Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwerthu uned parc busnes yn Ynys Môn i fusnes adeiladu llwyddiannus, sy'n bwriadu sefydlu prif swyddfeydd newydd ar y safle a dilyn cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ehangu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae OBR Construction wedi prynu'r uned ym Mharc Busnes Bryn Cefni, yn Llangefni, mewn cam a fydd yn helpu i ddiogelu swyddi 85 o staff presennol a chreu deg swydd newydd, gan gynnwys pum prentis.

Mae OBR Construction yn gwmni adeiladu a pheirianneg sifil sefydledig gydag amrediad eang o gleientiaid, o awdurdodau lleol i'r sector masnachol a diwydiannol, a'r diwydiannau niwclear a gwastraff. Mae ganddyn nhw drosiant blynyddol gwerth mwy na £20 miliwn.

Yn rhan o'i gynlluniau i ehangu mae'n bwriadu tyfu fel contractwr rhanbarthol sefydledig a chyflenwr allweddol i'r sector datgomisiynu niwclear.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

Mae creu'r amodau cywir i gefnogi busnesau i dyfu’n rhan hanfodol o weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer economi wyrddach, decach a ffyniannus i Gymru gyfan.

Bydd gwerthu'r uned hon yn helpu cwmni llwyddiannus i dyfu, gan ddiogelu swyddi presennol a chreu swyddi newydd, gyda phrif swyddfeydd newydd er mwyn ei helpu i ehangu ymhellach.

Dywedodd Rhys Parry Jones, Cyfarwyddwr OBR Construction: 

Rydyn ni'n falch iawn ein bod wedi prynu'r  uned fusnes yn Llangefni, a fydd yn ein helpu i wireddu ein huchelgais i ehangu. Mae'r garreg filltir hon yn gam arwyddocaol wrth ddiogelu dyfodol ein sefydliad a chefnogi ein cynlluniau ar gyfer twf a datblygu parhaus.

Bydd prynu'r uned hon yn sicrhau 85 o swyddi presennol ac yn creu hyd at ddeg swydd newydd, gan gynnwys pum prentis dros y 18 mis nesaf. Bydd yr adeilad newydd hefyd yn ein rhoi mewn sefyllfa gref i fanteisio ar y nifer cynyddol o gyfleoedd yn Ynys Môn a Gogledd Cymru.

Bydd symud i safle sydd eisoes yn bodoli yn agos at ein lleoliad presennol ym Mharc Busnes Bryn Cefni yn sicrhau y bydd y broses o symud yn ddidrafferth, wrth roi cyfle inni addasu a gwella'r cyfleusterau yn unol â'n hymrwymiad i gyflawni Sero Net erbyn 2050. Rydyn ni'n llawn cyffro ynghylch y bennod nesaf hon ac edrychwn ymlaen at fod wedi llawn ymgartrefu yn ein hadeilad newydd erbyn diwedd 2026.