Mae gan drigolion Ystradgynlais fynediad at wasanaethau bancio wyneb-yn-wyneb ar eu stryd fawr unwaith eto wedi i ganolfan fancio a rennir newydd agor yn y dref
Croesawodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg yr agoriad, gan ymweld â'r hwb yr wythnos hon i gwrdd â staff a phobl leol sydd eisoes yn elwa o'r cyfleuster newydd.
Mae'r hwb wedi agor mewn adeilad a oedd wedi bod yn wag ers i'r banc lleol diwethaf gau ym mis Medi 2023. Mae’n cynnig mynediad at gownter wedi'i staffio, a gaiff ei redeg gan staff Swyddfa'r Post, i dalu arian parod i mewn a’i dynnu allan, talu sieciau i mewn a delio â thrafodion dydd-i-ddydd. Gall cwsmeriaid hefyd drefnu apwyntiad gydag arbenigwyr o'u banc eu hunain er mwyn cael cymorth gydag anghenion bancio mwy cymhleth.
Adnabu LINK, y sefydliad sy'n gyfrifol am asesu cymunedau ar gyfer canolfannau bancio, Ystradgynlais fel lleoliad addas yn dilyn ymgyrch leol. Mae gan y dref nifer uchel o fanwerthwyr sy'n dibynnu ar arian parod yn ddyddiol, ynghyd â nifer sylweddol o drigolion hŷn a phobl nad ydynt yn defnyddio gwasanaethau bancio digidol.
Dywedodd gweithredwr Hwb Bancio Ystradgynlais, Manjit Sanghera:
"Yr hyn sy'n fy ngwneud i’n hapus yw gweld y llawenydd ar wyneb cymaint o gwsmeriaid lleol wrth iddyn nhw gerdded i mewn i'r gangen hon am y tro cyntaf. Sylweddolais yn gyflym pa mor falch yw ein cwsmeriaid o gael eu gwasanaethau bancio yn ôl yng nghanol eu tref leol."
Mae tua phum miliwn o bobl ledled y DU yn dal i ddibynnu ar arian parod bob dydd, gyda llawer yn teimlo'n fwy hyderus yn rheoli eu harian wyneb-yn-wyneb. Mae canolfannau bancio yn cefnogi'r cwsmeriaid hyn tra’n helpu i gynnal y stryd fawr a busnesau bach.
Erbyn hyn mae deuddeg canolfan bancio a rennir ar agor ledled Cymru, gyda thri arall yn cael eu datblygu. Mae'r rhain yn ategu’r gwasanaethau a mentrau Swyddfa'r Post sy’n cael eu cynnal gan LINK gyda pheiriannau twll yn y wal am ddim a gan gymdeithasau adeiladu yng Nghymru, gan gynnwys ymrwymiadau i gadw canghennau wyneb-yn-wyneb. Er mai menter gan Lywodraeth y DU yw Canolfannau Bancio a Rennir, gydag ymrwymiad i sefydlu 350 ohonynt yn ystod y tymor Senedd San Steffan yma , mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynhwysiant ariannol drwy gefnogi undebau credyd a hwyluso cydweithredu ar draws y sector bancio.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:
"Mae pawb yn poeni am gostau byw ac angen mynediad at gymorth a chyngor ariannol. Mae cyfleusterau fel hyn yn hanfodol yn ein cymunedau. Nid cymdeithas heb arian parod mohonom, ac mae cael mynediad at wasanaethau wyneb-yn-wyneb yn hanfodol ar gyfer iechyd, lles a diogelwch ariannol pobl."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford:
"Mae'r hwb newydd yn Ystradgynlais yn dangos sut gallwn ni ddod â gwasanaethau hanfodol yn ôl i galon ein trefi. Pan fydd cymunedau yn colli eu banciau, mae'n effeithio ar fusnesau lleol a thrigolion fel ei gilydd. Mae canolfannau bancio a rennir yn helpu llefydd fel Ystradgynlais i ffynnu, ac rydyn ni’n croesawu'r ymrwymiad i ehangu'r rhwydwaith hwn ledled Cymru."
