Gwerthusiad o'r canllawiau statudol ar addysg ddewisol yn y cartref: crynodeb
Roedd y gwerthusiad hwn yn edrych pa mor effeithiol yw’r canllawiau statudol ar addysg ddewisol yn y cartref, ac yn holi a oedd angen unrhyw ddiwygiadau.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Nodau a methodoleg yr ymchwil
Nod y gwerthusiad oedd archwilio effeithiolrwydd y canllawiau statudol ar addysg ddewisol yn y cartref, archwilio a oedd awdurdodau lleol yn ystyried bod eu gallu i 'weld' y plentyn a chyfathrebu ag ef wedi cryfhau yn sgil cyhoeddi'r canllawiau a chanfod a oedd angen gwneud unrhyw welliannau i'r canllawiau.
Cyhoeddwyd y canllawiau statudol ar gyfer awdurdodau lleol ar addysg ddewisol yn y cartref ym mis Mai 2023 gan ddisodli'r canllawiau anstatudol a oedd ar waith yn flaenorol. Fe'u datblygwyd i gefnogi awdurdodau lleol i arfer eu swyddogaethau i wneud trefniadau i adnabod y plant hynny nad ydynt yn derbyn addysg addas.
Cynhaliwyd y rhaglen waith ar gyfer y gwerthusiad hwn mewn 4 cam.
- Cam cychwynnol.
- Roedd cam 2 yn cynnwys dadansoddiad o ddata presennol, ymchwil desg ar ddogfennau polisi a strategaethau presennol, gan gynnwys y canllawiau statudol addysg ddewisol yn y cartref a gyhoeddwyd a deunyddiau atodol.
- Roedd Cam 3 yn cynnwys datblygu canllaw trafod i'w ddefnyddio yn ystod gwaith ymchwil gwreiddiol gyda phob awdurdod lleol yng Nghymru – i gynnwys swyddogion arweiniol addysg ddewisol yn y cartref a staff perthnasol eraill yr awdurdodau lleol yn ôl yr angen (megis swyddogion lles addysg neu arweinwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)). Paratowyd templed rhannu data hefyd yn gofyn am ddata ar addysg ddewisol yn y cartref fel yr adroddwyd yn y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) ar gyfer Ionawr 2025. Trefnwyd cyfweliadau lled-strwythuredig gyda chynrychiolwyr o bob un o'r 22 awdurdod lleol ac un undeb athrawon rhwng canol mis Ebrill a chanol mis Gorffennaf. Mynegodd cyfanswm o 34 o unigolion eu barn yn ystod y cam gwaith maes ansoddol
- Roedd cam 4 y gwerthusiad yn cynnwys dadansoddi data'r gwaith maes a pharatoi adroddiad.
Prif ganfyddiadau
Mae'r canllawiau statudol ar addysg ddewisol yn y cartref wedi arwain at rai manteision o ran cefnogi awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau mewn perthynas ag addysg ddewisol yn y cartref. Dywedodd sawl awdurdod lleol bod ganddynt fwy o eglurder a bod fframwaith safonedig ar waith gan amlygu pa mor ddefnyddiol oedd hynny o ran egluro prosesau Gorchymyn Mynychu'r Ysgol a gwella addasrwydd templedi asesu addysg.
Fodd bynnag, mae hyn yn anghyson - dywedodd tua thraean o'r awdurdodau nad oedd y canllawiau statudol wedi gwneud fawr ddim gwahaniaeth ymarferol i'w dull gweithredu, naill ai oherwydd bod eu prosesau presennol eisoes yn cyd-fynd â'r canllawiau neu oherwydd yr ystyrir bod y canllawiau yn rhy amwys i newid arferion. At ei gilydd, mae'r canllawiau wedi egluro bwriad ond nid ydynt wedi newid arferion awdurdodau lleol mewn ffordd gyson nac wedi cryfhau dulliau gorfodi. Mae'r cyllid ychwanegol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru wedi cynyddu capasiti awdurdodau lleol mewn sawl achos, ac mae awydd i weld trefniant ariannu hirdymor.
Dim ond 9 awdurdod lleol a nododd eu bod wedi cyflwyno newidiadau parhaol neu raddol i brosesau ers mis Mai 2023 mewn ymateb i'r canllawiau statudol. Roedd yr enghreifftiau'n cynnwys adolygu polisïau lleol, defnyddio templedi Llywodraeth Cymru, sefydlu prosesau atgyfeirio newydd neu baneli addysg ddewisol yn y cartref, a chryfhau trefniadau gweithio amlasiantaethol. Fodd bynnag, adroddodd tua 10 awdurdod lleol am rai problemau ynghylch cyfynigadau’r canllawiau, gan amlygu pryderon ynghylch amwysedd neu wrthddweud canfyddiedig. Yn ogystal, nodwyd bod dibyniaeth y canllawiau ar gydweithrediad gwirfoddol gan deuluoedd i gwrdd â swyddogion addysg ddewisol yn y cartref yn cyfyngu ar y gallu i fonitro a darparu cefnogaeth effeithiol i bob plentyn sy'n cael ei addysgu yn y cartref.
At ei gilydd, nid yw'r dystiolaeth yn dangos bod y canllawiau statudol yn cael eu defnyddio'n llawn ac yn effeithiol gan bob awdurdod lleol. Er bod y canllawiau’n darparu fframwaith defnyddiol ac wedi ysgogi newidiadau parhaol mewn rhai meysydd, mae'r defnydd ymarferol ohonynt yn anghyson gan ei fod yn dibynnu'n fawr ar adnoddau lleol, y dehongliad o'r canllawiau, a’r graddau y mae awdurdodau wedi ymgorffori’r canllawiau mewn prosesau lleol pendant.
Wrth ystyried i ba raddau y mae'r canllawiau statudol ar addysg ddewisol yn y cartref wedi bod yn effeithiol o ran cryfhau gallu awdurdodau lleol i 'weld' y plentyn yn y cartref, mae awdurdodau lleol yn ystyried eu bod yn cymeradwyo'r egwyddor hon ac yn pennu disgwyliad o gyswllt blynyddol fan leiaf. Fodd bynnag, mae llawer o awdurdodau lleol yn parhau i ddibynnu'n fawr ar feithrin perthnasoedd a lleoliadau cyfarfod a digwyddiadau amgen er mwyn gallu gweld y plentyn. Mae barn gref nad yw'r canllawiau wedi rhoi'r pŵer sydd ei angen ar awdurdodau lleol i orfodi rhieni i ddarparu mynediad at eu plentyn, ac mae llawer o awdurdodau lleol o'r farn bod y geiriad (e.e. defnyddio 'dylai' yn hytrach na 'rhaid') a diffyg pwerau statudol yn cyfyngu ar effeithiolrwydd y canllawiau o ran gwarantu cyswllt uniongyrchol â'r plentyn.
Nid yw ein hymchwil wedi datgelu tystiolaeth gref bod awdurdodau lleol wedi gallu gweld mwy o blant o ganlyniad i gyhoeddi'r canllawiau statudol newydd ar addysg ddewisol yn y cartref. Ceir adroddiadau am gynnydd bach yng nghyfran y plant a welwyd mewn ambell awdurdod lleol ond mae'r cynnydd hwn i'w briodoli'n bennaf i ffactorau lleol megis mwy o staff, prosesau lleol newydd, neu drefnu digwyddiadau allgymorth yn hytrach na'r canllawiau eu hunain. Nid oes unrhyw effaith genedlaethol gyson y gellir ei phriodoli i'r canllawiau yn unig, a dywed llawer o awdurdodau lleol na fu dim newid neu bod y ffaith bod niferoedd y plant a addysgir yn y cartref yn cynyddu yn golygu bod cyfran y plant nad ydynt yn cael eu gweld yn eu hardal wedi aros yr un fath.
Wrth gymhwyso'r canllawiau statudol ar addysg ddewisol yn y cartref, dywed awdurdodau lleol iddynt gael rhai problemau cyffredin. Weithiau ystyrir bod y canllawiau’n amwys neu’n agored i ddehongliad (gan olygu eu bod yn cael eu cymhwyso'n anghyson ar draws awdurdodau lleol) – a darperir nifer o enghreifftiau penodol o hyn yn yr adroddiad drwyddo draw. Mae awdurdodau lleol hefyd yn teimlo bod diffyg pwerau cyfreithiol yn y canllawiau statudol pan fydd teuluoedd yn gwrthod cael cysylltiad â nhw. Mae ansicrwydd hefyd yn parhau ynghylch safonau'r dystiolaeth sydd ei hangen ac ynghylch priodoli gwaith i'r plentyn, a pha gamau pellach y dylai awdurdodau lleol eu cymryd mewn amgylchiadau lle mae amheuon ynghylch y dystiolaeth a ffynhonnell y gwaith. Yn aml, mae awdurdodau lleol hefyd yn amlygu cyfyngiadau ymarferol o ran capasiti yn gyffredinol (e.e. un swyddog yn gyfrifol am lwythi achosion mawr iawn sy'n cynyddu) sy'n golygu bod gweithredu'r canllawiau yn heriol. Nododd rhai awdurdodau lleol hefyd ddiffyg capasiti o fewn timau cyfreithiol i ddyroddi gorchymyn mynychu’r ysgol sy'n gwneud y broses yn un hirfaith sy'n gofyn am lawer o adnoddau. Mae'r cyswllt gwrthwynebol llafurus gan grwpiau wedi'u trefnu a'r pwysau ar adnoddau mewn perthynas â phrosesau gorchymyn mynychu’r ysgol/cyfreithiol hefyd yn cael eu hystyried yn heriau mewn rhai ardaloedd.
Lle mae awdurdodau lleol wedi cael problemau o ran cymhwyso'r canllawiau statudol ar addysg ddewisol yn y cartref, maent wedi addasu eu prosesau gweithredol. Datgelodd y gwerthusiad hwn lawer o enghreifftiau o sut yr oedd awdurdodau lleol yn datrys y problemau hyn. Mae arferion addawol nodedig yn cynnwys:
- dulliau casglu data gwell (megis ffurflenni dadgofrestru ar-lein gorfodol i gasglu'r rhesymau dros ddadgofrestru, sy'n galluogi cyswllt dilynol wedi'i dargedu)
- dull blaenoriaethu yn seiliedig ar y system coch-melyn-gwyrdd i dargedu adnoddau cyfyngedig at achosion â risg uwch
- sefydlu paneli addysg ddewisol yn y cartref i wneud penderfyniadau mewn achosion cymhleth/gorchmynion mynychu’r ysgol
- defnyddio lleoliadau cymunedol niwtral a digwyddiadau cyfoethogi i annog presenoldeb ac i weld dysgwyr
- defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y staff (yn rhannol)
- teilwra'r defnydd o grant Llywodraeth Cymru i greu swyddi addysg ddewisol yn y cartref pwrpasol ac i ddarparu cymorth i deuluoedd (grantiau dysgwyr, cyfarpar, gweithgareddau cymunedol)
Mae mesurau o'r fath wedi bod yn llwyddiannus mewn rhai ardaloedd - er enghraifft, dywedodd awdurdodau lleol fod gwell trefniadau ar gyfer casglu data, ymweliadau mwy amserol, ac ymgysylltiad gwell o ganlyniad i hynny, ond maent yn parhau i gael eu cyfyngu gan broblemau'n ymwneud â chapasiti a diffyg rhwymedigaethau gorfodadwy'n ymwneud â rhieni yn y canllawiau.
Cyflwynodd yr awdurdodau lleol nifer o awgrymiadau a chynigion ynghylch sut y gellid diwygio'r canllawiau statudol ar addysg ddewisol yn y cartref i helpu i fynd i'r afael â rhai o'r materion a godwyd. Mae'r awgrymiadau'n cynnwys:
- defnyddio iaith gadarnach (lle y bo'n briodol: 'rhaid'/bod yn gliriach ynghylch y disgwyliadau gan rieni)
- mwy o eglurder neu ddiffiniad gwell o'r hyn sy'n cael ei ystyried yn 'weld y plentyn' (e.e. digwyddiadau fideo/grŵp)
- gofynion statudol neu gliriach ar gyfer tystiolaeth gychwynnol wrth ddadgofrestru
- disgwyliadau cryfach o ran amserlenni
- cofrestr statudol addysg ddewisol yn y cartref
- gwahaniad cliriach rhwng dyletswyddau monitro addysg a dyletswyddau diogelu
- enghreifftiau ymarferol/templedi ar gyfer priodoli tystiolaeth a theuluoedd plant ag ADY
Mae llawer o awdurdodau lleol hefyd yn gofyn am fwy o gymorth cyfreithiol neu newid deddfwriaethol i ddarparu pwerau gorfodadwy lle bo angen.
Argymhellion
Argymhellion i Lywodraeth Cymru
Argymhelliad 1: ystyried gwneud newidiadau statudol a blaenoriaethu mesurau wedi'u targedu lle mae tystiolaeth yn awgrymu bod angen eu cryfhau ymhellach
Mae'r gwerthusiad hwn wedi dangos bod llawer o awdurdodau lleol yn ystyried mai diffyg gorfodaeth gyfreithiol yw'r prif rwystr i ddull cyson a digonol o wirio bod dysgwyr a addysgir yn y cartref yn derbyn addysg addas. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried ailedrych ar y mesurau statudol lle mae'r dystiolaeth yn dangos bod angen gwneud hynny. Dylai hyn gynnwys ystyried a oes angen dulliau statudol penodol:
- i alluogi awdurdodau lleol i'w gwneud yn ofynnol i gyflwyno tystiolaeth gychwynnol wrth ddadgofrestru
- i greu cofrestr o blant a addysgir yn y cartref (neu ddull cofrestru cryfach) er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn gyson weladwy i wasanaethau a
- i gyflwyno gorfodaeth gyfreithiol ar rieni i gytuno i adael i awdurdodau lleol weld y plentyn. Dylai unrhyw newid deddfwriaethol fod yn destun asesiad effaith cydraddoldeb/diogelu ac ymgynghoriad â rhanddeiliaid.
Argymhelliad 2: egluro a chryfhau geiriad y canllawiau er mwyn lleihau amwysedd
Dylai Llywodraeth Cymru geisio cryfhau geiriad y canllawiau lle y bydd hynny'n gwella eglurder ac arferion. Dylai geiriad amwys fel 'dylai' gynnwys disgwyliadau cliriach lle y bo'n briodol (er enghraifft ynghylch cyswllt blynyddol ac amserlenni adrodd) gan amddiffyn hawliau cyfreithlon rhieni neu dylid cryfhau'r geiriad, os yn bosibl. Gellid ychwanegu tabl cychwynnol byr hefyd i wahaniaethu rhwng y rhannau o'r canllawiau sy'n ddyletswyddau cyfreithiol a'r rhannau sy'n gyngor neu'n arferion a awgrymir. Byddai hyn yn lleihau dehongliad anghyson ar draws awdurdodau lleol, yn cryfhau atebolrwydd, ac yn darparu negeseuon cliriach i deuluoedd.
Argymhelliad 3: egluro'r canllawiau ar addasrwydd addysg a phriodoli tystiolaeth (gan gynnwys ADY)
Soniodd awdurdodau lleol am anawsterau wrth briodoli gwaith i'r plentyn a barnu pa mor ddigonol yw'r dystiolaeth. Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau cliriach gan gynnwys diwygio Atodiad A ar asesu addasrwydd (gan gynnwys mewn perthynas â dysgwyr ag ADY) ac ar briodoli tystiolaeth ynghyd ag enghreifftiau ymarferol er mwyn lleihau anghydfodau ac i gynorthwyo awdurdodau i wneud penderfyniadau cyson. Dylid datblygu hyn gyda mewnbwn gan ymarferwyr addysg ddewisol yn y cartref ac ADY yn ogystal ag arbenigwyr asesu. Dylai'r canllawiau ddarparu enghreifftiau ymarferol o dystiolaeth dderbyniol ar draws oedrannau (e.e. blynyddoedd cynradd neu TGAU) gan gynnwys yr hyn sy'n cael ei ystyried yn gynnydd amlwg dros amser. Gallai gynnwys astudiaethau achos byr sy'n dangos arferion da ar gyfer asesu llythrennedd a rhifedd ac ar gyfer priodoli gwaith i'r plentyn (e.e. tasgau byr yn ystod ymweliad, neu weithgareddau wedi'u recordio ar fideo lle y cydsyniwyd i hynny). Byddai hyn yn cynorthwyo swyddogion awdurdodau lleol (a theuluoedd) i feithrin cyd-ddealltwriaeth o ddarpariaeth addas, byddai'n lleihau amwysedd ynghylch yr hyn a ystyrir yn 'addas ac effeithlon' ac yn lleihau anghysondeb a goddrychedd wrth ddehongli.
Argymhelliad 4: cryfhau'r broses o gyfathrebu gofynion y canllawiau presennol a'r gofynion ynghylch adrodd ar ddata er mwyn sicrhau dehongliad cyson o 'weld y plentyn a chyfathrebu ag ef'
Er bod y canllawiau'n diffinio bod gweld y plentyn a chyfathrebu ag ef mewn cyfarfodydd i drafod addasrwydd addysg yn gallu digwydd ar-lein neu wyneb yn wyneb, mae'n ymddangos bod awdurdodau lleol yn dehongli ac yn cofnodi hyn mewn gwahanol ffyrdd. Felly, dylai Llywodraeth Cymru ystyried cryfhau ymhellach ei dulliau cyfathrebu mewn perthynas ag adrannau priodol o'r canllawiau a rhannu enghreifftiau o arferion da lle mae awdurdodau lleol wedi defnyddio'r cyllid i ddatblygu gweithgareddau sy'n darparu cyfleoedd pellach i swyddogion weld y plentyn a chyfathrebu ag ef. At hynny, dylai Llywodraeth Cymru geisio adolygu templedi adrodd am ddata i: egluro'r disgwyliadau ynghylch yr ystod o ddulliau derbyniol a'r dystiolaeth leiaf sydd ei hangen ym mhob achos, darparu enghreifftiau ymarferol o sut y dylid categoreiddio a chofnodi gwahanol fathau o ymgysylltu (e.e. ymweliad personol, cyfarfod ar-lein, arsylwi mewn gweithgaredd grŵp), ac annog cysondeb o ran y ffordd y caiff y data hyn eu casglu a sut yr adroddir arnynt ledled Cymru. Byddai hyn o gymorth i sicrhau mwy o gysondeb o ran arferion awdurdodau lleol, yn caniatáu cymharu a dadansoddi data yn fwy dibynadwy ac yn sicrhau bod yr hyblygrwydd a gynigir gan y dull presennol yn parhau i gael ei ddefnyddio mewn ffordd dryloyw ac effeithiol.
Argymhelliad 5: cynnal ac egluro'r trefniadau ariannu sy'n cefnogi meithrin capasiti o ran addysg ddewisol yn y cartref ac ymgysylltu â theuluoedd
Nod y cyllid wedi'i dargedu gan Lywodraeth Cymru oedd gwella capasiti awdurdodau lleol yn y maes hwn wrth baratoi i weithredu'r canllawiau newydd. Wrth i'r gwaith o weithredu'r canllawiau statudol barhau, bydd yn bwysig cynnal y capasiti ychwanegol hwn ac osgoi colli arbenigedd neu fomentwm lle bo modd. O fewn cyfyngiadau cylchoedd ariannu blynyddol neu dymor byr, dylai Llywodraeth Cymru:
- barhau i gyfleu ei bwriadau cyllido yn glir ac yn amserol er mwyn bod o gymorth i awdurdodau lleol gyda chynllunio'r gweithlu
- darparu eglurhad wedi'i ddiweddaru ar ddefnydd cymwys ac anghymwys o gyllid addysg ddewisol yn cartref (e.e. staff, hyfforddiant, cyfarpar, gweithgareddau cyfoethogi, ond heb gynnwys cymorth ariannol uniongyrchol i deuluoedd)
- annog awdurdodau lleol i gynllunio ar gyfer cynaliadwyedd swyddogaethau addysg ddewisol yn y cartref o fewn adnoddau craidd dros amser
Argymhelliad 6: annog ymgysylltiad cynnar strwythuredig a rhannu gwybodaeth adeg dadgofrestru
Dylai Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno disgwyliad bod rhieni’n darparu tystiolaeth gychwynnol adeg dadgofrestru. Gallai hyn fod ar ffurf pecyn dadgofrestru byr sy'n cynnwys cynllun addysg amlinellol. Dylid sicrhau bod ffurflen safonol ar gael i gefnogi cysondeb, a gellid treialu'r dull mewn nifer bach o awdurdodau cyn ystyried a ddylai fod yn fandadol. Byddai hyn yn cynorthwyo awdurdodau lleol i frysbennu achosion yn fwy effeithiol, blaenoriaethu cyswllt dilynol, a sicrhau bod ymgysylltu’n dechrau ar sail gwybodaeth glir am y ddarpariaeth arfaethedig.
Argymhelliad 7: rhannu ac ehangu arferion gorau
Nododd awdurdodau lleol a ddefnyddiodd ddigwyddiadau cymunedol a lleoliadau niwtral a'r rhai a ddarparodd neu a ariannodd weithgareddau grŵp anstatudol iddynt gael mwy o lwyddiant o ran cael gweld y plentyn. Byddai rhannu'r arferion gorau hyn yn golygu bod modd ehangu gwelliannau isel eu cost. Dylai swyddogion addysg ddewisol yn y cartref mewn awdurdodau lleol barhau i annog y defnydd o offer ymgysylltu ymarferol ac arferion gorau mewn digwyddiadau allgymorth a chyfoethogi. Gellid datblygu pecyn cymorth ymgysylltu gan gynnwys dulliau y gwyddys eu bod yn llwyddiannus (boreau coffi, gweithdai gwyddoniaeth, sesiynau cymunedol, cysylltiadau ar garreg y drws/cysylltiadau byr) a darparu cronfa fach i awdurdodau lleol sy'n dymuno rhoi cynnig ar ddulliau allgymorth creadigol yn ogystal â'r hyn sydd eisoes yn cael ei ddarparu.
Argymhellion ar gyfer awdurdodau lleol
Argymhelliad 8: cryfhau capasiti addysg ddewisol yn y cartref a chynllunio wrth gefn i gyflawni dyletswyddau statudol
O ystyried y twf parhaus mewn addysg ddewisol yn y cartref ledled Cymru, rhaid i awdurdodau lleol gael digon o gapasiti i gyflawni eu dyletswydd statudol i sicrhau bod pob plentyn o oedran ysgol gorfodol yn cael addysg addas ac effeithlon. Er mwyn cyflawni hyn, dylai awdurdodau lleol:
- gynnal adolygiadau rheolaidd o lefelau staffio a llwyth achosion i sicrhau bod llwythi gwaith yn hylaw ac yn gymesur â'r niferoedd a addysgir yn y cartref, a phennu meincnodau llwyth achosion dangosol (e.e. ni ddylai un swyddog fod yn gyfrifol am fwy na X achos)
- darparu cymorth gweinyddol priodol er mwyn galluogi swyddogion i ganolbwyntio ar ymgysylltu ac asesu
- defnyddio cyllid ychwanegol Llywodraeth Cymru i wella eu capasiti presennol a pharatoi achosion busnes i gynnal rolau hanfodol os bydd cyllid allanol yn dod i ben
- ystyried trawshyfforddi staff addysg ddewisol yn y cartref a staff ADY er mwyn lleihau dibyniaeth ar swyddogion unigol a sicrhau parhad yn ystod absenoldeb neu drosiant staff
Byddai hyn yn helpu i sicrhau y gall awdurdodau lleol barhau i gyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol yn effeithiol, byddai'n darparu cefnogaeth gyson i deuluoedd sy’n addysgu yn y cartref, ac ymateb i'r galw cynyddol mewn ffordd gynaliadwy.
Argymhelliad 9: defnyddio data yn rhagweithiol i adnabod a dadansoddi tueddiadau
Datgelodd yr ymchwil enghreifftiau cadarn o awdurdodau lleol yn trin data am addysg ddewisol yn y cartref fel offeryn gweithredol ar gyfer cynllunio a herio gwasanaethau, yn hytrach na gofyniad adrodd yn unig. Rydym yn argymell y dylai pob awdurdod lleol fabwysiadu'r math hwn o ymarfer yn y dyfodol. Dylai hyn gynnwys dadansoddi data dadgofrestru a llwyth achosion fel mater o drefn yn ôl ysgol, grŵp blwyddyn (gan amlygu Blynyddoedd 10–11), statws ADY, a daearyddiaeth i adnabod tueddiadau a mannau lle ceir problemau. Dylai adroddiadau rheolaidd (yn ddelfrydol bob chwarter) sy'n rhoi mewnwelediadau o addysg ddewisol yn y cartref gael eu bwydo i uwch reolwyr a thimau gwella ysgolion er mwyn defnyddio'r canfyddiadau i dargedu allgymorth, herio ymarfer mewn ysgolion lle bo angen, a chynllunio gwasanaethau.
Argymhelliad 10: cryfhau'r disgwyliadau o ran ymgysylltu'n gynnar a pharhaus â theuluoedd sy'n addysgu yn y cartref a chyfathrebu'n uniongyrchol â'r plentyn
Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod ymgysylltiad cynnar a pharhaus â theuluoedd sy’n addysgu yn y cartref yn amserol, yn gymesur, ac yn canolbwyntio ar y plentyn, yn unol â chanllawiau statudol.
- Adeg dadgofrestru, dylai awdurdodau lleol gwrdd â theuluoedd i drafod y trefniadau addysg arfaethedig ac i ddarparu gwybodaeth glir am gyfrifoldebau rhieni. Dylai'r ymgysylltiad cychwynnol hwn, lle bynnag y bo modd, gynnwys cyfathrebu'n uniongyrchol â'r plentyn i helpu i feithrin dealltwriaeth sylfaenol o'i addysg a'i les.
- Dylai gwaith ymgysylltu parhaus barhau i flaenoriaethu rhyngweithio'n uniongyrchol â'r plentyn, fel arfer drwy gyswllt wyneb yn wyneb neu gyswllt rhithwir byw sy'n cynnwys cyfranogiad gweithredol gan y plentyn. Lle nad yw hyn yn bosibl ar unwaith, dylai awdurdodau lleol osod amserlenni diffiniedig ar gyfer dilyniant, cofnodi'r rhesymau dros ddefnyddio dulliau amgen, a defnyddio lleoliadau niwtral neu grwpiau i hwyluso arsylwi lle y bo'n briodol.
Byddai disgwyliadau clir o'r fath yn cefnogi cysondeb ledled Cymru, yn sicrhau bod yr ymgysylltu'n ystyrlon ac yn canolbwyntio ar y plentyn, ac yn helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau i asesu addasrwydd addysg mewn ffordd gymesur a chefnogol.
Argymhelliad 11: mabwysiadu dull 'goruchwyliaeth gan banel' ar gyfer penderfyniadau cymhleth
Lle nad ydynt yn gwneud hynny ar hyn o bryd, dylai awdurdodau lleol geisio mabwysiadu dull goruchwyliaeth gan banel a'i ddefnyddio i adolygu addasrwydd yn rhagweithiol a phenderfynu a ddylid cychwyn proses gorchymyn mynychu’r ysgol, gan ddileu'r cyfrifoldeb i un swyddog wneud penderfyniadau. Er mwyn gwireddu hyn, dylai ALlau geisio sefydlu a gweithredu panel amlddisgyblaethol. Fan leiaf, dylai'r aelodau gynnwys arweinydd addysg ddewisol yn y cartref, arweinydd ADY, swyddog diogelu, seicolegydd addysg (lle yr amheuir bod gan y plentyn ADY) a chynghorydd cyfreithiol. Dylai fod gan y panel gylch gorchwyl wedi'i ddiffinio'n glir, trothwyon o ran gwneud penderfyniadau, profiad o ddatblygiad plant a monitro cynnydd dysgwyr i gefnogi asesiad o dystiolaeth, a chofnod ysgrifenedig o drafodaethau a chamau gweithredu'r panel. Dylai'r panel gyfarfod yn rheolaidd a gallu ymgynnull ar frys ar gyfer achosion risg uchel.
Argymhelliad 12: dilyn canllawiau gorchymyn mynychu’r ysgol presennol a sicrhau bod materion yn cael eu huwchgyfeirio'n amserol a chyson
Dylai pob awdurdod lleol benderfynu pwy sy'n gyfrifol am ddyroddi gorchymyn mynychu’r ysgol (h.y. y Gwasanaeth Lles Addysg neu'r tîm addysg ddewisol yn y cartref) a sicrhau eu bod yn cadw at y canllawiau statudol ar orchmynion mynychu'r ysgol, gan ddilyn yr amserlenni a'r gweithdrefnau uwchgyfeirio a amlinellir yn y Fframwaith Presenoldeb ar gyfer Cymru Gyfan. Gallai awdurdodau lleol ddefnyddio'r panel amlddisgyblaethol a awgrymir yn Argymhelliad 12 uchod i adolygu a chymeradwyo'r cynigion ynghylch gorchmynion mynychu’r ysgol er mwyn sicrhau cadernid cyfreithiol a chysondeb wrth wneud penderfyniadau.
Argymhelliad 13: mabwysiadu technegau ymarferol, sy'n sensitif i deuluoedd, i gryfhau'r dystiolaeth o ddysgu addas a meithrin perthnasoedd adeiladol â theuluoedd sy'n addysgu yn y cartref
Dylai swyddogion awdurdodau lleol barhau i ddefnyddio tasgau asesu byr yn ystod ymweliadau, a hynny'n rheolaidd, a threfnu arsylwadau mewn lleoliadau niwtral neu mewn grwpiau bach er mwyn gweld y plentyn yn dysgu. Lle bo modd, dylai swyddogion addysg ddewisol yn y cartref ofyn am recordiadau â stamp amser arnynt neu am gadarnhad gan diwtoriaid, arweinwyr grŵp neu drydydd partïon eraill i ddilysu bod y gwaith yn waith a gwblhawyd gan y plentyn. Dylai awdurdodau lleol gynnig mannau cyfarfod niwtral yn rhagweithiol a threfnu digwyddiadau allgymorth mewn partneriaeth â sefydliadau gwirfoddol a chymunedol er mwyn lleihau cyfarfodydd gwrthwynebol ac annog ymgysylltiad parhaus.
Manylion cyswllt
Awduron yr Adroddiad: Heledd Bebb, Nia Bryer a Tanwen Grover, Ymchwil OB3 a Geoff Andrews, Miller Research
Safbwyntiau’r ymchwilwyr yw’r rhai a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid ydynt o reidrwydd yn rhai Llywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r canlynol:
Cangen Ymchwil Ysgolion
Yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: YmchwilYsgolion@llyw.cymru
Rhif ymchwil gymdeithasol: 14/2026
ISBN Digidol: 978-1-83715-924-6
