Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bob blwyddyn, ar 27 Ionawr, rydym yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost - cyfle i gofio a myfyrio ar erchyllterau'r Holocost a phob achos o hil-laddiad wedi hynny, er mwyn talu gwrogaeth at gryfder a gwytnwch goroeswyr a'u teuluoedd, ac, yn anad dim, i sicrhau nad ydym yn ailadrodd hanes y gorffennol. 

Rydym yn cofio'r chwe miliwn o Iddewon a lofruddiwyd yn yr Holocost, pobl a lofruddiwyd oherwydd eu bod yn hoyw, yn anabl, yn Roma neu'n Sinti, neu yn rhan o undebau llafur. Rydym hefyd yn cofio'r bobl o bob cenedl ar draws Ewrop a gafodd eu herlid gan y gyfundrefn Natsïaidd.  Mae Diwrnod Cofio'r Holocost hefyd yn cofio'r miliynau o bobl a lofruddiwyd mewn achosion o hil-laddiad yn y blynyddoedd diweddar, - Cambodia, Rwanda, Bosnia, Darfur - a dioddefaint yr Yazidi. 

Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn ein hatgoffa bod hil-laddiad yn ben eithaf eithafiaeth i ymddygiad ac agweddau sy'n dechrau fel bywyd fel casineb a choli golwg ar werth pobl. Os bydd grwpiau yn ein cymdeithas yn cael eu beio, eu trin fel israddol, ac yna eu targedu, rydym yn prysur osod y sylfeini ar gyfer erchyllterau o'r math a welwyd yn yr Holocost. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld ymosodiadau erchyll ar ein cymunedau crefyddol a chasineb geiriol tuag at y rhai o leiafrifoedd ethnig neu bobl a gafodd eu geni y tu allan i'r Deyrnas Unedig. 

Rydym yn parhau i sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â'n cymunedau Iddewig a Mwslimaidd yng Nghymru ac yn cydweithio â chynrychiolwyr cymunedau Iddewig, yr Ymddiriedolaeth Diogelwch Cymunedol (CST), Cyngor Mwslimaidd Cymru a rhanddeiliaid pwysig eraill. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Canolfan Cymorth Casineb Cymru, sy'n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, i ddarparu cymorth wedi'i deilwra, rhad ac am ddim i unrhyw ddioddefwr troseddau casineb yng Nghymru. Ein Bwrdd Casineb a Thensiynau Cymunedol yw'r fforwm sy'n dwyn ynghyd partneriaid allweddol ochr yn ochr â'r pedwar heddlu yng Nghymru er mwyn ein  helpu i sicrhau bod casineb yn cael y blaenoriaeth y mae'n ei haeddu.

Mae'r gwaith hwn yn cael ei gryfhau gan ein Rhaglen Cydlyniant Cymunedol, sy'n dod â phartneriaid at ei gilydd i hyrwyddo dealltwriaeth, lleihau tensiynau, a chefnogi cymunedau cydlynol a gwydn ledled Cymru.

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi adnewyddu cyllid ar gyfer gweithiwr cymorth pwrpasol Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost i Gymru am y tair blynedd nesaf, gan helpu cymunedau a sefydliadau i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost.

Mae'r thema eleni, "Pontio Cenedlaethau", yn ein hatgoffa bod yn rhaid i ni gofio gysylltu'r gorffennol â'r dyfodol, fel pont. Rhaid i ni sicrhau bod gwersi hanes yn parhau i fod yn fyw ac yn berthnasol. Mae pob cenhedlaeth yn rhannu'r cyfrifoldeb o gau'r drws yn dynn ar gasineb a hil-laddiad, fel rhywbeth sy'n perthyn i'r oes o'r blaen. Rhaid i ni barhau i anrhydeddu dewrder goroeswyr trwy sicrhau bod eu tystiolaeth yn ein hysbrydoli i adeiladu cymunedau sy'n sefyll yn erbyn rhagfarn. Wrth i amser fynd heibio, mae hyn yn dod yn bwysicach fel nad ydym yn gorffwys ar ein rhwyfau fel cymdeithas.

Am 8:00pm gofynnwn i aelwydydd ledled Cymru oleuo'r tywyllwch — o brif adeiladau ein prifddinas, gan gynnwys adeilad Llywodraeth Cymru, y Senedd, a Chastell Caerdydd, trwy gymunedau ein cymoedd ac adeiladau fel y Swyddfa Gyffredinol yng Nglynebwy, ar hyd arfordir y gorllewin i'r Bandstand a Chanolfan Alun R Edwards yn Aberystwyth, a swyddfeydd y cyngor ledled Gogledd Cymru. Gyda'i gilydd, bydd y goleuadau hyn yn ein helpu i greu pont symbolaidd sy'n cysylltu ein cymunedau â'r gorffennol rydyn ni'n ei goffáu, i greu dyfodol sy'n rhydd o gasineb. 

Rydym yn benderfynol o fuddsoddi mewn mentrau i atal casineb, herio rhagfarn, ac adeiladu Cymru lle mae pawb yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu. Rydym yn annog pawb yng Nghymru i wrando ar dystiolaeth goroeswyr, cynnau cannwyll heno, a rhannu negeseuon i gofio. Dewiswch beidio â rhannu negeseuon ar-lein sy'n beio grwpiau penodol am heriau cymdeithas. Atgoffwch eich gilydd beth mae 'Byth Eto' yn ei olygu mewn gwirionedd a chael sgwrs am hyn gyda rhywun o genhedlaeth arall.

Gadewch i ni ddod at ein gilydd ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost eleni i sicrhau nad yw cyfnod du erchyllterau'r Holocost a'r gwersi sydd i'w dysgu, fyth yn mynd yn angof.