Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Yn ôl ffigurau newydd, mae rhestr aros GIG Cymru wedi lleihau ac mae llai o bobl yn wynebu’r arosiadau hiraf am driniaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

O ran y rhestr aros, y lleihad misol diweddaraf sef lleihad o 23,400 rhwng mis Hydref a mis Tachwedd, yw’r lleihad misol mwyaf ar gofnod. Dyma’r chweched mis yn olynol y mae’r rhestr aros wedi lleihau.

Gwnaeth nifer y bobl sy’n aros dros 2 flynedd leihau i ychydig o dan 6,900, i lawr mwy na 90% o’r ffigurau uchaf. Mae data dros dro ar gyfer mis Rhagfyr yn awgrymu lleihad pellach yn y rhestr aros gyffredinol, gyda nifer yr arosiadau 2 flynedd yn lleihau i tua 5,300.

Mae nifer y bobl sy’n aros dros flwyddyn am eu hapwyntiad cleifion allanol cyntaf ar ei isaf ers mis Hydref 2020.

Y rhai sy’n aros mwy na 36 o wythnosau am driniaeth yw’r ffigur isaf ers mis Ebrill 2021.

Yn ogystal â hynny, cafodd ychydig dros 136,600 o lwybrau eu cau ym mis Tachwedd, yr ail ffigur uchaf ar gofnod.

Nid oes gan bob bwrdd iechyd, heblaw am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, unrhyw lwybrau sy’n aros yn hirach na 2 flynedd neu mae ganddynt lai nag 1% o lwybrau sy’n aros yn hirach na 2 flynedd. Ar hyn o bryd, mae gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys lai nag 1% o lwybrau sy’n aros yn hirach na blwyddyn, ac nid oes gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe na Bwrdd Iechyd Addysgu Powys unrhyw lwybr sy’n aros am flwyddyn am apwyntiad cleifion allanol cyntaf.

Ym mis Mehefin 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad gwerth £120 miliwn i helpu i bobl gael eu gweld yn gynt. Mae hyn eisoes wedi sicrhau 127,000 o apwyntiadau ychwanegol. Nod hyn hefyd oedd sicrhau bod 20,000 o lawdriniaethau cataract ychwanegol yn cael eu cyflawni erbyn mis Mawrth 2026. Mae’r nod hwn ar y trywydd iawn i’w gyflawni.

Ym mis Rhagfyr, gwelwyd y cyfanswm amser y mae’n ei gymryd i griwiau ambiwlansys drosglwyddo cleifion i adrannau achosion brys bron yn haneru o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Gwelwyd hefyd leihad o 43% yn nifer yr achosion o dros awr o oedi ar gyfer yr un cyfnod.

Heddiw, bydd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles, yn ymweld ag Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr i weld sut y mae buddsoddi sylweddol wedi gwella theatrau yn yr ysbyty.

Ynghylch yr ystadegau diweddaraf, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd:

Rwy’n falch bod y rhestr aros wedi lleihau a bod nifer yr arosiadau hefyd yn lleihau, dyma beth mae pobl eisiau ei weld.

Ym mis Tachwedd, gwelwyd y lleihad misol mwyaf yn y rhestr aros sydd wedi’i gofnodi erioed, i lawr 23,400 ers mis Hydref. Mae hyn yn dangos bod lefelau wedi gostwng am chwe mis yn olynol.

Mae data dros dro ar gyfer mis Rhagfyr yn dangos bod y rhestr aros a nifer yr arosiadau hiraf wedi lleihau yn sylweddol eto ac mae’n bwysig ein bod yn parhau i weld gwelliannau dros y misoedd nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid sylweddol i helpu i bobl gael eu gweld yn gynt ac mae 127,000 o apwyntiadau ychwanegol eisoes wedi’u cynnal, gan gynnwys ar benwythnosau.

Gwelsom lefelau oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys hefyd yn gostwng yn sylweddol ym mis Rhagfyr o gymharu â’r un mis yn 2024, sy’n golygu bod pobl yn treulio llai o amser mewn ambiwlans cyn cael eu trosglwyddo i adran achosion brys ysbyty.

 Hoffwn ddiolch i staff y Gwasanaeth Iechyd am bopeth maen nhw’n parhau i’w wneud i sicrhau bod pobl yn cael eu gweld cyn gynted â phosib ac yn cael y gofal gorau posib.