Yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i'ch helpu i adeiladu cymunedau cydlynus fel ymarferwyr.
Cynnwys
Cyflwyniad
Mae cydlyniant cymunedol (neu gymdeithasol) yn bwysig i Gymru gan mai dyma yw'r sylfaen ar gyfer byw yn fodlon gyda'n gilydd mewn cymdeithasau diogel, cynhwysol, lle gall unigolion ffynnu a lle mae cynnydd ar y cyd yn bosibl. Er mwyn adeiladu cymunedau cydlynus, mae'n rhaid i unigolion a'r gymdeithas gyfan ysgwyddo cyfrifoldeb, er budd pob un ohonom.
Y diffiniad o gydlyniant
Mae gan Lywodraeth Cymru ei diffiniad ei hun o gydlyniant:
Cydlyniant: i ba raddau y mae pobl mewn cymuned yn trin ei gilydd â pharch, yn cyd-dynnu, yn cyfrannu ac yn cyfranogi, i sicrhau bod pawb yn cael mwynhau eu hawliau dynol a chyflawni eu potensial.
Mae cymunedau cydlynus yn galluogi pobl i deimlo'n ddiogel a meithrin gwydnwch yn wyneb rhaniadau a naratifau ffug, yn ogystal â sicrhau ymdeimlad o berthyn i'w cymuned.
Er mwyn cael cymunedau cydlynus, rhaid wrth gysylltiadau cymdeithasol cryf rhwng ac o fewn cymunedau, ffocws ar hunaniaeth a gwerthoedd cyffredin, ac ymdrechion cynhwysol i sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a'u gwerthfawrogi.Pan fo diffyg cydlyniant, gwelir cymunedau wedi'u polareiddio, lle mae ymddieithrio, carfanu, ynysu, colli golwg ar werth pobl ac erledigaeth yn gyffredin neu'n cael eu hystyried yn dderbyniol.
Yr Egwyddorion
Mae'r Egwyddorion a ddatblygwyd isod yn rhyng-ddibynnol a dylid ystyried pob un yng nghyd-destun gwaith cydlyniant effeithiol. Eu bwriad yw helpu i lywio'r rhai sy'n cyflawni gwaith cydlyniant yn y sector cyhoeddus, y sector preifat neu'r trydydd sector yng Nghymru.
1. Meithrin cydberthnasau da rhwng ac o fewn cymunedau
- Mae meithrin cydberthnasau da yn ganolog i gydlyniant cymunedol. Mae'n golygu creu ardaloedd lle mae pobl o wahanol gefndiroedd neu sydd â gwahanol safbwyntiau yn rhyngweithio'n gadarnhaol, yn meithrin parch tuag at ei gilydd, ac yn datblygu gwerthoedd cyffredin. Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn glir iawn ei gofyniad bod cyrff cyhoeddus yn meithrin perthynas dda rhwng pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad ydynt yn eu rhannu.
- Cymryd camau pendant i hwyluso rhyngweithio ystyrlon drwy gyfathrebu cynhwysol ac ymgysylltu rhagweithiol. Chwalu rhwystrau a herio stereoteipiau drwy fentrau fel digwyddiadau rhyng-ffydd, prydau cymunedol, a chyfnewid diwylliannol.
- Creu lle ar gyfer deialog sifil, a gwerthoedd a hunaniaethau a rennir yn sail i nodi pwrpas cyffredin. Cydnabod gwahaniaethau a chroestoriadedd, ond peidio gadael i'r rhain fod yn rhwystr i weld yr hyn sydd gan aelodau'r gymuned yn gyffredin. Creu 'gofodau dewr' sy'n galluogi rhyddid mynegiant a lle i anghytuno, mewn ffordd sifil sy'n dangos parch. Nid consensws llwyr yw'r prif nod.
- Cryfhau cysylltiadau cymunedol drwy hyrwyddo parch a gwerthoedd cyffredin a fynegir drwy ddigwyddiadau fel Eisteddfodau a Dydd Gŵyl Dewi, achlysuron chwaraeon cenedlaethol, a digwyddiadau rhyngddiwylliannol.
- Annog pobl i edrych y tu hwnt i wahaniaethau a chwilio am nodau a phwrpas cyffredin. Mae hyn yn cefnogi integreiddio, gwydnwch a chyfranogi. Nodi enghreifftiau o aberth gyffredin, fel Dydd y Cofio, ac enghreifftiau o golli golwg ar werth pobl, fel Diwrnod Cofio'r Holocost, i feithrin empathi a pharch pobl tuag at ei gilydd.
- Er mwyn creu pwrpas cyffredin, rhaid nodi'r heriau a rennir a gweithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â nhw. Mynd i'r afael â materion systemig fel unigrwydd, anghydraddoldeb ac allgáu drwy hyrwyddo ymddiriedaeth a chyfranogi ystyrlon. Dylai mentrau cydlyniant rymuso cymunedau i fod yn fwy gwydn, cynhwysol a pharod i wynebu heriau gyda'i gilydd.
2. Hyrwyddo'r arfer o sicrhau triniaeth deg a chyfleoedd i bawb
- Tegwch yw un o gonglfeini cydlyniant cymunedol. Pan fydd unigolion yn teimlo eu bod yn cael eu trin yn deg a bod yr un cyfleoedd ar gael i bawb, maent yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn bywyd cymunedol a chyfrannu at les pawb. Mae'n hanfodol bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod cyfleoedd i glywed eu llais.
- Cymryd camau rhagweithiol i nodi a dymchwel y rhwystrau ffisegol, economaidd, ieithyddol, diwylliannol, sefydliadol neu seicolegol i bobl rhag cyfranogi. Defnyddio dulliau ymgysylltu hygyrch i 'gwrdd â phobl lle maen nhw', megis darparu gwasanaethau cyfieithu ac ymgynghori y tu allan i oriau, yn ogystal â theilwra dulliau i gynnwys grwpiau ymylol, gan gynnwys pobl anabl, lleiafrifoedd ethnig, a'r rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol.
- Mae gweithredu ar sail tegwch, fel strategaeth brif-ffrwd, yn sicrhau bod pob cyfraniad yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi. Dylai hyn hyrwyddo parch pobl tuag at ei gilydd, deialog a chynhwysiant. Mae hyn nid yn unig yn cryfhau cydlyniant, ond hefyd yn cynyddu ymddiriedaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus, a'r gefnogaeth i'w dilysrwydd.
3. Atal canlyniadau niweidiol o fewn cymunedau
- Gwneud atal canlyniadau niweidiol fel troseddau casineb, eithafiaeth, a gwahaniaethu, yn rhan annatod o weithredu cydlyniant. Cryfhau gwrthwynebiad cymunedol i naratifau sy'n ysgogi rhaniadau, camwybodaeth ac eithafiaeth.
- Cymryd camau i nodi, monitro a lliniaru tensiynau cymunedol a naratifau ffug. Galluogi aelodau'r gymuned i fynegi gwahaniaethau barn mewn modd sifil, gan leihau anghytundebau sy'n arwain at anhrefn cyhoeddus, erledigaeth neu ymdeimlad o fod yn anniogel.
- Atal annigonolrwydd gwybodaeth. Bydd hyn yn helpu i leihau llwyddiant negeseuon ffug neu atgas. Cefnogi darparu gwybodaeth amserol a chywir o ffynonellau dibynadwy i alluogi aelodau'r gymuned i wahaniaethu rhwng yr hyn sy'n wir a'r hyn nad yw'n wir, a gwrthod naratifau neu honiadau ffug a niweidiol.
- Adeiladu partneriaethau cryf ar draws asiantaethau ac ymgysylltu â chymunedau drwy gyfathrebu clir i dawelu ofnau, lleihau niwed a herio naratifau atgas a ffug. Hyrwyddo diwylliant o adrodd a chefnogi dioddefwyr a gwyliedyddion i wrthsefyll casineb a rhagfarn.
- Mynd i'r afael â'r elfennau sylfaenol sy'n sbarduno tensiynau fel anfantais economaidd-gymdeithasol ac allgáu. Drwy fynd i'r afael â'r materion hyn, gall gwaith cydlyniant cymunedol gyfrannu at gymunedau mwy diogel, iach a chynhwysol.
4. Cydweithio tuag at gymunedau cydlynus
- Mabwysiadu strategaeth gydlyniant ar gyfer cymdeithas gyfan drwy flaenoriaethu cydweithredu ar draws y sector cyhoeddus, y trydydd sector a'r sector preifat. Alinio ymdrechion, rhannu adnoddau ac arfer gorau, a sicrhau'r effaith gadarnhaol fwyaf bosibl drwy weithredu ar y cyd. Mae cydweithredu llwyddiannus yn dibynnu ar gydnabyddiaeth pob partner bod gan bob un ran wahanol i'w chwarae wrth ddarparu datrysiad cyflawn. Dylai partneriaid y sector cyhoeddus sicrhau bod cydraddoldeb parch i bartneriaid y trydydd sector, a phartneriaid y sector preifat lle bo hynny'n briodol.
- Adeiladu rhwydweithiau lleol cryf sy'n canolbwyntio ar yr asedau (gofodau ffisegol, cymdeithasau a thrigolion) sy'n bodoli o fewn cymunedau. Er mwyn cydweithredu'n effeithiol, rhaid i bobl fod â nodau cyffredin, cyfathrebu'n agored, a pharchu ei gilydd. Cyd-greu datrysiadau gyda'r rhai sy'n byw mewn cymunedau, gan werthfawrogi eu profiad bywyd a'u harbenigedd, fel partneriaid wrth wneud penderfyniadau.
- Cydnabod bod cydlyniant cymunedol yn effeithio ar y tai sydd ar gael a'u cyflwr, addysg, iechyd, cyflogaeth a gwasanaethau pwysig eraill, a bod y rheini yn eu tro yn effeithio ar gydlyniant cymunedol. Cefnogi'r rhai sy'n gyfrifol am y gwasanaethau ehangach hyn i ddeall effaith penderfyniadau polisi ar gymunedau, a cheisio cyfraniad pobl o gefndiroedd amrywiol at y broses o lunio polisïau a gwneud penderfyniadau. Rhaid i bob polisi a strategaeth ystyried y ffactorau cymhleth sy'n dylanwadu ar gydlyniant.
5. Gwneud ymyriadau hirdymor cynaliadwy i sicrhau canlyniadau cadarnhaol
- Trin cydlyniant cymunedol fel proses weithredol barhaus sy'n gofyn am fuddsoddiad cyson mewn cydberthnasau, gwasanaethau a chyfleusterau. Mae strategaethau hirdymor yn cryfhau cysylltiadau cymdeithasol a gwydnwch rhag polareiddio.
- Bydd rhai o achosion sylfaenol rhaniadau ac allgáu yn galw am fentrau hirdymor i'w datrys, megis tlodi, gwahaniaethu, ynysu cymdeithasol mewn perthynas â grwpiau penodol, ac effeithiau newid hinsawdd ac amgylcheddol. Cydnabod bod angen i heriau hirdymor hyd yn oed nodi amcanion cynnydd tymor byr i sicrhau bod pob cymuned yn gallu gweld bod yr heriau y maen nhw'n eu profi wedi'u hystyried.
- Integreiddio cynigion drwy ddefnyddio cymdeithasau, mentrau neu fforymau cymunedol presennol, lle bo'n bosibl. Bydd hyn yn cefnogi cynaliadwyedd hirdymor. Adeiladu ar (neu fanteisio ar) y cryfderau sydd eisoes yn bodoli ac yn cael eu gwerthfawrogi gan y gymuned.
- Mae mesur effaith a gwelliant parhaus yn hanfodol i lwyddiant hirdymor. Defnyddio dulliau mesur a gwerthuso cadarn, megis Dangosyddion Cenedlaethol Llesiant Cymru, i olrhain cynnydd a llywio camau gweithredu i'r dyfodol. Drwy ymrwymo i atebion hirdymor, gall cyrff cyhoeddus a chymunedau greu newid parhaol ac adeiladu Cymru o gymunedau cydlynus.
6. Rhoi'r lle canolog i gymunedau yr effeithir arnynt yn uniongyrchol
- Sicrhau bod y rhai y mae penderfyniadau yn effeithio arnynt yn uniongyrchol yn cael eu cynnwys mewn ffordd ystyrlon o'r cychwyn cyntaf. Mapio asedau, ymgynghori, ac ymgysylltu â chymdeithasau a chynrychiolwyr lleol i sicrhau bod polisïau yn adlewyrchu realiti bywyd a bod ymddiriedaeth yn cael ei meithrin.
- Rhaid i'r broses o gyfrannu fod yn gynhwysol ac yn hygyrch. Teilwra gwaith ymgysylltu i gynnwys grwpiau sy'n aml wedi'u hallgáu - fel pobl ifanc, pobl hŷn, a lleiafrifoedd ethnig. Creu 'ardaloedd diogel' a all helpu i roi llais cryfach i bobl ymylol a meithrin ymdeimlad o ddiogelwch a pharch.
- Annog mentrau a arweinir gan y gymuned a strategaethau a gydgynhyrchir i feithrin cyfrifoldeb ar y cyd. Pan fydd pobl yn cyfrannu at ddatrysiadau, maent yn fwy tebygol o'u cefnogi a'u cynnal. Mae cyfranogiad cymunedol yn meithrin perchnogaeth a balchder, mae pobl yn fwy tebygol o gyfrannu a chefnogi eraill, gan gryfhau ymddiriedaeth a chysylltiadau cymdeithasol.
- Grymuso cymunedau drwy ddarparu'r offer, yr adnoddau, cydnabyddiaeth o arbenigedd cymunedol, a'r ymreolaeth i lywio eu dyfodol. Mae gweithredu ar sail asedau yn canolbwyntio ar gryfderau, gan alluogi cymunedau i arloesi a chymryd perchnogaeth o asedau a phenderfyniadau lleol. Dylai penderfyniadau gael eu gwneud mor agos â phosibl at y bobl y maent yn effeithio arnynt.
- Gwerthfawrogi cyfraniadau amrywiol, gan gynnwys gwirfoddoli, ymgyrchu, a chymorth anffurfiol. Gall cyrff cyhoeddus hyrwyddo cyfranogiad drwy fecanweithiau fel democratiaeth gydgynghorol neu gyllidebu ar sail barn y bobl. Mae'r rhain yn helpu cymunedau i nodi blaenoriaethau a gweithio tuag at nodau a rennir.
- Cynnal deialog barhaus a darparu adborth clir am sut mae mewnbwn y gymuned wedi llywio'r penderfyniadau. Mae angen i bobl wybod eu bod wedi cael eu clywed ac y gweithredwyd ar sail hynny. Mae hyn yn hanfodol er mwyn meithrin a chynnal ymddiriedaeth mewn sefydliadau.
Deddfwriaeth
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
Sefydlodd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (Deddf 2015) 7 nod llesiant. Un ohonynt yw 'Cymru o gymunedau cydlynus’.
Mae pob un o'r 6 nod arall yn chwarae eu rhan wrth helpu i adeiladu cenedl o gymunedau cydlyniant:
- Cymru Iewyrchus
- Cymru gydnerth
- Cymru iachach
- Cymru sy'n fwy cyfartal
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
- Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Rhaid i Lywodraeth Cymru a'r cyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol, awdurdodau parciau cenedlaethol, a byrddau iechyd lleol, weithio tuag at y nod hwn o greu cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel, sydd â chysylltiadau da, wrth iddynt gyflawni eu swyddogaethau presennol.
Deddf Cydraddoldeb 2010
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cynnwys 9 nodwedd warchodedig, y mae angen eu hystyried ar gyfer gwaith cydlyniant, sef:
- oed
- anabledd
- ailbennu rhywedd
- priodas a phartneriaeth sifil
- beichiogrwydd a mamolaeth
- hil (gan gynnwys tarddiad ethnig a chenedlaethol)
- crefydd neu gred (gan gynnwys absenoldeb cred)
- rhyw
- cyfeiriadedd rhywiol
Gallai effeithiau gwahaniaethol neu anghymesur ar unrhyw un o'r grwpiau hyn a meysydd penodol sydd o ddiddordeb neu o bwys i wahanol grwpiau arwain at wahaniaethu anuniongyrchol anghyfreithlon. Am y rheswm hwn, mae angen ystyried effeithiau o'r fath mewn perthynas â gwaith cydlyniant cymunedol. Dylai sefydliadau hefyd ystyried yr anfantais groestoriadol bosibl i aelodau o'r gymuned os yw polisi yn eu rhoi dan anfantais ar sail dwy neu fwy o nodweddion gwarchodedig.
Mae adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, ynghyd ag awdurdodau cyhoeddus penodedig eraill, roi sylw dyladwy i'r angen i:
- ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall sydd wedi’i wahardd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb
- hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol ac unigolion nad ydynt yn ei rhannu
- meithrin cydberthnasau da rhwng unigolion sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol ac unigolion nad ydynt yn ei rhannu
Mae'r gofyniad i feithrin cydberthnasau da, yn arbennig, yn ymgorffori rhwymedigaeth glir iawn i ystyried cydlyniant cymunedol fel rhan o ddatblygu polisi ac unrhyw broses lle gwneir penderfyniad.
Er mwyn i gyrff cyhoeddus berfformio'n well a dangos eu bod yn cydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, pasiodd Llywodraeth Cymru ddeddfwriaeth i gyflwyno dyletswyddau cydraddoldeb penodol fel y'u nodir yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 (Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru).
Mae Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru yn gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru ac Awdurdodau Cymreig Datganoledig eraill o ran ymgysylltu â rhanddeiliaid, asesiadau o effeithiau ar gydraddoldeb, caffael, gwybodaeth am gydraddoldeb a chyflogaeth, a threfniadau adolygu ac adrodd. Mae Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru yn helpu cyrff cyhoeddus i hwyluso cydraddoldeb ledled y sector cyhoeddus, a dylid eu defnyddio fel cyfrwng pwysig i feithrin cydlyniant cymunedol yng Nghymru.
Daeth y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol i rym yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021. Mae'n ei gwneud yn ofynnol ystyried yr angen i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb fel rhan o'r broses o wneud penderfyniad, ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i rai Awdurdodau Cymreig Datganoledig ystyried sut y gallai eu penderfyniadau strategol, megis ynghylch blaenoriaethau a phennu amcanion, helpu i leihau'r anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol. Gall yr anfanteision hynny fod yn anghymesur mewn cymunedau buddiant a chymunedau daearyddol.
Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021
Mae gan brif gynghorau (y cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru) ddyletswydd o dan Bennod 2 o Ran 3 Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 i annog pobl leol i gyfrannu at broses y cyngor o wneud penderfyniadau. Mae'n ofynnol i gynghorau o'r fath gyhoeddi strategaeth ar gyfer cyfranogiad y cyhoedd sy'n nodi sut y byddant yn cyflawni'r ddyletswydd honno. Rhaid i'r strategaeth gynnwys, ymhlith materion eraill, sut mae'r cyngor yn hyrwyddo ac yn cefnogi ffyrdd i bobl leol rannu eu barn am benderfyniadau'r cyngor, cyn ac ar ôl iddynt gael eu gwneud. Nod strategaethau cyfranogiad yw ei gwneud yn haws i'r cyhoedd ddeall sut mae llywodraeth leol yn gweithio, sut mae'n gwneud penderfyniadau, sut y gall pobl leol fod yn rhan o'r broses a chyfrannu eu barn, ac yn bwysicaf oll, sut caiff eu barn ei hystyried.
Deddf Hawliau Dynol 1998
Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn effeithio ar Weinidogion Cymru a'r Senedd mewn dwy ffordd allweddol. Yn gyntaf, awdurdodau cyhoeddus ydynt, sy'n golygu bod yn rhaid iddynt weithredu mewn ffordd sy'n gydnaws â'r hawliau a restrir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Yn ail, mae dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Adrannau 81 a 158) i beidio â gweithredu na deddfu mewn ffordd sy'n anghydnaws â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
Mae'r rhyddid i lefaru sy'n bodoli yn y DU yn cael ei warchod o dan Erthygl 10 o Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Mae'n gwarchod hawl pawb i farn bersonol ac i'w mynegi'n rhydd heb ymyrraeth y llywodraeth. Mae hon yn hawl ddynol sylfaenol sy'n hwyluso'r ffordd i greu cymdeithas ddemocrataidd agored a theg. Dylai alluogi pobl i gytuno neu anghytuno â'r rhai sydd â phŵer a dylanwad, a gwneud hynny heb ofn dial. Mae'r rhyddid i lefaru hefyd yn caniatáu i unigolion fynegi safbwyntiau amhoblogaidd neu sy'n tramgwyddo. Mae'n bwysig dweud ei bod yn bosibl iawn bod Erthygl 10 yn gwarchod yr hawl i wneud datganiadau beirniadol neu sy'n peri gofid am waith eich sefydliad, a'u bod felly yn gyfreithlon, ni waeth pa mor annymunol y gall fod neu faint o ofid y gall ei greu.
Fodd bynnag, nid yw'r rhyddid i lefaru yn gwarchod yr hawl i ymddygiad anghyfreithlon fel bygythiadau o drais, iaith casineb, ac aflonyddu, boed ar-lein neu mewn cyd-destun arall.
Yng Nghymru a Lloegr mae amrywiaeth o Ddeddfau Seneddol sy'n cwmpasu troseddau a allai fod yn berthnasol. Gall gwarchodaeth rhag troseddau casineb fod yn berthnasol ar-lein neu mewn cyd-destun arall, ac maent wedi'u cynnwys yn Neddf Trosedd ac Anhrefn 1998 a Deddf Dedfrydu 2020.
Mae troseddau sy'n ysgogi casineb (ar sail hil, crefydd neu gyfeiriadedd rhywiol) wedi'u nodi yn Neddf Trefn Gyhoeddus 1986. Mae troseddau cyfathrebu maleisus wedi'u hamlinellu yn Neddf Cyfathrebu Maleisus 1988, Deddf Cyfathrebu 2003 a Deddf Diogelwch Ar-lein 2023.
Mae troseddau sy'n ymwneud ag aflonyddu a stelcian wedi'u cynnwys yn Neddf Gwarchodaeth rhag Aflonyddu 1997. Mae troseddau ysgogi terfysgaeth yn cael eu cynnwys yn Neddf Terfysgaeth 2006. Mae lledaenu twyllwybodaeth a allai achosi niwed nad yw'n fân-niwed yn cael ei wahardd gan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023.
