"Gadewch i ni fwrw yn ein blaenau â'r gwaith hwn gyda'n gilydd er lles ein hafonydd, ein cymunedau a'n dyfodol" – Y Dirprwy Brif Weinidog
Bydd teuluoedd, bywyd gwyllt a chymunedau gwledig ledled Cymru yn elwa ar afonydd glanach yn dilyn Uwchgynhadledd Ddŵr dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies, a gadarnhaodd fod gwaith yn mynd rhagddo i wella ansawdd dŵr.
Daeth y llywodraeth, rheoleiddwyr, y diwydiant, sefydliadau amgylcheddol ac undebau ffermio ynghyd ar gyfer yr Uwchgynhadledd, a gynhaliwyd yng Nghastell Hensol ar 22 Ionawr, i hyrwyddo cydweithio i adfer cyrff dŵr Cymru.
Wrth siarad yn yr Uwchgynhadledd, a oedd yn canolbwyntio ar amaethyddiaeth, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog:
"Mae dŵr yn hanfodol i fywyd Cymru, ein cymunedau, ein ffermydd, ein bywyd gwyllt, ein hymdeimlad o le - ac fel y gwyddom i gyd, mae o dan bwysau.
"Mae'r heriau rydyn ni'n eu hwynebu yn gymhleth, yn gyd-gysylltiedig ac yn rhai hen. Ond mae'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y llywodraeth, rheoleiddwyr, diwydiant, cyrff anllywodraethol ac undebau ffermio yn rhoi hyder i mi ein bod yn symud yn ein blaenau gyda phwrpas ac mewn partneriaeth."
Mae Llywodraeth Cymru yn newid y rheolau ar lygredd amaethyddol yn dilyn adolygiad annibynnol. Mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi'i sefydlu ac mae'n gweithio trwy'r argymhellion fesul cam. Bydd y newidiadau yn gwneud y rheolau yn gliriach ac yn fwy cymesur ac yn canolbwyntio ar weithgareddau sy’n creu’r risg fwyaf.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru trwy gydweithredu â ffermwyr, mae cyfraddau cydymffurfio wedi codi o 37 y cant i 47 y cant.
Mae'r gyllideb orfodi 2025-26 wedi cynyddu i £1.58 miliwn, fel rhan o ymrwymiad cyfan o £4.13 miliwn.
Mae ffermwyr am fuddsoddi mewn systemau mwy cynaliadwy. Mae rheoli maethynnau a gwella storfeydd slyri yn allweddol i ffermydd allu gwasgaru maethynnau pan fydd y cnwd eu hangen ac osgoi achosi llygredd.
Mae'r galw mawr am gymorth ar gyfer rheoli maethynnau yn parhau ac mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo £69m i reoli maethynnau a gwella storfeydd slyri - gyda mwy na 540 wedi mynegi diddordeb yn y ffenestr ymgeisio ddiweddaraf.
Mae gwaith ar y gweill hefyd trwy'r Grŵp Masnachu Maethynnau i ystyried a datblygu platfform masnachu maethynnau. Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n datblygu atebion sy'n seiliedig ar y farchnad, gan gynnwys masnachu maethynnau, sydd â'r potensial i drawsnewid dalgylchoedd afonydd, ac yn gyfle i ffermwyr a pherchenogion tir arloesi.
Daeth dau gynllun newydd i glawr yn sgil y trafod yn yr Uwchgynhadledd i helpu'r sector amaethyddiaeth i wella ansawdd dŵr pan gyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog gyllid newydd i helpu ffermwyr i ddatrys heriau ansawdd dŵr.
Bydd y Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig (INRS) yn agor ffenestr ymgeisio newydd yn ddiweddarach eleni, gan dargedu'n benodol prosiectau sy'n gwella ansawdd dŵr. Mae'r cynllun yn cefnogi atebion sy'n seiliedig ar natur ar raddfa tirwedd fel rhan o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Bydd rhagor o fanylion yn dilyn cyn diwedd mis Mawrth.
Hefyd, ac ar ôl ei ystyried gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol (CoAP), cafodd yr Uwchgynhadledd gyfle i ystyried potensial prosiectau peilot ar lefel fferm i helpu i roi argymhellion yr adolygiad o Reoliadau CoAP ar waith. Bydd y trafodaethau nawr yn cael eu bwydo'n ôl i'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen.
Meddai'r Dirprwy Brif Weinidog:
"Mae ein huchelgais yn glir: afonydd iachach, sector ffermio cynaliadwy a phroffidiol, cymunedau gwledig ffyniannus, system reoleiddio deg, cymesur a gorfodadwy, a chyfleoedd economaidd newydd mewn marchnadoedd buddsoddi ac amgylcheddol sy'n seiliedig ar natur.
"Mae hwn yn uchelgais ar y cyd. Nid un sector ar ei ben ei hun sydd wedi creu'r broblem, ac nid dim ond un sector all ei datrys. Ond gyda'n gilydd, gyda'r dystiolaeth gywir, y buddsoddiad cywir, y cymhellion cywir a'r rheoleiddio cywir, gallwn adfer cyrff dŵr Cymru i fod yn systemau iach, byw y mae ein cymunedau, ein bywyd gwyllt a'n heconomi yn eu haeddu."
Fis nesaf bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn cyhoeddi Papur Gwyrdd, y cam cyntaf i lunio dyfodol llywodraethu dŵr yng Nghymru.
