Mae'r Baromedr yn asesu hyder busnesau yn niwydiant twristiaeth Cymru ac yn darparu canlyniadau dangosol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a sectoraidd.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Baromedr Twristiaeth
Casgliadau arweiniol
Perfformiad cymysg 2025 yn ôl sector
Ar y cyfan, roedd 40% o fusnesau twristiaeth wedi cael mwy o gwsmeriaid yn 2025 o’i gymharu â 2024, roedd 32% wedi cael yr un lefel ac roedd 28% wedi cael llai.
Serch hynny, roedd perfformiad yn amrywio’n fawr o un sector i’r llall. O blith busnesau nad oeddent yn cynnig llety (atyniadau, darparwyr gweithgareddau, bwytai, tafarndai a chaffis), roedd 50% wedi cael mwy o gwsmeriaid, roedd 26% wedi cael yr un lefel a dim ond 24% oedd wedi cael llai. Fodd bynnag, mae’r darlun yn fwy cymysg o lawer ymhlith busnesau sy'n cynnig llety, gyda 34% o fusnesau wedi cael mwy o gwsmeriaid, 35% wedi cael yr un faint ond 31% wedi cael llai.
Roedd busnesau De Cymru wedi perfformio’n well na Gogledd Cymru (43% wedi gwneud cynnydd o’i gymharu â 34%).
Roedd y tywydd llawer gwell na’r hyn a gafwyd yr haf blaenorol wedi helpu llawer o fusnesau
Haf 2025 (Mehefin i Awst) oedd yr haf cynhesaf ar gofnod yn y Deyrnas Unedig yn ôl y Met Office, gyda mwy o haul a llai o law na’r cyfartaledd. Mae oddeutu un o bob tri busnes (34%) oedd wedi cael mwy o gwsmeriaid yn 2025 yn priodoli hynny heb gymhelliant i’r tywydd, a oedd yn anffafriol yn 2024.
Ond mae’r hinsawdd economaidd yn dal i lesteirio galw
Mae tua un rhan o dair (34%) o fusnesau a oedd wedi cael llai o gwsmeriaid yn priodoli hynny’n ddigymell i ‘bobl yn brin o incwm gwario’, ac mae 19% yn priodoli’r gostyngiad i ‘ansicrwydd economaidd byd-eang’.
Defnydd o asiantau teithio ar-lein a chyfleusterau archebu uniongyrchol
Mae’r rhan fwyaf o fusnesau llety (80%) yn defnyddio asiantau teithio ar-lein. O blith y rheini sydd yn eu defnyddio, mae’r rhan fwyaf (81%) yn dweud eu bod hwythau hefyd yn gallu derbyn archebion uniongyrchol byw yn y fan a’r lle ar eu gwefan eu hunain.
Blith y rheini sy'n defnyddio asiantau teithio ar-lein ond heb gyfleuster archebu uniongyrchol, roedd gan rai (19%) ddiddordeb mewn cael cymorth i sefydlu un, ond roedd y rhan fwyaf yn hapus i ddal ati i wneud busnes fel ag yr oedden nhw.
Roedd dwy ran o dair (67%) o fusnesau a oedd yn defnyddio asiantau teithio ar-lein weithiau'n ceisio annog gwesteion i archebu'n uniongyrchol gyda nhw. Y dull mwyaf cyffredin o bell ffordd o wneud hyn oedd cynnig pris gostyngol (74% o’r ymatebwyr).
Hyder i redeg busnes yn broffidiol
Mae oddeutu traean o fusnesau (32%) yn teimlo'n ‘hyderus iawn’ ynghylch rhedeg y busnes yn broffidiol eleni, ac mae 33% arall yn dweud eu bod yn teimlo’n ‘weddol hyderus’. Mae gobeithion am haf arall o dywydd da.
