Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Yr Athro John Williams, Academia, Prifysgol Aberystwyth
Yr Athro Paul Willis, Academia, Prifysgol Caerdydd
Barry Stephens, Cymru Egnïol
Vicki Lloyd (VL), Age Cymru, Cadeirydd
Faye Patton (FP), Gofal a Thrwsio Cymru
Andrew Hinchliffe, Cynghrair Pobl Hŷn Cymru, (COPA)
Yvonne Apsitis, Cynghrair Pobl Hŷn Cymru, (COPA)
Y cynghorydd Leo Thomson, Rhwydwaith Oed-gyfeillgar yr Awdurdod Lleol, Cyngor Caerdydd
Brian Godsell, Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol
Roon Adam, Race Equality First
Rachel Bowen, Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn
Suzanne Kearsley-Evans, Cynrychiolydd Pobl Hŷn
Lyn Cadwallader, Un Llais Cymru (Cynghorau Cymuned a Thref)
Sarah Capstick (SC), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
Dawn Jeffery, Cymorth i Ferched Cymru
Amal Beyrouty, Women Connect First
Emma Harney, Llywodraeth Cymru
Shyam Vining, Llywodraeth Cymru
Nik Cilia, Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau ffurfiol

Y cynghorydd Hayley Gwilliam, Rhwydwaith Oed-gyfeillgar yr Awdurdod Lleol, Cyngor Abertawe
Rachel Luxton, Cynrychiolydd Pobl Hŷn

Croeso, cyflwyniadau, a chamau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf

Nododd Vicki Lloyd fod y camau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf (4 Mehefin 2025) ynglŷn â chreu Gweithgor Tai a'r Gweithgor Rhagfarn ar sail Oedran yn parhau, a'u bod ar yr agenda.

Diweddariad Llywodraeth Cymru

Mae'r diweddariad blynyddol ar y Cynllun Cyflawni sy'n gysylltiedig â'r Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio wedi cael ei ohirio oherwydd y gwaith i werthuso'r rhaglen Cymunedau Oed-gyfeillgar. Bydd adolygiad mwy manwl o'r Cynllun Cyflawni yn cael ei gynnal gan ei fod yn nodi 4 blynedd ers lansio'r cynllun. Nid oes unrhyw gynlluniau i ail-ddrafftio'r Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio, sy'n parhau i gael ei chydnabod yn rhyngwladol fel fframwaith traws-lywodraethol cadarn. 

Bydd grŵp gorchwyl a gorffen yn cael ei gynnull yn gynnar yn 2026 i gwblhau fersiwn newydd o'r Cynllun, gan dynnu ar y gwerthusiad o gyllid oed-gyfeillgar Llywodraeth Cymru.

Mae'r gwerthusiad o'r rhaglen Cymunedau Oed-gyfeillgar yn mynd rhagddo'n dda. Mae llawer o waith gwych yn cael ei wneud gan rwydwaith oed-gyfeillgar yr awdurdodau lleol, ac mae'r gwerthusiad yn helpu i ddangos ei werth. Y gobaith yw y bydd y gwerthusiad yn cael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon.

Yr wythnos ddiwethaf, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn, cyhoeddodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol gyllid parhaus ar gyfer y Rhaglen Cymunedau Oed-gyfeillgar yn 2026 i 2027.

Bu trosiant ymhlith swyddogion oed-gyfeillgar ar draws Cymru sydd wedi effeithio ar eu haelodaeth o Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddi, mae bwriad i gynnal adolygiad a gweithredu trefniadau posibl i gylchdroi'r aelodaeth er mwyn sicrhau bod y ddau grŵp o randdeiliaid yn parhau i fod yn integredig.

Cam Gweithredu

  • swyddogion i sefydlu grŵp Gorchwyl a Gorffen yn gynnar yn 2026 er mwyn cwblhau cynllun cyflawni newydd
  • swyddogion i adolygu aelodaeth y fforwm, gyda phwyslais arbennig ar gynrychiolaeth deg gan Arweinwyr Oed-gyfeillgar yr Awdurdodau Lleol

Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol (gan gynnwys cyflwyniadau byr gan Lyn Cadwalladr a Barry Stephens)

Cadarnhaodd y Gweinidog y bydd cyllid ar gyfer y rhaglen Cymunedau Oed-gyfeillgar yn parhau gyda £1.1 miliwn i'w ddyrannu i awdurdodau lleol yn 2026 i 2027. 

Pwysleisiodd y Gweinidog hefyd:

  • effaith buddsoddiadau bach o ran gwella llesiant a chysylltiadau cymdeithasol pobl hŷn
  • yr angen am gefnogaeth drwy gydol y flwyddyn, nid dim ond ar achlysuron arbennig
  • Arweiniad Cymru o ran strategaeth oed-gyfeillgar sy'n cael ei gydnabod gan bwyllgorau Llywodraeth y DU yn San Steffan a Sefydliad Iechyd y Byd
  • Pwysigrwydd rhannu a graddio mentrau llwyddiannus er mwyn osgoi dyblygu a gwneud y mwyaf o'r effaith
  • Anerchodd Lyn Cadwalladr y grŵp, gan dynnu sylw at fanteision ataliol gweithredu cymunedol o dan arweiniad cynghorau tref a chymuned. Ymhlith yr enghreifftiau o hyn roedd:
    • canolfannau clyd, prosiectau bwyd, clybiau cyfeillio, a gwasanaethau cynnal a chadw cartrefi
    • rôl hanfodol cynghorau lleol wrth ddarparu cymorth cost isel, effaith uchel
    • rhwystrau strwythurol mewn ardaloedd trefol, lle mae cynghorau cymuned yn llai cyffredin, sy'n cyfyngu ar ymgysylltu â chymunedau lleiafrifoedd ethnig

Fe wnaeth Barry Stephens seilio ei drafodaeth ar gwmpas Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Cymru Iachach, gan eirioli dros ymyrryd ac atal yn gynnar er mwyn gwella llesiant a sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) hefyd yn sail i'r dull gweithredu hwn, gan ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus weithio ar y cyd a chanolbwyntio ar fesurau ataliol hirdymor.

Roedd y drafodaeth i gloi yn tynnu sylw at alwadau am gynhwysiant gwell ar gyfer grwpiau hŷn o leiafrifoedd ethnig; awgrymiadau ar gyfer gwaith maes drwy ganolfannau diwylliannol a ffydd; sylwadau ar y ddibyniaeth ar fanciau bwyd a chanolfannau clyd, gyda galwadau am adferiad cymdeithasol; a chyhoeddusrwydd gwell i gyflawniadau Cymru. Hefyd, gofynnwyd a yw awdurdodau lleol yn darparu gwerth am y £50,000 a ddyrannwyd iddynt, gan ddweud nad yw camau gweithredu awdurdodau lleol rhai cymunedau wedi cael effaith amlwg, er bod y Cyngor Cymuned lleol yn weithgar iawn o fewn yr un cymunedau.

Cam Gweithredu

  • Barry Stephens ac Amal Beyrouty i gwrdd a thrafod sut y gallai Cymru Egnïol a Women Connect First fod yn fwy cydlynol

Diweddariad ar Ragfarn ar sail

Ailgynullwyd y Gweithgor Rhagfarn ar sail Oedran ar gyfer cyfarfod ar 16 Medi. Bu'r grŵp yn trafod mireinio cais y Loteri Fawr, gan bwysleisio'r angen i gryfhau a rhannu'r gweithgareddau presennol (yn hytrach na chreu rhai newydd), ac i wella dulliau gwerthuso, yn enwedig ar gyfer llesiant, gan ddefnyddio dulliau ansoddol a meintiol. 

Bydd cais sydd wedi ei fireinio bellach yn cael ei ysgrifennu i gynnwys elfennau sy'n seiliedig ar gryfder sy'n berthnasol rhwng cenedlaethau, ac integreiddio'r casgliadau o bapur ymchwil Harry Lightfoot.

Bydd cyfarfod arall yn cael ei drefnu cyn y Nadolig i adolygu cynnydd a chwblhau'r cynnig.

Cam Gweithredu

  • swyddogion i drefnu cyfarfod nesaf y Gweithgor Rhagfarn ar Sail Oedran cyn y Nadolig

Diweddariad y Gweithgor Tai

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Gweithgor Tai ar 30 Medi 2025. Cytunodd y grŵp i ddatblygu datganiad sefyllfa ar gyfer tai i bobl hŷn, gan ganolbwyntio ar dai prif ffrwd yn hytrach na llety arbenigol, ac i ystyried materion fel tlodi, iechyd, asedau cymunedol, a'r nifer cynyddol o bobl hŷn mewn llety rhent preifat.

Gosodwyd camau gweithredu ar gyfer aelodau i egluro amcanion, adolygu'r dystiolaeth a'r adroddiadau presennol, cynnwys rhanddeiliaid ehangach, a threfnu cyfarfodydd gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i lywio argymhellion polisi ar dai i bobl hŷn yn y dyfodol.

Arolwg Blynyddol Age Cymru 2025

Cafodd y 6ed Arolwg Cenedlaethol a gynhyrchwyd gan Age Cymru ei gyhoeddi ym mis Awst. Unwaith yn rhagor, roedd y casgliadau allweddol yn canolbwyntio ar yr un meysydd neu feysydd tebyg:

  • dirywiad iechyd corfforol
  • pwysau costau byw
  • mynediad at wasanaethau
  • allgáu digidol
  • unigrwydd a theimlo’n ynysig

Er bod llawer wedi cael sylw, ac yn cael sylw ar hyn o bryd o fewn polisïau a gwasanaethau, mae'r angen i sicrhau gwelliant sylweddol yn parhau.

Mae dolen i'r arolwg i'w gweld ar wefan Age Cymru.

Unrhyw fater arall

Tynnodd Sarah Capstick sylw'r grŵp at ymweliadau diogelwch cartref Tân ac Achub, a chytunodd i rannu gwybodaeth gyda'r ysgrifenyddiaeth i'w hanfon ymlaen at yr aelodau

Cam Gweithredu

  • Sarah Capstick i anfon gwybodaeth at yr ysgrifenyddiaeth am ymweliadau diogelwch cartref Tân ac Achub, a'r ysgrifenyddiaeth i'w rhannu gyda'r aelodau