Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Phapur Gwyn ar ddiwygio plismona yng Nghymru a Lloegr, o'r enw "From local to national: a new model for policing".
Ymhlith rhai o brif elfennau'r Papur Gwyn mae:
- uchelgais i leihau nifer yr heddluoedd yn sylweddol, sydd i'w datblygu ar ôl adolygiad annibynnol, gyda lluoedd i uno yn ystod Senedd bresennol a Senedd nesaf y DU;
- Ardaloedd Plismona Lleol i'w sefydlu ar gyfer pob tref, dinas neu fwrdeistref;
- rhagor o bwerau i'r Ysgrifennydd Cartref, er enghraifft o ran ymyrryd mewn lluoedd yr ystyrir eu bod yn methu;
- darpariaeth ar gyfer sefydlu blaenoriaethau plismona strategol cenedlaethol, a fydd yn eu tro yn arwain at dargedau a gynhyrchir ac a gyhoeddir yn ganolog, a mecanweithiau diwygiedig ar gyfer monitro ac arolygu perfformiad;
- sefydlu Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol newydd sy'n uno galluoedd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, Plismona Gwrthderfysgaeth ac Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol o dan un sefydliad;
- penodi Comisiynydd Heddlu Cenedlaethol i arwain y gwasanaeth newydd, fel y swyddog heddlu uchaf yng Nghymru a Lloegr;
- cynigion ar gyfer rhagor o ddefnydd o AI, mwy o broffesiynoldeb ym maes plismona yn y gymuned, a chyfeirio mwy o adnoddau tuag at atal troseddu lleol ac ymateb i hynny.
Mae'r Papur Gwyn hefyd yn darparu rhagor o fanylion ynghylch cynlluniau a gyhoeddwyd yn flaenorol i ddiddymu rôl Comisiynwyr Heddlu a Throseddu. Atebais gwestiwn amserol ar hyn yn y Senedd ar 19 Tachwedd 2025, gan wneud sylwadau pellach yn ystod cwestiwn amserol ar 17 Rhagfyr 2025 ynglŷn ag uno heddluoedd.
Rwy'n ddiolchgar i'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu presennol a chyn-Gomisiynwyr Cymru a'u staff am eu gwaith o ran dwyn ein heddluoedd i gyfrif, llunio blaenoriaethau lleol a chynrychioli lleisiau ein cymunedau. Mae ein Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn dal i fod wedi ymrwymo i'r gwaith pwysig hwn drwy gydol y cyfnod pontio.
Ers y cyhoeddiad hwnnw, mae trafodaeth sylweddol ac adeiladol wedi'i chael rhwng y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill yng Nghymru i ddatblygu opsiynau ar gyfer disodli'r Comisiynwyr. Fel rhan o'r ymgysylltu hwn, rwyf wedi cael sgyrsiau pellach gyda'r Gweinidog Plismona, a mynychodd Fwrdd Partneriaeth Plismona Cymru ym mis Rhagfyr 2025. Fy nod yw bod Llywodraeth bresennol Cymru yn cytuno i ddull llywodraethu i'r dyfodol gyda'r Swyddfa Gartref yn ystod y Senedd hon. Bydd angen i ddull gweithredu o'r fath adeiladu ar yr hyn sy'n gweithio'n dda ar hyn o bryd a chryfhau'r setliad datganoli. Mae cyfle clir i wneud y ddau beth. Nod tymor hwy Llywodraeth Cymru yw datganoli plismona yng Nghymru fel yr argymhellir gan Gomisiwn Thomas a'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
Bydd angen inni yn awr astudio manylion y Papur Gwyn ac ystyried ei oblygiadau i Gymru. Mae'n dda gweld agwedd adeiladol y Swyddfa Gartref wrth ymwneud â thirwedd unigryw Cymru, a gydnabyddir yn y papur.
Mae cynigion y Papur Gwyn yn rhai sylweddol, pellgyrhaeddol ac mae angen eu hystyried yn fanwl. Rwy'n cydnabod, er enghraifft, y gallai canoli rhai swyddogaethau gweithredol arwain at fanteision. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod y mecanweithiau ar gyfer cyflawni hyn yn sicrhau bod yr arian a godir yng Nghymru yn cael ei gadw yng Nghymru. Yn yr un modd, mae'n bosibl y bydd gwerth mewn cyflwyno targedau sy'n cael eu llunio yn ganolog a newidiadau i oruchwylio perfformiad heddluoedd, ond bydd yn hanfodol bod unrhyw dargedau a threfniadau goruchwylio sy'n gymwys i Gymru yn cael eu llunio ar gyfer cyd-destun Cymru o'r cychwyn cyntaf. Mae'r Papur Gwyn yn nodi bod angen diwygio cyllid; mae'n bwysig bod cyllid yr heddlu yn cael ei amddiffyn er mwyn sicrhau cymunedau mwy diogel a chefnogaeth i ddioddefwyr.
Yn yr un modd, o ran lleihau heddluoedd, mae'n dda nad yw penderfyniadau o'r fath yn cael eu rhuthro a'u bod yn ddarostyngedig i adolygiad annibynnol. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu'n llawn â'r adolygiad hwnnw ac yn ystyried ei ganfyddiadau. Er mwyn cefnogi'r adolygiad, byddem o leiaf yn disgwyl gwneud achos i'r adolygiad hwnnw, o ystyried y gwahaniaeth mewn cyfreithiau ac arferion gwaith rhwng Cymru a Lloegr, na ddylai unrhyw un heddlu rhanbarthol weithredu ar draws y ddwy ochr i'r ffin rhwng y ddwy wlad.
I gloi, rwy'n croesawu'r ystyriaeth a roddir i brosesau fetio ac i gynnal safonau proffesiynol ar gyfer swyddogion yr heddlu. Mae'r mwyafrif helaeth o swyddogion heddlu Cymru yn weision cyhoeddus dewr ac ymrwymedig, sy'n ymroi i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Fodd bynnag, mae ymddiriedaeth a hyder yn yr heddlu yn parhau i fod yn rhy isel, yn enwedig ymhlith menywod a rhai cymunedau lleiafrifol. Yn anffodus, mae hyn weithiau am reswm da. Rwy'n gobeithio y gallwn wella effeithiolrwydd Plismona yng Nghymru drwy weithio gyda Llywodraeth y DU ar y diwygiadau hyn. Rydym yn falch o'r partneriaethau yr ydym wedi'u hadeiladu gyda phartneriaid plismona yng Nghymru, ac rydym yn parhau i gydweithio gyda'r nod cyffredin o ddiogelu Cymru.
