Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw rwyf wedi chyhoeddi Adroddiad ac argymhellion y Grŵp Cynghori Annibynnol ar Grid Trydan y Dyfodol i Gymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i nodi'n glir ddisgwyliadau ar gyfer y rhwydwaith trydan, yn seiliedig ar dystiolaeth gref sy'n adlewyrchu anghenion economi, amgylchedd a chymunedau Cymru yn y dyfodol. Daeth y Grŵp Cynghori Annibynnol at ei gilydd i ddatblygu dealltwriaeth o'r dulliau posibl o ddarparu seilwaith grid trydan a rhoi eu hargymhellion i ni ynghylch sut y dylid cyflawni'r rhwydweithiau newydd y gwyddom fod eu hangen arnom yng Nghymru.

Gwahoddwyd aelodau'r Grŵp Cynghori Annibynnol naill ai oherwydd eu gwybodaeth a'u harbenigedd penodol; neu fe'u henwebwyd gan sefydliadau rhanddeiliaid arbenigol allweddol. Mae'r aelodau annibynnol wedi cyfrannu eu dealltwriaeth o rwydweithiau trydan, effeithiau amgylcheddol, effeithiau economaidd-gymdeithasol, buddiannau cymunedol, a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i drafodaethau grŵp.

Roedd y grŵp yn cynrychioli ystod eang o safbwyntiau a phrofiadau, ac rwy'n gwerthfawrogi'n fawr ymrwymiad yr aelodau i weithio trwy'r holl safbwyntiau amrywiol i ddod i’w casgliadau. Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd a'r holl aelodau am eu hamser a'r sylw maent wedi ei roi i fanylion, a'u hagwedd adeiladol at y materion cymhleth sy'n ymwneud â rhwydweithiau trydan. 

Mae hwn yn gam cyntaf pwysig yn y gwaith sydd ei angen i gefnogi Cymru i gael y capasiti rhwydwaith sydd ei angen arnom i ffynnu yn yr unfed ganrif ar hugain. Byddaf yn awr yn manteisio ar y cyfle i ystyried yr adroddiad a'r argymhellion yn fanwl.