Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

  1. Mae'r nodiadau hyn wedi'u cynllunio i'ch cynorthwyo wrth gwblhau'r Holiadur Busnes ar Wahân IACS (IACS26). Efallai na fyddant yn mynd i'r afael yn llawn â'r holl gwestiynau sydd gennych felly cysylltwch a’r Ganolfan Cyswllt I Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 am ragor o ganllawiau
  2. Rhaid cwblhau holiadur IACS 26 ar gyfer pob busnes unigol lle nad ydym yn glir ynghylch a oes mwy nag un busnes yn bodoli. Un enghraifft syml fyddai lle mae tad yn masnachu fel un busnes ond mae hefyd yn masnachu gyda'i fab – mae angen i ni fod yn glir, er mwyn bodloni deddfwriaeth gyfredol, a yw hyn yn cyfateb i ddau fusnes ar wahân neu i un. Gall sefyllfaoedd ac enghreifftiau eraill gynnwys:
  • Busnes newydd - rydych wedi prynu neu etifeddu busnes ac rydych yn newydd i ffermio. Neu rydych yn ffermwr ar hyn o bryd sydd wedi cymryd busnes ychwanegol (e.e. etifeddiaeth)
  • Busnes parhaus - efallai fod partner wedi'i ychwanegu neu wedi gadael, neu rydych wedi newid enw'r busnes. Bydd angen i ni asesu a yw'r newid hwn yn arwain at fusnes newydd neu fusnes sy'n parhau
  • Busnes cymhleth - gall busnes gynnwys nifer o fentrau ariannol wahanol ond os ydynt, i raddau helaeth, ym mherchnogaeth a/neu reolaeth yr un person neu grŵp o bobl, o dan amgylchiadau o’r fath efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru eu hystyried fel un busnes.

Fel arfer, byddai Llywodraeth Cymru'n ystyried busnesau nad ydynt i raddau helaeth ym mherchnogaeth a/neu reolaeth yr un person neu grŵp o bobl yn fusnesau ar wahân.

  1. Bydd cadarnhau nifer cywir y busnesau'n ein galluogi i gyflwyno'r nifer priodol o Gyfeirnodau Cwsmer (CRN).
  2. Darllenwch y Nodiadau Canllaw hyn tan y diwedd cyn cwblhau'r IACS 26.

Gwybodaeth hanfodol i'r busnes hwn

Cwestiwn 1 

a) yr enw busnes hwn yw'r un a ddefnyddiwch i fasnachu ac fel arfer dyma’r enw mae’r cyfrif banc ynddo. Mae’n bwysig eich bod yn defnyddio'r enw yn union fel y'i cofrestrir i bob cais sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru oherwydd gallai unrhyw newidiadau achosi oedi. Er enghraifft os ydych yn masnachu fel “John Smith”, dyma'r teitl y dylech ei ddefnyddio ac nid, er enghraifft, “J Smith”.

b) rhowch gyfeiriad post llawn gan gynnwys y cod post ar gyfer y busnes hwn

c) rhowch gyfeirnod cwsmer (CRN) y busnes hwn

ch) rhowch brif rif daliad (CPH) y busnes hwn

Cwestiwn 2 

a) Mae angen disgrifiad cyffredinol arnom yma o brif natur y busnes hwn, a all fod yn fferm odro, da byw ac ati.

Cwestiwn 3

a) Mae angen i ni wybod pa fusnesau eraill sydd gennych fuddiant ynddynt, a'r ffordd hawsaf o wneud hyn yw drwy nodi eu cyfeirnodau cwsmer (CRN)

Adran A: statws cyfreithiol/strwythur y busnes hwn

Cwestiwn 4

  1. Mae'n debygol y daw statws masnachu'r busnes hwn o dan un o'r categorïau hyn. Os nad ydyw, byddwch mor gywir ag y gallwch yn y disgrifiad:
    • unig fasnachwr (h.y. un person sy'n berchen ar y busnes hwn ac yn gyfrifol amdano)
    • partneriaeth gyda chytundeb partneriaeth ysgrifenedig
    • partneriaeth heb gytundeb ysgrifenedig
    • cwmni cyfyngedig
    • partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig
    • cwmni cyfyngedig cyhoeddus
    • ymddiriedolaeth
    • arall, megis cael ei redeg gan ysgutorion

Os oes ysgutorion yn rhedeg y busnes bydd yn help os darperir y manylion megis enw'r ymadawedig, dyddiad y farwolaeth, ac a yw'r manylion a'r dogfennau hyn eisoes wedi'u darparu i Lywodraeth Cymru.  Os nad ydynt wedi'u darparu, amgaewch hwy gyda'r ffurflen hon.

Adran B: strwythur economaidd y busnes hwn

Cwestiwn 5

a) Rhaid darparu'r dyddiad y sefydlwyd y busnes hwn

b) Nodwch y prif reswm dros sefydlu'r busnes hwn. Gallai'r rhesymau dros sefydlu'r busnes gynnwys ‘sefydlu grŵp neu aelod o'r teulu mewn busnes’, ‘ehangu ar fusnes presennol neu ei arallgyfeirio’, ‘etifeddu fferm’ neu ‘rannu busnes presennol am resymau treth neu eraill’ ac ati. Byddwch mor ddisgrifiadol â phosibl.

Mae'r cwestiynau canlynol (6-11) wedi'u cynnwys yn y tablau ar dudalennau 4 a 5. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o gwestiynau eraill, dylai'r rhain gael eu hateb ar gyfer pob cyfranogwr yn y busnes hwn i sicrhau bod gennym y wybodaeth gywir am bob un sy'n cymryd rhan, ei swydd, ei gyfrifoldeb, ei fudd a'i atebolrwydd?

Os bydd angen i chi roi manylion mwy na chwe pherson, copïwch dudalennau 4 a 5 i gael mwy o le (a thiciwch ar frig y tudalennau i nodi eich bod wedi gwneud hynny)

Cwestiwn 6 

a) Mae angen yr enw llawn ar gyfer pob person, nid y llythrennau blaen yn unig

b) Mae angen y statws ar gyfer pob cyfranogwr, megis partner, cyfarwyddwr, ysgrifennydd y cwmni, ymddiriedolwr ac ati. 

c) Dyma nifer y cyfranddaliadau a ddelir ac fel arfer mae'r un peth â chanran yr elw/colledion i'w briodoli i bob cyfranogwr yn y busnes hwn. Mewn cwmni cyfyngedig efallai fod gwahanol fathau o gyfranddaliadau dan sylw felly nodwch bob math a'r nifer a ddelir.

Ch) Gall nifer yr hawliau pleidleisio fod yn wahanol i'r cyfranddaliadau a ddelir, a gall nodi gwahanol gyfrifoldebau i wahanol gyfranogwyr busnes. Er enghraifft, gellir rhoi gwahanol hawliau pleidleisio i bobl sy'n meddu ar ‘brif’ gyfranddaliadau neu gyfranddaliadau ‘cyffredin’ a all nodi pwysigrwydd uwch prif gyfranddalwyr wrth wneud y penderfyniadau polisi tymor hir ar gyfer y busnes hwn. Efallai mai cyfarwyddwyr fydd yn meddu ar y cyfranddaliadau hyn.

Cwestiwn 7 

a) Mae'n angenrheidiol nodi unrhyw aelodau busnes o dan 16 oed ac a oes unrhyw un yn gweithredu ar eu rhan. Dylid eu rhestru gyda'r aelodau busnes eraill a darparu'r un wybodaeth, gan gynnwys manylion unrhyw un sy'n gweithredu ar eu rhan neu os oes Ymddiriedolaeth yn rhan o hyn.

Cwestiwn 8

a) a b) Nodwch pa gyfranogwyr yn y busnes hwn sy'n cael budd o'r elw a/neu'n dioddef unrhyw golledion sy'n cronni.  Ger a) nodwch gydag ‘C’ a yw'r cyfranogwr yn un o berchnogion cyfreithiol y busnes hwn a ger b) nodwch a yw'r cyfranogwr yn gyflogedig, yn gyfarwyddwr neu'n bartner.

Cwestiwn 9

a) Mae angen i ni nodi pa gyfranogwr (cyfranogwyr) sydd â chyfrifoldeb am wneud penderfyniadau polisi tymor hwy sy'n effeithio ar broffidioldeb y busnes hwn. Mae'r rhain yn faterion a fyddai, er enghraifft, yn cael eu trafod yng nghyfarfodydd y cyfarwyddwyr neu'r partneriaid. Mewn cwmnïau cyfyngedig, gall cyfarwyddwyr a enwir wneud y penderfyniadau hyn. Dylai ymatebion gan bartneriaethau nodi a yw'r holl bartneriaid gyda'i gilydd, neu bartneriaid dethol (e.e. aelodau hŷn o deulu) yn gyfrifol am y penderfyniadau hyn.

Cwestiwn 10

a) a b) Mae'r cyfrifoldeb am brynu a gwerthu ar ran y busnes hwn, neu'r awdurdod i wneud hynny, yn bwysig. Dylech nodi o dan a) a oes gan y cyfranogwr unrhyw awdurdod mewn materion o'r fath ac o dan b) a oes gan y cyfranogwr gyfrifoldeb llawn.

Gall hwn fod yn faes cymhleth: gall rhai cyfranogwyr fod yn cymryd rhan yn ôl terfynau ariannol neu, er enghraifft, ar fferm da byw efallai y bydd gan stocmon a gyflogir awdurdod i brynu cyflenwadau rheolaidd o fwydydd anifeiliaid a chynhyrchion fferyllol ond heb yr awdurdod i brynu a gwerthu anifeiliaid ar bwyntiau allweddol yn y flwyddyn, y gellir ei benderfynu gan y cyfarwyddwyr/partneriaid ar sail symudiadau ym mhrisiau’r farchnad.

Ceisiwch ddisgrifio'r trefniadau yma os yw'n bosibl. Fel arall, defnyddiwch y Ddalen Barhau ar ddiwedd yr holiadur IACS 26.

Cwestiwn 11

a) Efallai mai aelodau penodol sy'n gyfrifol am y penderfyniadau polisi tymor hir, yn hytrach na rhedeg y busnes hwn o ddydd i ddydd. Nodwch pa rai o'r cyfranogwyr a restrir sydd â chyfrifoldeb o'r fath. 

b) Yma dylid nodi’r cyfranogwyr hynny, os o gwbl, a gyflogir ar sail contract

c) Mae ffermio ar gontract yn derm a ddefnyddir gydag amrywiaeth o drefniadau lle mae tirfeddiannwr yn ffermio tir gyda chontractwyr – efallai fod “ffermio gyda chontractwyr” yn ffordd well o ddisgrifio hyn. Mae'n eu cyfarwyddo hwy i ddarparu gwasanaethau i'w fusnes sy'n amrywio o weithrediadau unigol i becynnau mwy cynhwysfawr o wasanaethau. Ei fusnes ef yw’r busnes ffermio ar y tir, ei un ef yw’r cynnyrch ohono ac mae'n gyfrifol am y dreth arno. 

Mae'r rhan fwyaf o gytundebau ffermio ar gontract yn ceisio sicrhau mai'r tirfeddiannwr yw unig brif ddeiliad y tir ac nad yw'r contractwr yn cael unrhyw hawliau meddiannu fel tenant.  Mae gan y contractwr fynediad fel trwyddedai'r perchennog yn unig i gyflawni ei ddyletswyddau o dan ddibenion y contract ar gyfer y perchennog. Fel arfer, mae gan y contractwr hawl (o dan y cytundeb) i ffi am ei waith, sy'n adlewyrchu'r llafur a'r peiriannau a fyddai fel arfer yn cael eu defnyddio. Efallai eu bod hefyd yn cael symiau ychwanegol yn seiliedig ar ganlyniad ariannol y mentrau fferm sy'n elwa o'r contract

Ch) Nodwch swyddogaeth pob cyfranogwr busnes drwy nodi teitl os yw'n bosibl e.e. rheolwr fferm, stocmon, contractwr âr a swydd-ddisgrifiad cryno. Os hoffech ymhelaethu ar hyn defnyddiwch y ddalen barhau ar ddiwedd yr Holiadur IACS 26.

Adran C: trefniadaeth fashnachol y busnes hwn

Cwestiwn 12

a), b) ac c) nodwch drwy roi tic yn y blwch priodol a oes gan y busnes hwn gyfrifon annibynnol, statws treth a chofrestriad TAW. Lle mae ganddo gofrestriad TAW ar wahân, nodwch y rhif TAW 

Rhaid i unrhyw dystiolaeth ddogfennol sydd gennych sy'n ategu'r ymatebion a roddwyd gael eu copïo a'u hatodi. 

Cwestiwn 13

a) Nodwch a yw'r busnes hwn yn rhentu neu'n prydlesu tir i'r busnes(au) arall/eraill y mae gennych fuddiant ynddo/ynddynt. 

b), c) ac ch) Lle mae'r ateb i a) yw Ydy mae angen i ni ddeall y trefniadau ariannol perthnasol ac i wneud hyn dylech anfon  copïau o, er enghraifft, anfonebau sy'n ategu eich ymatebion. 

Cwestiwn 14

a) Nodwch a yw'r busnes hwn yn cyfnewid nwyddau neu wasanaethau â busnesau eraill y mae gennych fuddiant ynddynt. Gall y cyfnewidiadau hyn fod yn fenthyciadau ariannol neu, er enghraifft, y busnes hwn yn cyflenwi bwyd anifeiliaid i fusnes arall.

b) Os ydych wedi ateb Oes i a) nodwch yn syml swm y trafodion o ran a ydynt yn, “fwy neu lai na hanner” holl drafodion y busnes hwn.

c) ac ch) Nodwch yma a oes arian yn cael ei drosglwyddo i ategu'r trafodion ac, os oes, delerau neu drefniadau'r taliad. 

d)   Defnyddiwch y blwch hwn i roi disgrifiad “cryno” o'r ymatebion a roddwyd gennych yn a) i ch). Efallai y byddwch am fanylu ar enghreifftiau, rhoi manylion megis a yw'r busnes hwn a busnes arall y mae gennych fuddiant ynddo yn gweithredu trafodion ar gyfraddau mwy ffafriol na'r gyfradd fasnachol ar gyfer yr ardal, faint o drafodion sy'n digwydd ar y cyfan ac  a oes anfonebau'n cael eu codi rhwng y busnesau. Dylech hefyd ddangos pa fusnes(au) sy’n rhan o hyn.

Nodwch hefyd amlder y trafodion hyn – yn wythnosol, yn fisol, yn flynyddol ac ati. 

Lle rydych am fod yn fanylach yn eich ymateb defnyddiwch y ddalen Barhau ar ddiwedd holiadur IACS 26.

Dd) Mae angen i ni hefyd gael dealltwriaeth o'r trefniadau ariannol sy'n sail i'r trafodion hyn felly nodwch a oes anfonebau'n cael eu codi i ategu'r trafodion a ddisgrifir. 

e)   ac f) Os oes anfonebau'n cael eu codi defnyddiwch y meysydd hyn i'w disgrifio, er enghraifft a yw'r fferm hon yn codi anfonebau sy'n enwi fferm arall y mae gennych fuddiant ynddi fel y prynwr. 

ff) a g) Os na chaiff anfonebau eu codi defnyddiwch y meysydd hyn i ddisgrifio'r broses a ddefnyddir, er enghraifft efallai fod arian yn cael ei drosglwyddo o'r busnes hwn i fusnes arall y mae gennych fuddiant ynddo heb filio, e.e. yn anffurfiol, ond ei fod yn dal i ymddangos yn y cyfrifon.

Rhaid i'r atebion i gwestiwn 14 gael eu hategu gan dystiolaeth ddogfennol (e.e. enghreifftiau o anfonebau, detholiadau o gyfrifon sy'n dangos disgrifiad o drafodion ac ati.).

Cwestiwn 15

a) Os oes unrhyw amgylchiadau lle gall y busnes hwn fuddsoddi mewn un arall y mae gennych fuddiant ynddo, disgrifiwch amodau buddsoddiad o'r fath yma. Gall amodau o'r fath gynnwys ehangu neu arallgyfeirio. 

b) Yn yr un modd, a fyddech yn disgwyl i'r busnes hwn roi cymhorthdal i fusnes arall y mae gennych fuddiant ynddo pe bai'r busnes hwnnw'n dioddef colled ariannol. Yn wir, a fyddai'r gwrthwyneb yn berthnasol, hynny yw, a fyddech yn disgwyl i fusnes gwahanol y mae gennych fuddiant ynddo roi cymhorthdal i'r busnes hwn pe bai'n dioddef colled?

c) Esboniwch sut gallai'r cyllid weithio mewn sefyllfa o'r fath. 

Ch) A disgrifiwch pwy – o'r rhestr a ddarparwyd gennych yng Nghwestiwn 6 - fyddai'n gallu       neu'n gorfod awdurdodi trosglwyddiad cyllid o'r fath?

d) Disgrifiwch sut y gallai'r trosglwyddiadau hyn gael eu cynrychioli yng nghyfrifon y busnes hwn ac yng nghyfrifon unrhyw fusnes arall y mae gennych fuddiant ynddo. Er enghraifft, efallai eu bod yn ymddangos fel trosglwyddiadau cyfalaf cyfranddaliadau neu fenthyciadau ar y mantolenni perthnasol.

Rhaid i unrhyw dystiolaeth ddogfennol sydd gennych sy'n ategu'r ymatebion a roddir gael eu copïo a'u hatodi. 

Adran Ch: cyfleusterau'r busnes hwn

Cwestiwn 16

a) Mae angen i ni ddeall lleoliad daearyddol y tir a ddefnyddir gan y busnes hwn; efallai mai'r ffordd orau o wneud hyn yw drwy atodi mapiau, rhestru rhifau caeau neu drwy ddyfynnu rhifau daliadau (CPH).

b) ac c) Nodwch drwy roi tic a yw'r tir rydych wedi'i ddisgrifio yn a) yn cyd-ffinio â busnes arall y mae gennych fuddiant ynddo neu'n cael ei rannu ag ef.

Ch) Os gwnaethoch ateb ‘oes’ i naill ai b) neu c) defnyddiwch y blwch hwn i ddisgrifio'r cysylltiadau hynny. Byddwch mor benodol ag y gallwch, er enghraifft “Mae cae 123 yn cael ei rannu â busnes arall am ran o'r flwyddyn” neu “mae'r prif ddaliad (CPH) ar gyfer y  busnes hwn yn cyd-ffinio â'r un a ddefnyddir gan fusnes arall am 7 milltir rhwng pwyntiau A  a B”. Eto, efallai yr hoffech ddefnyddio mapiau i ddisgrifio'r cysylltiadau hyn. Os bydd angen mwy o le arnoch, defnyddiwch y ddalen barhau ar ddiwedd yr holiadur IACS 26.

Cwestiwn 17

a) Mae angen i ni ddeall a yw'r busnes hwn ac unrhyw fusnesau eraill y mae gennych fuddiant ynddynt yn defnyddio cyfeiriad gohebu sy'n cael ei rannu. 

b) Yn yr un modd, a oes unrhyw adeiladau amaethyddol neu fferm yn cael eu rhannu? 

c) Os gwnaethoch ateb ‘ydy/oes’ i naill ai a) neu b) defnyddiwch y blwch hwn i ddisgrifio'r trefniadau hynny. Dylech nodi pa fusnesau eraill y mae gennych fuddiant ynddynt sy'n rhannu'r cyfeiriadau gohebu neu'r adeiladau megis ysguboriau neu gyfleusterau atal/cadw tractorau neu stociau. Dylech nodi a yw'r adeiladau hyn yn cael eu rhannu'n rhydd neu'n fasnachol, er enghraifft a oes rhent yn cael ei dalu ac, os oes, a yw ar gyfraddau masnachol sy'n debyg i'r rhai yn eich ardal. 

Ch) Nodwch yma a yw'r busnes hwn yn gwbl ddibynnol ar fusnesau eraill y mae gennych fuddiant ynddynt ar gyfer adeiladau amaethyddol a/neu fferm; mewn geiriau eraill, oni allai'r busnes hwn weithredu fel y mae ar hyn o bryd heb ddefnyddio'r adeiladau hynny?

Cwestiwn 18

a) i dd) Defnyddiwch y cwestiynau hyn i nodi a yw'r busnes hwn yn rhannu porthiant, deunyddiau neu offer fferm ag unrhyw fusnesau eraill y mae gennych fuddiant ynddynt. Gall porthiant gynnwys silwair neu wair a gall deunyddiau gynnwys hadau, agrocemegion, cyflenwadau bwyd anifeiliaid ac ati. Ger pob categori disgrifiwch sut mae'r trefniadau rhannu hynny'n gweithio , er enghraifft a ydynt yn barhaol, pa fusnes(au) arall/eraill maent yn ymwneud ag ef/â hwy, a godir tâl ac ati.

Dylech hefyd ddefnyddio'r blychau hyn i ddisgrifio a yw'r busnes hwn ac unrhyw fusnes arall y mae gennych fuddiant ynddo yn rhannu offer yn anffurfiol neu'n rhan o drefniant rhannu mwy strwythuredig, o bosibl yn cynnwys busnesau eraill nad ydynt yn gysylltiedig. 

Gall trefniadau o'r fath gynnwys:

  • Syndicet Peirannau  -   lle mae grŵp o fusnesau'n berchen ar beiriannau gyda'i gilydd ac mae unigolion yn eu benthyg yn eu tro ar sail gydweithredol. Yn y trefniant hwn gall y busnesau IACS cysylltiedig fod â chyfran gyffredin rhyngddynt, neu gyfranddaliadau unigol ar wahân yn y syndicet.
  • Cylch Peiriannau  -   lle gall un aelod fod yn berchen ar ddarn o beiriant a'i rannu ag eraill. Gall aelodau eraill y Cylch gyfrannu gwahanol ddarnau o beiriannau. Eto, gall y busnesau IACS cysylltiedig fod ag aelodaeth unigol o Gylch rhyngddynt, neu aelodaeth unigol. Mewn Cylch, neu drefniant rhannu symlach, mae'n angenrheidiol cadarnhau faint o beiriannau parhaol sy'n gweithio y mae pob busnes yn berchen arno. Os cofnodir bod fferm yn ymwneud â ffermio âr neu dda byw, dylai fod yn bosibl i'r ymgeisydd nodi'r holl eitemau hynny o beiriannau ac offer sydd ar gael yn barhaol ar y fferm, neu fel arall bod modd eu cael o ffynonellau eraill (e.e. ar gyfer gwaith tymhorol).

Rhaid i bob ateb i gwestiwn 18 gael ei ategu gan dystiolaeth ddogfennol fel y bo'n briodol.

Cwestiwn 19

a) i g) Mae angen cadarnhad o ran a oes gan y busnes hwn ei Gynllun Fferm neu ei Gynllun Busnes ei hun a/neu ei gontractau gwerthu ei hun. Lle bynnag rydych yn nodi ‘Nac oes’ defnyddiwch y blwch cysylltiol i ddisgrifio sut, os o gwbl, mae'n ymwneud â’r rhai mae unrhyw fusnes arall y mae gennych fuddiant ynddynt wedi’u llunio. 

Lle mae gennych dda byw yn y busnes hwn, defnyddiwch y blychau yn e) i g) er mwyn nodi marciau'r fuches neu'r ddiadell ac a oes gan y busnes hwn ei gofnodion da byw ei hun. Lle mae'r ateb yw na, esboniwch sut maent yn ymwneud ag unrhyw fusnesau eraill y mae gennych fuddiant ynddynt. Dylech hefyd nodi a yw'r trefniadau presennol wedi'u cofrestru gyda Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (y BCMS).

Darparwch dystiolaeth ddogfennol i ategu eich ymatebion yn a) i g).

Cwestiwn 20

a) a b) Rhowch fanylion o ran lle mae'r busnes hwn ac unrhyw fusnes arall y mae gennych fuddiant ynddo yn rhannu llafur.  Os ydych yn ateb ‘ie’ i a) nodwch yn b) graddau'r rhannu, er enghraifft gall cyflogai weithio am dri mis yn y busnes hwn a naw mis mewn busnes arall. Dylech hefyd ddweud a yw'r trefniadau am ddim, yn anffurfiol, o dan gontract, at ddibenion penodol yn unig ac ati. 

Lle mae'r busnes hwn yn cynnal gwaith contractio i fusnes arall y mae gennych fuddiant ynddo dylech gynnwys tystiolaeth ddogfennol, megis anfonebau.

Cwestiwn 21

a) a b) os yw'n briodol, rhowch fanylion o ran lle mae'r busnesau'n rhannu prynu neu werthu mewnbynnau neu gynnyrch fferm er enghraifft gwneud swmp bryniadau neu werthu cynnyrch yn y farchnad leol

Cwestiwn 22

a) a b) Os yw'n briodol, rhowch fanylion o ran symud stoc rhwng y busnes hwn a rhai busnes arall y mae gennych fuddiant ynddo.

Cwestiwn 23

a) a b) Os yw'r busnes hwn yn ymwneud â chytundeb ffermio cyfran, nodwch hyn o dan a). Os byddwch yn ymateb drwy ddweud ‘ydy’ yn a) disgrifiwch y trefniadau hynny yn b), er enghraifft sut mae cynnyrch y trefniant ffermio cyfran yn cael ei rannu rhwng y cyfranogwyr e.e. drwy dderbyn cyfran o allbwn y fferm y cytunwyd arni, neu ran o'r elw o werthu’r cynnyrch. 

Dylai eich disgrifiad nodi pa fusnesau eraill sy'n cymryd rhan a dylid cynnwys copi o'r cytundeb.        

Datganiad

Noder: lle rydych yn defnyddio asiant i lofnodi'r datganiad, sicrhewch fod ei fanylion wedi'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru neu bod ffurflen awdurdod presennol wedi'i hanfon gyda Ffurflen y Cais Sengl. Heb gofnod o'r awdurdod hwnnw ni fyddwn yn gallu prosesu'r holiadur hwn.