganiad ysgrifenedig ar 14 Hydref 2025, cyhoeddais fy mwriad i wneud y newid hwn i gyfradd isaf y rheol dreth, a chyflwyno rheol cydraddoli newydd ar gyfer rhyddhad anheddau lluosog, a hynny er mwyn sicrhau cydraddoldeb fesul annedd rhwng trafodiadau anheddau lluosog ac anheddau sengl sy’n agored i dalu’r cyfraddau preswyl uwch.
Bwriedir y dylai’r rheol arfaethedig newydd ar gyfer cydraddoli fynd i’r afael â’r sefyllfa bresennol lle, pan hawlir rhyddhad anheddau lluosog ar drafodiadau anheddau lluosog sy’n ddarostyngedig i gyfraddau preswyl uwch y dreth trafodiadau tir, mae’r atebolrwydd treth fesul annedd yn is nag y byddai ar gyfer trafodiadau annedd sengl ar gyfer yr un anheddau. Byddai wedi sicrhau y byddai’r atebolrwydd fesul annedd mewn trafodiadau anheddau lluosog gyda rhyddhad anheddau lluosog o leiaf yn hafal i’r trafodiadau anheddau sengl cyfatebol nad ydynt yn gallu elwa ar ryddhad anheddau lluosog.
Nid yw’r rheoliadau drafft yn cynnwys y rheol cydraddoli newydd. Mae diwygio’r ddeddfwriaeth at y diben cymharol gul hwn wedi cyflwyno heriau technegol sylweddol ac yn cynnwys risg o gyflwyno cymhlethdod newydd i’r dreth trafodiadau tir.
Bydd y gwaith ar y polisi a’r rheol, ynghyd ag ystyried y newidiadau deddfwriaethol y mae eu hangen, yn parhau, ond mater i weinyddiaeth yn y dyfodol fydd ystyried y rheol cydraddoli newydd, yn ogystal â’r cwestiwn ehangach a ddylid cadw’r rhyddhad anheddau lluosog, ei wella neu ei ddiddymu.
