Neidio i'r prif gynnwy

Cynghorir modurwyr i gynllunio ymlaen llaw cyn iddynt deithio ar yr A55 rhwng cyffordd 34 (Ewlo) a chyffordd 35 (Dobshill tua'r dwyrain) gan fod cynnal a chadw hanfodol ar y ffyrdd yn am bedair wythnos o 22 Chwefror ymlaen.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynghorir modurwyr i gynllunio ymlaen llaw cyn iddynt deithio ar yr A55 rhwng cyffordd 34 (Ewlo) a chyffordd 35 (Dobshill tua'r dwyrain) gan fod cynnal a chadw  hanfodol ar y ffyrdd yn am bedair wythnos o 22 Chwefror ymlaen.

Bydd un gerbytffordd ar gau yn ystod yr wythnos (06:00 – 20:00) gyda'r ffordd ar gau yn llwyr dros nos ar ddyddiau'r wythnos (20:00 – 06:00) a phenwythnosau (dydd Gwener 20:00 – dydd Llun 6:00) ar y gerbytffordd tua'r dwyrain.

Bydd arwyddion ymlaen llaw ar bob ffordd ar gau gyda'r traffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd yr A494, yr A5117 a'r A41 i ailymuno â'r A55 wrth Gyffordd 39.

Bydd y gwaith hwn yn cynnwys tynnu'r wyneb wedi gwisgo, atgyweirio'r slabiau concrit dan y ffordd, ailosod draeniau a thyllau archwilio a gosod wynebu newydd ar y ffordd.

Meddai Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru:

Mae cynnal a chadw ein ffyrdd yn hanfodol i gadw Cymru i symud, ac mae'r A55 yn ffordd hanfodol i gymunedau a busnesau ledled y rhanbarth.

"Rwy'n deall bod gwaith ar y ffordd yn gallu bod yn rhwystredig, ac rwyf am ddiolch i yrwyr ymlaen llaw am eu hamynedd tra bod y gwaith pwysig hwn yn digwydd. Bydd y gwelliannau rydyn ni'n eu gwneud yn helpu i ymestyn oes y ffordd hon am flynyddoedd i ddod.

"Mae'r buddsoddiad hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gynnal seilwaith Cymru; gyda phob punt rydyn ni'n ei wario yn helpu i amddiffyn defnyddwyr y ffyrdd, lleihau difrod i gerbydau, a chefnogi'r economi leol.

Mae'r gwelliannau yn rhan o fuddsoddiad ychwanegol o £25m gan Lywodraeth Cymru i drwsio ac atal tyllau ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol ar y prif ffyrdd hynny sydd angen eu hatgyweirio fwyaf.