Neidio i'r prif gynnwy

Sut y gallwch chi helpu'ch cymuned i deimlo'n gadarn ac yn groesawgar.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw cydlyniant cymunedol?

Pobl yn parchu ei gilydd, yn teimlo'n ddiogel, a phawb yn cael cyfle teg i ymuno i mewn. Hefyd gwneud yn siŵr nad oes unrhyw un yn teimlo ei fod wedi'i adael allan fel y gallwn ni i gyd fyw yn fodlon gyda'n gilydd.

Sut i helpu eich cymuned:

  • Parch
  • Tegwch
  • Diogelwch
  • Gwaith tîm
  • Gwrando

Dyma ychydig o bethau syml a all helpu i adeiladu cymunedau lle mae pawb yn teimlo bod croeso iddynt:

Cysylltu â'n gilydd

Sgyrsiau bach a dod at ein gilydd mewn gweithgareddau neu ddigwyddiadau lleol. Gall hynny yn ein helpu i weld y pethau sydd gennym yn gyffredin. Fyddwn ni ddim yn cytuno ar bopeth, a does dim rhaid i ni wneud hynny, ond mae dod o hyd i dir cyffredin yn bwysig.

Tegwch

Dylai pawb deimlo eu bod wedi'u cynnwys, beth bynnag fo'u cefndir. Weithiau mae hynny'n golygu bod angen hwyluso pethau i rai, drwy gynnig cyfieithu, amseroedd hyblyg, neu gefnogaeth ychwanegol fel nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.

Rhagweld niwed a gofalu am ein gilydd

Mae hynny'n golygu stopio sibrydion, casineb, neu fwlio cyn iddynt ddechrau lledaenu. Mae rhannu gwybodaeth dda a chefnogi ein gilydd yn gwneud gwahaniaeth mawr.

Gwaith tîm

Mae cynghorau, ysgolion a grwpiau lleol oll yn chwarae eu rhan. Ond mae rhan gennym ni hefyd, fel cymdogion ac aelodau o'r gymuned. Pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd, gallwn helpu gyda materion mwy fel unigrwydd neu allgáu.

Meddwl yn y tymor hir

Nid oes ateb rhwydd. Mae angen meithrin ymddiriedaeth a chysylltiadau dros amser, fel bod pawb yn cael ymdeimlad o berthyn.

Gwrando a chynnig cyfleoedd

Mae'r syniadau gorau yn aml yn dod oddi wrth y bobl sy'n byw yma. Pan fydd gan gymunedau lais, daw pethau ynghyd.