Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw mae adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar ganfyddiadau cyfres o 22 o ymweliadau dirybudd gan dîm annibynnol o uwch weithwyr proffesiynol i adolygu gofal ac amodau ar wardiau iechyd meddwl pobl hŷn ledled Cymru

Mae adroddiadau sy’n nodi’r canfyddiadau fesul bwrdd iechyd hefyd yn cael eu cyhoeddi heddiw.

Roedd yr ymweliadau, a oedd yn dilyn ac yn adeiladu ar gyfres o adolygiadau dirybudd o ofal ar gyfer pobl hŷn sy’n cael eu trin ar wardiau meddygol mewn ysbytai cyffredinol y llynedd, yn canolbwyntio ar saith agwedd sylfaenol o ofal:

  • Bwyta ac yfed
  • Defnyddio ataliaeth a chamau diogelu
  • Y defnydd o feddyginiaeth; gan gynnwys rhoi eu meddyginiaeth i gleifion a rhagnodi tawelyddion a chyffuriau gwrthseicotig
  • Ymataliaeth a gofal personol
  • Gweithgareddau dyddiol
  • Perthnasau a’u gofalwyr a’u hymwneud â gofal eu hanwyliaid
  • Diwylliant ac arweinyddiaeth.

Amlygodd yr ymweliadau – a gynhaliwyd mewn 22 o 51 o’r wardiau iechyd meddwl pobl hŷn yng Nghymru rhwng 20 Tachwedd a 18 Rhagfyr 2014 – feysydd o arferion da ac ardderchog ar hyd a lled Cymru, yn ogystal â meysydd oedd angen eu gwella.

Ar y cyfan, cafwyd bod timau staff yn gwneud eu gorau i ddarparu gofal o ansawdd da, er gwaethaf nifer o heriau.  Pan ganfu’r tîm o arolygwyr faterion a oedd yn destun pryder, cafodd y rhain eu codi gyda’r bwrdd iechyd ar unwaith fel eu bod yn gallu cymryd camau brys.

Roedd y timau wedi nodi bod amrywiaeth o ran arferion yn y wardiau eu hunain a rhwng y gwahanol wardiau yn ardaloedd y byrddau iechyd. Fodd bynnag, nid oeddent wedi gweld y ffaeleddau difrifol a nodwyd mewn adroddiad annibynnol am ward Tawel Fan, yn Ysbyty Glan Clwyd, Gogledd Cymru.

Mae nifer o argymhellion allweddol wedi deillio o’r ymweliadau dirybudd, gan gynnwys:

  • Sicrhau bod gan bobl hŷn fynediad i weithgareddau dyddiol ar wardiau – gwyddom fod gweithgareddau cadarnhaol diffaeledd o fudd therapiwtig
  • Bod staff yn teimlo y gallant fynegi eu pryderon yn hawdd; a’u bod yn cael hyfforddiant effeithiol ac yn deall y mesurau diogelwch cyfreithiol angenrheidiol
  • Yr angen i wella amgylcheddau'r wardiau, yn enwedig o ran sicrhau bod tasgau cynnal a chadw ac atgyweiriadau syml yn cael eu gwneud yn brydlon
  • Y dylai oriau hyblyg ar gyfer ymweliadau gael eu hannog ar y wardiau.

Er bod yr ymweliadau dirybudd wedi rhoi sicrwydd inni nad yw gofal gwael ac esgeulustod yn nodweddion systemig o ofal cleifion iechyd meddwl hŷn yng Nghymru, mae'r adroddiad yn cydnabod bod lle i wella ymhellach. Felly, rwy'n disgwyl i'r Byrddau Iechyd Lleol barhau i ddatblygu a gwella gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn â phroblemau iechyd meddwl mewn ysbytai ac yn y gymuned.

I gefnogi hyn ac i symud rhai o ganfyddiadau allweddol yr ymweliadau yn eu blaen, fe gyhoeddais y byddai dros £5 miliwn y flwyddyn yn cael ei fuddsoddi yn y GIG i ddarparu gwasanaethau cyswllt seiciatrig mewn ysbytai cyffredinol dosbarth, ac i sicrhau bod gweithgareddau dyddiol ar gael ar bob ward iechyd meddwl ar gyfer pobl hŷn.

Rwy hefyd wedi gofyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru hyrwyddo cymuned ymarfer ar gyfer iechyd meddwl pobl hŷn, fel bod arferion gorau ac arloesi yn cael eu rhannu ar hyd a lled Cymru.