Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae teithiau cyflogeion yn cyfrannu’n sylweddol at ôl troed carbon eich sefydliad. Mae hyn yn cynnwys cymudo a theithiau busnes mewn cerbydau personol, a elwir yn allyriadau ‘fflyd lwyd’, sy’n dod o dan Gwmpas 3. Mewn cyferbyniad, mae teithiau busnes mewn cerbydau y mae’r cyflogwr yn berchen arnynt neu gerbydau sy’n cael eu lesio ganddo, gan gynnwys y rhai sydd o dan gynlluniau aberthu cyflog, yn cyfrannu at allyriadau Cwmpas 1 a 2 (Cwmpas 1 yw eich allyriadau uniongyrchol, ac allyriadau anuniongyrchol yw Cwmpas 2, o ynni a brynwyd yn gyffredinol; allyriadau anuniongyrchol o fewn y gadwyn werth yw Cwmpas 3).

Er bod cymudo a theithiau fflyd lwyd yn wahanol fathau o deithio, mae gorgyffyrddiad rhwng y ddau. Bydd y cerbyd y mae cyflogai yn ei ddefnyddio ar gyfer cymudo a nifer milltiroedd y fflyd lwyd yr un fath. Er enghraifft, os oes angen i gyflogai ddefnyddio ei gar ar gyfer milltiroedd busnes, bydd hefyd yn gyrru i’r gwaith, ond efallai y byddai’r cyflogai yn gallu mynd ar y bws os nad oes angen ei gar arno. Bydd ymdrechion i ddatgarboneiddio un maes teithio hefyd yn effeithio ar y llall. Mae rheoli allyriadau Cwmpas 3 yn effeithiol yn gofyn am gyfathrebu ac arweinyddiaeth glir i ymgysylltu â chyflogeion a lleihau ymwrthedd i newid. Gan eich bod yn gyflogwr, mae gennych fwy o reolaeth dros deithiau busnes y staff, felly mae’r nodyn hwn yn canolbwyntio’n fwy ar newidiadau y gallwch eu gwneud i arferion teithio busnes, fodd bynnag, bydd y newidiadau hyn hefyd yn dylanwadu ar arferion cymudo y cyflogeion, gan leihau allyriadau yn y ddau faes.

Hierarchaeth teithio

Mae gweithredu hierarchaeth teithio yn allweddol i fynd i’r afael ag allyriadau teithio y staff, ar gyfer cymudo a theithiau busnes. Mae angen gorfodi’r hierarchaeth teithio yn gadarn drwy system sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyflogeion gwestiynu’r angen i deithio yn gyntaf, ac yna ddilyn proses at yr ateb effaith mwyaf cost-effeithiol ac sy’n peri’r effaith isaf.

Dylai proses hierarchaeth teithio ddechrau gyda’r dewis o ddefnyddio telathrebu, os nad yw hynny’n bosibl neu’n ymarferol, a ellir teithio drwy ddulliau llesol, ac os nad yw hynny’n bosibl, a ellir gwneud hynny â thrafnidiaeth gyhoeddus. Os oes angen cerbyd ar gyfer y daith, yna dylai’r sefydliad ddarparu dewisiadau i’r cyflogai fel y manylir arnynt yn yr adran a ganlyn. Gyda digon o ddewisiadau a ddarperir gan y cyflogwr, gan gynnwys cerbydau di-allyriadau, yn ddelfrydol, dylai defnyddio cerbyd y cyflogai fod y dewis olaf ar y broses hierarchaeth teithio, oni bai bod ganddo gerbyd di-allyriadau. 

Mae gweithredu hierarchaeth teithio yn llwyddiannus yn cynnwys newid ymddygiad ar ran y cyflogeion, ac mae angen modelu hyn ar bob lefel yn y busnes, yn enwedig yr uwch-reolwyr. Mae nifer o bethau y gall eich sefydliad eu cyflwyno i annog cyflogeion i dderbyn cyfrifoldeb am allyriadau eu teithiau, ac mae cyfathrebu yn allweddol i gyflawni hyn. Er enghraifft, gallech gyflwyno cystadlaethau neu fuddion i gyflogeion sy’n defnyddio teithio llesol a/neu drafnidiaeth gyhoeddus, cyflwyno grwpiau cinio neu ‘hyrwyddwyr cyflogeion’ i helpu eu cymheiriaid i fod yn fwy hyderus ynghylch cerdded neu feicio, neu roi digon o amser i gyflogeion gerdded i gyfarfodydd. Hefyd, gall y sefydliad helpu cyflogeion gyda chostau trafnidiaeth cyhoeddus, cyflwyno ffioedd parcio ceir a chyfraddau ffafriol ar gyfer rhannu car, darparu amserlenni byw ar y safle ar gyfer bysiau a threnau lleol, gosod goleuadau a llwybrau digonol fel y bo hynny’n bosibl. 

Mae’n bwysig i’r sefydliad wrando ar y staff ynghylch pam na allant ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu lesol, a cheisio goresgyn y rhwystrau hyn fel y bo’n ymarferol. Mae hefyd yn bwysig peidio ag argymell dull ‘popeth neu ddim byd’, pe byddai pob cyflogai’n symud un ffon i fyny’r hierarchaeth ar un diwrnod teithio yn unig drwy’r busnes cyfan, gallai hyn arwain at gyfanswm sylweddol o allyriadau a arbedir.

Dewisiadau ar gyfer teithiau busnes y staff

Mae teithiau busnes yn gofyn am ddewisiadau amrywiol o gerbydau ar gyfer y cyflogeion. Gall sefydliadau reoli cerbydau fflyd neu drefnu gwasanaethau llogi allanol neu glybiau ceir. Mae’r gofyniad am gynllunio uwch yn meithrin defnydd effeithlon o gerbydau, a thrwy hynny mae’n lleihau allyriadau a threuliau. Mae amrywiaeth o ddewisiadau teithio busnes yn galluogi sefydliad i osod terfynau personol ar allyriadau cerbydau ‘fflyd lwyd’, gan annog y staff i beidio â’u defnyddio at ddibenion gwaith.

Cerbydau Fflyd

Mae cerbydau fflyd yn ateb cost-effeithiol ar gyfer anghenion teithio mynych, ar yr amod bod nifer y milltiredd fesul cerbyd fesul blwyddyn rhwng 10,000 a 12,000. Mae nodweddion hanfodol yn cynnwys addasrwydd ar gyfer y defnydd y bwriadwyd, diogelwch, cysur, glendid a system archebu rhwydd. Argymhellir mabwysiadu fflyd gwbl ddi-allyriadau, megis cerbydau trydan batri. Mae hyfforddi cyflogeion i yrru a gwefru’r cerbydau hyn yn hanfodol, ynghyd â chymell defnyddio ceir fflyd yn hytrach na cherbydau personol.

Cerbydau Llogi

Ar gyfer teithiau achlysurol neu bellter hir pan nad yw car fflyd yn ymarferol, gall cerbydau llogi fod yn fwy addas. Maent yn enwedig o fanteisiol ar gyfer teithiau sy’n fwy na nifer milltiroedd penodol, pan maent yn dod yn fwy cost-effeithiol na defnyddio cerbyd personol.

Clybiau Ceir

Mae clybiau ceir yn cynnig mynediad hyblyg i gerbydau ac maent yn addas ar gyfer teithiau byr a lleol. Er eu bod yn ddibynnol ar yr hyn sydd ar gael yn rhanbarthol, gall sefydliadau feithrin clybiau ceir drwy gymeradwyo a defnyddio eu gwasanaethau, a allai ddwyn buddion cymunedol hefyd.

Trwy ddefnyddio ceir fflyd, cerbydau llogi a chlybiau ceir yn strategol, gall sefydliadau symleiddio teithiau busnes a lliniaru’r effaith amgylcheddol drwy’r posibilrwydd o ddylanwadu ar ddewisiadau cyflogeion tuag at ddewisiadau cymudo gwyrddach.

Datgarboneiddio cerbydau cyflogeion

Yn olaf, gall y sefydliad helpu cyflogeion i ddatgarboneiddio eu cerbydau preifat eu hunain hefyd, ni waeth a ydynt yn angenrheidiol ar gyfer teithiau busnes ai peidio. Y prif ddull o wneud hyn yw darparu cynllun aberthu cyflog di-allyriadau i gyflogeion. 

Darperir cerbydau aberthu cyflog, megis cerbyd preifat, i’r staff a lesir trwy’r sefydliad (Cwmpas 1 a 2 yw eu hallyriadau, gan eu bod ar les i’r sefydliad). Mae’r cerbyd yn fudd trethadwy, ac mae cyfradd drethu ffafriol ar gyfer cerbydau allyriadau isel sydd â sgôr allyriadau o 50 gCO2/km neu is ac sy’n gallu gwneud o leiaf 70 milltir ar 0 gCO2/km. Er mwyn datgarboneiddio cerbydau cyflogeion, dylid gosod cynllun aberthu cyflog ar gyfer cerbydau di-allyriadau yn unig, ac mae hyn yn galluogi’r staff i gael gafael ar y cyfraddau treth ffafriol hyn, gan wneud cerbydau trydan batri yn fwy cost-effeithiol. Ni all cynllun aberthu cyflog dderbyn cyflogeion sydd ar gyflog is na’r isafswm cyflog, a gallai fod yn anfanteisiol i’r rhai sy’n agos at ymddeol. Gallai cynllun benthyg i gyflogeion fod yn ddewis hefyd, a byddai hyn yn caniatáu i gyflogai brynu cerbydau ail-law, gan eu gwneud yn fwy hygyrch. 

Yn ogystal â’r cynllun aberthu cyflogau, gall y sefydliad gymryd camau pellach i hybu’r defnydd o gerbydau di-allyriadau, megis:

  • Gwefru yn y Gweithle: Darparu gorsafoedd gwefru yn y gweithle ar gyfer cyflogeion nad oes ganddynt gyfleusterau gwefru gartref neu sy’n wynebu cymudiadau hirach.
  • Parcio â Chymhelliant: Cynnig parcio am bris llai neu am ddim ar gyfer cerbydau di-allyriadau a gosod ffioedd parcio uwch ar gerbydau sy’n creu mwy o lygredd.

Yn ogystal â hwyluso’r newid i gerbydau trydan batri, mae’r mentrau hyn hefyd yn atgyfnerthu ymrwymiad y cwmni i gyfrifoldeb amgylcheddol. I gael manylion cynhwysfawr am wefru yn y gweithle, cyfeirier at ein nodyn cyngor technegol ar wahân: Darparu cyfleusterau gwefru cerbydau trydan i staff yn y gweithle: nodyn cyngor technegol.

Crynodeb

Gall allyriadau Cwmpas 3 y staff, sy’n deillio o gymudo neu deithio busnes, ffurfio rhan fawr o gyfanswm allyriadau sefydliad. Er mai allyriadau anuniongyrchol yw’r rhain, mae’n bwysig bod y sefydliad yn mynd i’r afael â’r allyriadau hyn drwy fesurau sydd â’r nod o symud staff i fyny’r hierarchaeth deithio, at ddewisiadau allyriadau is. 

Mae lleihau a mynd i’r afael ag allyriadau Cwmpas 3 y staff yn gofyn am newid ymddygiad ar ran cyflogeion ar bob lefel o’r sefydliad. Mae angen cyfathrebu’n glir i’r cyflogeion unrhyw fesurau newydd a gyflwynir, a dylent gael eu modelu gan yr uwch-reolwyr. Rhaid i'r sefydliad fynegi ei amcanion, y rhesymeg dros addasiadau, ac arwyddocâd cyfrifoldeb unigol dros allyriadau teithio.

Mae CLlLC wedi nodi canllawiau i gefnogi cynghorau i annog staff i deithio’n fwy cynaliadwy.