Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion ddechrau gweithio ar adolygu ein Canllawiau ar Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer Pleidiau Gwleidyddol. Mae Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu'r canllawiau o bryd i'w gilydd, gan ystyried cylch etholiadau'r Senedd ac etholiadau lleol. 

Mae'r canllawiau hyn, a gyhoeddwyd gennym am y tro cyntaf fis Mawrth diwethaf, yn tanlinellu ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant wrth inni anelu at sefydliadau gwleidyddol sydd wir yn cynrychioli pobl Cymru.

Diben yr adolygiad cychwynnol hwn fydd edrych ar gynnwys y canllawiau i adlewyrchu'r amser sydd wedi mynd heibio ers iddynt gael eu cyhoeddi gyntaf ym mis Mawrth y llynedd, gan sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gywir ac yn gyfredol i gynorthwyo pleidiau gwleidyddol sydd ag ymgeiswyr yn sefyll yn yr etholiadau llywodraeth leol yn 2027. 

Yn rhan o'r adolygiad, bydd swyddogion yn gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol i sicrhau bod y canllawiau diwygiedig yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r cyngor diweddaraf o ran cynlluniau cymorth a chanllawiau sydd ar gael i ymgeiswyr. Bydd hyn yn cynnwys trafod sut y gallant helpu pleidiau i nodi a chael gwared ar rwystrau a allai atal pobl rhag sefyll mewn etholiadau. 

Rhagwelir y bydd y canllawiau diwygiedig ar gael yn yr hydref. Bydd hyn yn galluogi Llywodraeth nesaf Cymru i ystyried canlyniad y gwaith hwnnw ac ystyried y Strategaethau Amrywiaeth a Chynhwysiant a gyhoeddir gan bleidiau gwleidyddol, ynghyd â'r wybodaeth a gyhoeddir am amrywiaeth ymgeiswyr yn dilyn etholiad 2026. Bydd dechrau'r gwaith hwn nawr yn sicrhau y bydd y canllawiau diweddaraf ar gael i bleidiau gwleidyddol mewn da bryd cyn yr etholiadau llywodraeth leol.