Beth rydym yn ei wneud
Mae Panel Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru yn rhoi cyngor ar faterion sy’n ymwneud â chyfiawnder ieuenctid yng Nghymru.
Corff sydd wedi’i greu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr yw Panel Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru.
Mae’r Panel yn cyfarfod bob chwarter, ac yn cael ei gadeirio gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a Llywodraeth Cymru.
Nod y Panel yw:
- tynnu ynghyd, ar lefel genedlaethol, bartneriaid strategol sy’n chwarae rôl o ran gweithredu’r system cyfiawnder ieuenctid
- helpu a chefnogi plant i’w gwarchod rhag troseddu
