Dangosyddion allbynnau tymor-byr: Gorffennaf i Fedi 2025 (canlyniadau pennawd)
Data sy'n dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau marchnad ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r amcangyfrifon hyn yn cwmpasu Gorffennaf i Orffennaf 2025 ac amcangyfrifon blynyddol ar gyfer Hydref 2024 i Fedi 2025.
Gall amcangyfrifon ar gyfer chwarteri unigol amrywio, ac mae amcangyfrifon ar gyfer Cymru yn tueddu i fod yn fwy cyfnewidiol nag ar gyfer y DU, felly argymhellir ystyriaeth o dueddiadau a chymariaethau tymor hwy.
Prif bwyntiau
Gostyngodd Cynhyrchiant ar sail blynyddol a gostyngodd ar sail chwarterol. Gostyngodd Adeiladu yn flynyddol ac yn chwarterol. Cynyddodd Gwasanaethau’r Farchnad yn flynyddol ac yn chwarterol.
Ffigur 1: dangosyddion allbynnau tymor-byr, Gorffennaf 1999 i Fedi 2025
Disgrifiad o Ffigur 1: dengys y siart y gyfres amser ar gyfer mynegai cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau’r farchnad ers 1999. Y tueddiad ar y cyfan yw bod mynegai gwasanaethau’r farchnad a’r mynegai cynhyrchu wedi cynyddu ers 1999, tra bo’r mynegai adeiladu wedi amrywio dros yr un cyfnod amser. Gwelwyd gostyngiad sylweddol ym mhob mynegai yn Chwarter 2 2020 yn sgil pandemig y coronafeirws, ond maent wedi adfer rhywfaint neu’n llwyr ers hynny.
Ffynhonnell: Dangosyddion allbynnau tymor-byr, Llywodraeth Cymru a Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)
Mynegai Gwasanaethau Marchnata
Mae'r duedd tymor-hir yn dangos cynnydd o 1.0% yng Nghymru a chynnydd o 1.6% yn y DU yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2025, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.
Yng Nghymru, gwelwyd cynnydd mewn saith allan o’r naw mynegai diwydiant Gwasanaethau’r Farchnad dros y flwyddyn.
Cynyddodd Mynegai Gwasanaethau’r Farchnad Cymru o 0.2% o'i gymharu â'r chwarter blaenorol. Cynyddodd allbwn y DU o 0.1% dros yr un cyfnod.
Mynegai Cynhyrchu
Mae'r duedd tymor-hir yn dangos cynnydd o 0.4% ar gyfer Cymru a chynydd o 0.1% ar gyfer y DU yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2025, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.
Mae Mynegai Cynhyrchu Cymru yn dangos gostyngiad o 0.6% o'i gymharu â'r chwarter blaenorol. Gostyngodd allbwn y DU gan 0.3% dros yr un cyfnod.
Mynegai Adeiladu
Mae'r duedd tymor-hir yn dangos gostyngiad o 8.4% ar gyfer Cymru a chynnydd o 1.5% ar gyfer y DU yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2025, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.
Mae Mynegai Adeiladu Cymru yn dangos cynnydd o 3.0% wrth gymharu'r chwarter diweddaraf â'r chwarter blaenorol. Cynyddodd allbwn y DU o 0.2% dros yr un cyfnod.
Dyfodol y cyhoeddiad hwn
Ym mis Mai 2023 gwnaethom rannu ein cynlluniau i roi'r gorau i gyhoeddi'r datganiad hwn gan fod y SYG yn cyhoeddi data cynnyrch mewnwladol crynswth chwarterol (GDP) ar gyfer Cymru a rhanbarthau Lloegr. Fodd bynnag, ym mis Gorffennaf 2023, cyhoeddodd y SYG eu bod wedi oedi eu cyhoeddiad GDP rhanbarthol chwarterol. Cyhoeddwyd adolygiad dulliau o'r data GDP rhanbarthol chwarterol gan y Ganolfan Ragoriaeth Ystadegau Economaidd ym mis Mawrth 2025, gyda’r SYG yn cadarnhau eu bod yn gweithio tuag at adfer y cyhoeddiad yn eu post blog cysylltiedig. O ganlyniad, ac ar hyn o bryd, byddwn yn parhau i gyhoeddi‘r dangosyddion allbynnau tymor-byr. Byddwn yn parhau i roi gwybod i ddefnyddwyr am ein cynlluniau.

