Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, cyhoeddir crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar gynigion i fireinio'r ffordd y caiff eiddo hunanddarpar ei drin at ddibenion trethi lleol. Rwyf hefyd yn cadarnhau fy mod wedi gwneud y Gorchymyn sy'n ofynnol i weithredu'r ddau gynnig penodol i fireinio'r ffordd y caiff y meini prawf gosod a ddefnyddir i ddosbarthu eiddo o'r fath eu cymhwyso. 

Yn gyntaf, gwnaethom gynnig cyfartaleddu nifer y diwrnodau y gosodwyd eiddo dros sawl blwyddyn i'w ddefnyddio fel tystiolaeth o gydymffurfiaeth, os na chyrhaeddwyd y trothwy gosod eiddo o 182 diwrnod yn ystod y flwyddyn flaenorol. Bwriad hyn yw rhoi cyfle i weithredwyr gyrraedd y trothwy gosod eiddo o 182 diwrnod unwaith yn rhagor, gan osgoi bod yn atebol am y dreth gyngor, os fyddant wedi methu â chyrraedd y trothwy o drwch blewyn.

Yn ail, cynigiwyd ei gwneud yn bosibl i lwfans o hyd at 14 diwrnod y flwyddyn ar gyfer rhoddion elusennol o seibiannau byr gyfrif tuag at y meini prawf gosod. Bwriad hyn yw osgoi anghymell rhoddion o'r fath a chefnogi'r budd cyhoeddus ehangach y maent yn ei ddarparu.

Yn ogystal, gofynnodd yr ymgynghoriad am farn ar fwriad Llywodraeth Cymru i annog awdurdodau lleol i helpu gweithredwyr hunanddarpar nad ydynt yn bodloni'r meini prawf gosod ar gyfer ardrethi annomestig drwy broses bontio fesul cam i'r dreth gyngor. Yn ôl y cynigion, byddai’r dreth gyngor yn cael ei chodi ar y gyfradd safonol am y flwyddyn gyntaf, cyn i unrhyw bremiwm ddod yn gymwys.

Cafwyd 1,211 o ymatebion i’r ymgynghoriad. Rwy’n ddiolchgar i’r rhai a wnaeth roi o’u hamser i ymateb ac rwy’n cydnabod yr ystod o safbwyntiau a rannwyd. Roedd y mwyafrif helaeth o'r ymatebwyr o blaid pob un o'r tri chynnig. 

Rwy'n cydnabod y safbwyntiau cryfion ymhlith gweithredwyr hunanddarpar ac eraill am ddyluniad y system trethi lleol. Fel y nodais wrth lansio'r ymgynghoriad, mae ein cynigion yn darparu ymateb, a ystyrir yn ymateb priodol, i faterion a godwyd gan y sector hunanddarpar wrth i'r meini prawf gosod newydd gael eu rhoi ar waith.

Nodwyd safbwynt polisi Llywodraeth Cymru yn fy natganiad blaenorol ar y mater hwn ac yn yr ymgynghoriad. Gan gydnabod bod 60% o eiddo hunanddarpar eisoes wedi bodloni'r meini prawf gosod, rydym o'r farn o hyd y dylid gosod eiddo am y rhan fwyaf o'r flwyddyn er mwyn iddo gael ei ddosbarthu yn eiddo annomestig at ddibenion trethi lleol. 

Yn dilyn yr ymgynghoriad, byddaf yn bwrw ymlaen â'r camau gweithredu angenrheidiol i alluogi'r cynigion i fireinio'r ffordd y caiff meini prawf gosod eu cymhwyso i ddod i rym o 1 Ebrill 2026 ymlaen. Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2026 wedi'i wneud a'i osod gerbron y Senedd at y diben hwnnw.

Wrth ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, rwyf hefyd wedi penderfynu deddfu ar gyfer eithriad statudol rhag talu premiwm y dreth gyngor, er mwyn sicrhau y caiff y cynnig ar gyfer pontio fesul cam ei gymhwyso yn gyson yn genedlaethol ledled Cymru. Bydd y rheoliadau angenrheidiol i gyflawni'r cynnig hwn yn cael eu datblygu a'u cyflwyno cyn gynted â phosibl, i fod yn gymwys o 1 Ebrill 2027 ymlaen. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda llywodraeth leol i gyflawni'r newidiadau polisi hyn.

Mae crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar gael yn: Cynigion i fireinio dosbarthiad eiddo hunanddarpar at ddibenion trethi lleol | LLYW.CYMRU