Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Gall pobl ledled Cymru bellach weld ble maen nhw ar restrau aros y GIG gan ddefnyddio Ap GIG Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r fersiwn ddiweddaraf yn galluogi pobl sydd wedi'u hychwanegu at restr aros ers mis Rhagfyr i weld eu statws ar y rhestr aros, gweld eu hatgyfeiriadau at ofal ysbyty a manteisio ar wybodaeth i helpu i reoli eu hiechyd wrth aros am driniaeth.

Hyd yma, mae mwy na 80,000 o atgyfeiriadau at restrau aros a mwy na 197,000 o hysbysiadau am apwyntiadau ysbyty wedi'u hychwanegu at yr ap.

Gall pobl hefyd weld manylion am apwyntiadau ysbyty sydd i ddod, gan gynnwys cyfarwyddiadau a gwybodaeth ategol.

Mae mwy na 650,000 o bobl wedi cofrestru i ddefnyddio'r ap dwyieithog, sef Ap GIG Cymru, ers iddo gael ei lansio ym mis Ebrill 2023. Mae hyn yn cyfateb i un o bob pum oedolyn yng Nghymru. Yn ogystal, mae defnyddwyr wedi mewngofnodi i'r ap bron i 13.5 o filiynau o weithiau, ac mae mwy na 3 miliwn o archebion presgripsiynau rheolaidd wedi'u gwneud arno.

Nod yr ap dwyieithog yw gwella mynediad at wasanaethau gofal iechyd i bobl sydd wedi'u cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru ac mae'n rhan allweddol o strategaeth trawsnewid digidol Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal iechyd.

Gall pobl eisoes archebu presgripsiynau rheolaidd, gweld eu llinell amser iechyd a'u hanes presgripsiynau, gwirio eu cydsyniad i roi organau a manteisio ar gyngor iechyd dibynadwy gan gynnwys gwasanaethau sgrinio a llesiant.

Mae'r ap hefyd yn galluogi pobl i anfon negeseuon diogel at eu meddygfa a chadarnhau pwy ydynt drwy ddefnyddio Gwasanaeth Dilysu Hunaniaeth Cymru, sy'n helpu'r rhai nad ydynt yn gallu defnyddio proses mewngofnodi safonol y GIG.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy:

Ein huchelgais o hyd yw y bydd Ap GIG Cymru yn gweithredu fel drws ffrynt digidol ar gyfer holl wasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol.

Fe wnaethon ni addo rhoi rhagor o wybodaeth i bobl ynghylch pa mor hir y gallan nhw ddisgwyl aros am driniaeth. Mae'r diweddariadau hyn yn cyflawni'r ymrwymiad hwnnw.

Byddwn ni'n parhau i ddiweddaru ac ehangu galluoedd yr ap, gan sicrhau ei fod yn diwallu anghenion cleifion a chlinigwyr fel ei gilydd.

Bydd datblygiadau yn y dyfodol yn cynnwys cofnodion iechyd cryno a chanlyniadau profion ar gael i bobl ar yr ap.