Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Cymru'n elwa o Lywodraeth Cymru sy’n derbyn cyllid tecach a bod â phwerau cryfach, meddai'r Prif Weinidog Eluned Morgan mewn araith heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth siarad â Sefydliad y Llywodraeth y bore yma, bydd y Prif Weinidog yn galw am gyfran deg o gyllid y DU ar gyfer rheilffyrdd, ymchwil a buddsoddi.

Bydd y Prif Weinidog yn amlinellu blaenoriaethau clir ar gyfer diwygio datganoli, gan gynnwys galw am Ddeddf Diwygio’r Cyfansoddiad i ddiogelu datganoli'n gyfreithiol.

Bydd y Prif Weinidog hefyd yn cynnig proses oruchwylio annibynnol i sicrhau cyllid teg i Gymru a'r gwledydd datganoledig eraill.

Bydd y Prif Weinidog yn ailadrodd bod Llywodraeth Cymru yn ceisio datganoli’r heddlu, rheilffyrdd, cyfiawnder ieuenctid a’r gwasanaeth prawf, ynghyd â throsglwyddo pwerau Ystad y Goron. Bydd hefyd yn galw ar y Canghellor i sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru fynediad llawn at ei chronfeydd wrth gefn yn barhaol.

Mewn dyfyniadau o'i haraith, bydd y Prif Weinidog yn dweud:

“Fel rhan o'n pennod newydd ar ddatganoli, mae’n rhaid i ni sicrhau bod fframweithiau ar draws y DU yn galluogi arloesedd. Rwy'n cynnig bod dyfarnwr annibynnol newydd i sicrhau tegwch ariannol ar draws y cenhedloedd.

“Mae’n rhaid i’r bennod newydd gael ei seilio ar ‘fformiwla cyfran deg’ fel y caiff Cymru ei chyfran deg o adnoddau’r DU yn awtomatig mewn meysydd allweddol fel rheilffyrdd, cyfiawnder ac ymchwil a datblygu. Rwy’n credu y dylai Cymru dderbyn, ar y lleiaf, gyfran Barnett o’r holl gyllid buddsoddi ledled y DU.

“Dyna beth mae’r Llywodraeth Cymru yr wyf fi’n yn ei harwain yn ei wneud a dyna beth mae’r bennod nesaf yn ymwneud ag o.”