Neidio i'r prif gynnwy

Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn fy natganiad yn y Cyfarfod Llawn ym mis Medi, yn nodi fy uchelgais i wneud Ap GIG Cymru yn ddrws ffrynt digidol i'r GIG, rwy'n falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am nodweddion newydd yr ap.

Ers ei lansio, mae mwy na 657,700 o bobl wedi cofrestru i ddefnyddio Ap dwyieithog GIG Cymru, sy'n darparu ystod gynyddol o swyddogaethau i helpu pobl i reoli eu hiechyd a'u llesiant eu hunain, gan ategu’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan y GIG ar hyn o bryd. 

Mae bron i 5,000 o bobl wedi gallu cofrestru gan ddefnyddio Gwasanaeth Dilysu Hunaniaeth newydd Cymru, sy'n galluogi i feddygfeydd wirio hunaniaeth pobl nad ydynt yn gallu defnyddio gwasanaeth mewngofnodi safonol y GIG.

Mae mwy na thair miliwn o bresgripsiynau rheolaidd bellach wedi'u harchebu trwy Ap GIG Cymru. Mae pobl yn gallu gweld eu hanes iechyd a phresgripsiynau, a chael mynediad at gyngor a gwybodaeth iechyd dibynadwy, gan gynnwys gwasanaethau sgrinio a llesiant trwy'r ap. Mae hefyd yn caniatáu i bobl ddefnyddio negeseuon diogel a rhoi adborth.

Gan adeiladu ar y sylfeini hyn, mae gwasanaethau newydd wedi'u cyflwyno dros y misoedd diwethaf. 

Mae'r ap bellach yn galluogi pobl i weld eu hatgyfeiriad i restr aros yr ysbyty. Mae'r nodwedd hon yn caniatáu i bobl sydd wedi'u hychwanegu at restrau aros o fis Rhagfyr weld eu hatgyfeiriad i ofal eilaidd, gwirio eu statws ar y rhestr aros, a chael mynediad at wybodaeth i helpu i reoli eu hiechyd wrth aros am driniaeth ysbyty. 

Gall pobl hefyd weld manylion eu hapwyntiadau ysbyty, gan gynnwys cyfarwyddiadau a gwybodaeth ategol, ar yr ap wrth i'r swyddogaeth hon gael ei chyflwyno ledled Cymru. Hyd yma, mae mwy na 80,000 o atgyfeiriadau i'r rhestrau aros a mwy na 197,000 o hysbysiadau am apwyntiadau ysbyty wedi'u hychwanegu at yr ap.

Dros y flwyddyn nesaf, bydd nodweddion ychwanegol, gan gynnwys cofnodion iechyd cryno, hawl mynediad i ofalwyr, a chanlyniadau profion yn cael eu cyflwyno i’r ap.

Byddwn yn parhau i ehangu galluoedd yr app, gan sicrhau ei fod yn diwallu anghenion pobl.