Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £98.75 miliwn i wella effeithlonrwydd ynni miloedd o gartrefi cymdeithasol ledled Cymru eleni.
Heddiw, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant, wedi cyhoeddi cyllid ar gyfer rownd nesaf y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP), sy'n golygu bod cyfanswm o dros £466 miliwn wedi'i fuddsoddi yn y rhaglen ers 2020.
Mae'r rhaglen yn ariannu gwelliannau sy'n cynnwys inswleiddio, systemau gwresogi effeithlon a gosodiadau ynni adnewyddadwy mewn tai cymdeithasol. Hyd yma, mae'r rhaglen wedi ariannu mwy na 31,000 o weithgareddau uwchraddio effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi cymdeithasol ledled Cymru, gan gynnwys inswleiddio, paneli solar a phympiau gwres.
Gwnaed y cyhoeddiad yn ystod ymweliad â Chanolfan Datgarboneiddio Tŷ Gwyrddfai yng Ngogledd Cymru, lle cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet â phrentisiaid sy'n hyfforddi ar gyfer gyrfaoedd yn y sector datgarboneiddio tai.
Aeth hefyd ar daith gerllaw Trem yr Wyddfa, lle mae 51 o eiddo yn derbyn gwelliannau effeithlonrwydd ynni gan gynnwys inswleiddio waliau allanol, ffenestri a drysau newydd, a systemau monitro amgylcheddol. Mae'r prosiect wedi derbyn £579,000 gan y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio, gyda'r gymdeithas tai Adra yn cyfrannu £1.5 miliwn arall.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
Mae'r Llywodraeth hon yn benderfynol o sicrhau bod ein sector tai cymdeithasol yn cynnig cartrefi diogel, cyfforddus, iach a charbon isel i'w thenantiaid.
Bydd y buddsoddiad diweddaraf hwn yn galluogi landlordiaid cymdeithasol i barhau i wneud gwelliannau hanfodol i gartrefi ledled Cymru, gan leihau biliau cartrefi a hefyd leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Roedd yn wych cwrdd â dau o'r preswylwyr a chlywed pa wahaniaeth mae'r gwaith hwn wedi'i wneud i'w cartrefi.
Mae'r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn gwneud mwy na gwella ansawdd tai a lleihau ein hôl troed carbon - mae'n creu cyfleoedd swyddi lleol, yn cryfhau cadwyni cyflenwi carbon isel, ac yn adeiladu'r sgiliau sydd eu hangen arnom ar gyfer yr economi werdd.
Trwy gwrdd â'r prentisiaid yn Nhŷ Gwyrddfai heddiw gwelais y cyfleoedd gyrfa gwirioneddol y mae'r sector hwn yn eu cynnig i gymunedau ledled Gogledd Cymru. Roedd fy Nhad yn blastrwr a theilsiwr felly mae gen i barch mawr at y sgiliau sydd eu hangen, sydd mewn galw mawr. Mae'r rhain yn swyddi da yn agos at adref ac maen nhw'n gwneud gwahaniaeth.
Dywedodd Iwan Trefor Jones, Prif Weithredwr Adra:
Rydym yn croesawu'r ymrwymiad parhaus i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi cymdeithasol ledled Cymru.
Mae ein tenantiaid yn dweud wrthym eu bod eisiau cartrefi sy'n gyfforddus, yn ddiogel ac yn fforddiadwy i'w gwresogi. Mae buddsoddiad fel hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ansawdd bywydau pobl trwy leihau tlodi tanwydd a lleihau biliau ynni.
Trwy ein hwb datgarboneiddio yn Nhŷ Gwyrddfai, rydym hefyd yn adeiladu'r gweithlu medrus sydd ei angen i gyflawni'r gwelliannau hyn am flynyddoedd i ddod.
Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yn ein cartrefi a'r bobl sy'n byw ynddynt.
