Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n lansio ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos ar gynigion i ddiweddaru ein Cynlluniau Ffioedd a Thaliadau Awdurdodau Lleol, a wnaed o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.

Mae'r cynlluniau hyn yn galluogi Awdurdodau Lleol yng Nghymru i adennill y costau sy'n gysylltiedig â rheoleiddio gweithgareddau diwydiannol penodol sydd â'r potensial i effeithio ar yr amgylchedd ac iechyd y cyhoedd. Mae gweithgareddau o'r fath yn cynnwys sychlanhau, ail-chwistrellu cerbydau, llosgi gwastraff ar raddfa fach ac ati. 

Gwnaed y cynlluniau presennol yn 2016 ac nid ydynt wedi'u diweddaru ers hynny.

Bydd y newidiadau arfaethedig yn defnyddio cynnydd chwyddiant o 44.29% i ffioedd a thaliadau presennol, gan adlewyrchu chwyddiant cronnus ers 2016. 

Bydd y cynnydd yn helpu i sicrhau y gall Awdurdodau Lleol barhau i ddarparu eu gwasanaethau hanfodol a'u swyddogaethau rheoleiddio cysylltiedig yn effeithiol. Mae'r rhain yn cynnwys penderfynu ar geisiadau am drwyddedau, cynnal archwiliadau arferol ac ataliol ac ymgymryd â gorfodi rhagweithiol. Mae'r gwaith hwn yn helpu i sicrhau bod busnesau'n cydymffurfio â safonau amgylcheddol yn unol â gofynion deddfwriaethol. Mae hyn hefyd yn cydymffurfio â'r egwyddor llygrydd yn talu sy'n nodi bod costau llygredd yn cael eu talu gan y rhai sy'n ei achosi, yn hytrach na'r gymuned ehangach.

Yn ogystal â cheisio barn ar y cynnydd arfaethedig, mae'r ymgynghoriad hefyd yn gwahodd adborth ar yr angen am adolygiad mwy cynhwysfawr o'r cynlluniau yn y dyfodol. Byddai'r adolygiad pellach hwn yn archwilio strwythur a gweithrediad y cynlluniau i helpu i nodi a ellid gweithredu gwelliannau i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gymesur ac yn addas i'r diben.

Bydd ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn llywio penderfyniad terfynol Llywodraeth Cymru ynghylch a ddylid gweithredu'r cynlluniau wedi'u diweddaru, y bwriedir iddynt ddod i rym ym mlwyddyn ariannol 2026–27.

Mae dogfennau ymgynghori a manylion ynghylch sut i ymateb ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru ar