Addasiadau rhesymol i gymwysterau cyffredinol: canllawiau
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd ar gyrff dyfarnu i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr anabl.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (‘y Ddeddf’) yn gosod dyletswydd ar gyrff cymwysterau i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr anabl. Mae trin ymgeiswyr yn deg, a gwneud yn siŵr bod y cymhwyster yn parhau i fod yn ddilys, yn ystyriaeth bwysig.
Mae'r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru (sef y rheoleiddiwr priodol [Troednodyn 1] ar gyfer corff cymwysterau sy’n dyfarnu cymwysterau yng Nghymru) bennu lle na ddylid gwneud addasiad rhesymol i gymwysterau cyffredinol.
Mae gan Weinidogion Cymru’r pŵer i bennu pa gymwysterau a ddyfernir yng Nghymru a gaiff eu cynnwys yn niffiniad ‘cymwysterau perthnasol’ dan adran 96 o'r Ddeddf. Nodir y rhain yn Atodiad A.
Dylid nodi bod y pŵer hwn yn ymwneud â chymwysterau cyffredinol yn unig. Nid yw’n berthnasol i gymwysterau galwedigaethol a gwmpesir gan adran 53 o'r Ddeddf. Gweler hefyd adran 54 o'r Ddeddf sy'n darparu bod cymhwyster perthnasol at ddibenion adran 53 yn awdurdodiad, cymhwyster, cydnabyddiaeth, cofrestriad, ymrestriad, cymeradwyaeth neu’n ardystiad sydd ei angen ar gyfer bod yn rhan o fasnach neu broffesiwn penodol neu i hwyluso hynny.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ar eu pŵer dan adran 96 o’r Ddeddf. Ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwn, ac ar ôl cynnal Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y manylebau a nodir isod.
Wrth lunio’r manylebau hyn, mae Gweinidogion wedi ystyried:
- yr angen i leihau'r graddau y mae pobl anabl yn cael eu rhoi o dan anfantais oherwydd eu hanableddau wrth geisio ennill cymhwyster;
- yr angen i sicrhau bod y cymhwyster yn rhoi darlun dibynadwy o wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth y sawl sydd wedi'i gyflawni;
- yr angen i gynnal ffydd y cyhoedd yn y cymhwyster.
Pan fo’r rheoleiddiwr priodol yn gwneud manylebau, bydd hyn yn diddymu’r ddyletswydd ar sefydliadau dyfarnu i wneud addasiadau rhesymol o fewn ffiniau cyfyngedig y manylebau hynny’n unig.
Os nad yw’r rheoleiddiwr priodol wedi gwneud unrhyw fanylebau perthnasol, mae dyletswydd gyfreithiol ar sefydliadau dyfarnu o hyd i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr anabl. Rhaid i sefydliadau dyfarnu ystyried pa addasiadau a all fod yn rhesymol mewn unrhyw gyfres benodol o amgylchiadau. Nid yw’r ffaith nad oes manyleb ar gyfer addasiad yn golygu y bydd yr addasiad hwnnw, o anghenraid, yn rhesymol mewn unrhyw gyfres benodol o amgylchiadau.
Nid yw Adran 96(7) o’r Ddeddf yn gosod cyfrifoldeb ar y rheoleiddiwr priodol i fonitro neu orfodi cyfraith gydraddoldeb. Mater i’r llys yn y pendraw yw penderfyniadau ynghylch beth sy’n gyfystyr â gwahaniaethu. Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw’r corff sector cyhoeddus sy’n gyfrifol am hyrwyddo, monitro a gorfodi cydraddoldeb.
Nid yw Adran 96(7) o’r Ddeddf yn creu pŵer i ymgeiswyr anabl apelio i’r rheoleiddiwr priodol os gwrthodwyd addasiad ar eu cyfer. Os yw sefydliad dyfarnu wedi gwrthod addasiad i ymgeisydd anabl, gall yr ymgeisydd gwyno wrth y sefydliad dyfarnu. Gall ymgeiswyr anabl fynd â chŵyn o’r fath i’r llys dan ddeddfwriaeth gydraddoldeb.
Mae arferion cyfredol y sefydliadau dyfarnu o ran defnyddio addasiadau rhesymol i gymwysterau cyffredinol yn seiliedig ar gyhoeddiad y Cyd-gyngor Cymwysterau Access Arrangements, Reasonable Adjustments and Special Consideration: General and Vocational Qualifications, sy'n cael ei ddiweddaru'n flynyddol. Mae'r cyfeiriadau yn y ddogfen hon at arferion presennol yn cyfeirio at yr arferion a nodir yn Access Arrangements, Reasonable Adjustments and Special Consideration: General and Vocational Qualifications.
Manylebau
Esemptiadau pan fydd popeth arall wedi methu
Ni cheir defnyddio esemptiad fel addasiad rhesymol, heblaw mewn achosion lle nad oes unrhyw addasiad rhesymol arall yn briodol.
Faint o’r cymhwyster y gellir cael esemptiad ohono
Ni cheir defnyddio esemptiad fel addasiad rhesymol pan fyddai’n golygu mwy na 40 y cant o’r marciau sydd ar gael (wedi’u pwysoli) ar gyfer cymhwyster. Gyda phrif ddysgu, mae 40 y cant o’r cymhwyster gyfwerth â 40 y cant o’r oriau dysgu dan arweiniad.
Esemptiad o gydran gyfan
Ni cheir defnyddio esemptiad o ran o gydran fel addasiad rhesymol. Dim ond pan fydd ymgeisydd yn methu cael mynediad at unrhyw ran o’r gydran honno y ceir caniatáu esemptiadau ar gyfer y gydran gyfan.
Ffiniau gradd neu farciau pasio
Nid oes dyletswydd ar gyrff dyfarnu i wneud addasiad rhesymol i ffiniau gradd a (neu) farciau pasio ar gyfer ymgeiswyr anabl.
Darllenwyr
Ni cheir defnyddio darllenwyr dynol fel addasiad rhesymol pan fydd gallu’r ymgeisydd i ddarllen yn cael ei asesu.
Ysgrifenyddion a systemau adnabod llais
Ni cheir defnyddio ysgrifenyddion dynol a systemau adnabod llais fel addasiad rhesymol i arddangos sgiliau ysgrifennu pan fydd gallu’r ymgeisydd i ysgrifennu yn cael ei asesu.
Iaith Arwyddion Prydain
Ni cheir defnyddio Iaith Arwyddion Prydain fel addasiad rhesymol pan fydd gofyn i ymgeiswyr arddangos eu gallu i siarad neu wrando.
Cynorthwywyr ymarferol
Ni cheir defnyddio cynorthwywyr ymarferol fel addasiad rhesymol pan fydd gofyn i ymgeiswyr gyflawni tasgau corfforol neu arddangos sgiliau corfforol sy’n rhan o amcanion asesu’r cymhwyster.
Trefniadau eithriadol ar gyfer esemptiadau
Ar gyfer y cymhwyster canlynol ym mlwyddyn asesu 2026
TGAU Cymraeg Ail Iaith fel y gellir esemptio 50% (o gymharu â 40%) o farciau'r cymhwyster fel addasiad rhesymol lle nad oes addasiad rhesymol arall ar gael.
Ar gyfer y cymwysterau canlynol a addysgir am y tro cyntaf o fis Medi 2025
- TGAU Cymraeg Craidd
- TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg
- TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg
Ar gyfer TGAU Cymraeg Craidd, y gellir esemptio 50% (o gymharu â 40%) o farciau'r cymhwyster fel addasiad rhesymol lle nad oes addasiad rhesymol arall ar gael; ac
Ar gyfer TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg a TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, er mwyn caniatáu esemptiad rhannol o un neu fwy o gydrannau fel addasiad rhesymol lle nad oes addasiad rhesymol arall ar gael.
Canllawiau
Esemptiadau
- Ni cheir defnyddio esemptiad fel addasiad rhesymol, heblaw mewn achosion lle nad oes unrhyw addasiad rhesymol arall yn briodol.
- Ni cheir defnyddio esemptiad fel addasiad rhesymol pan fyddai’n golygu mwy na 40 y cant o’r marciau sydd ar gael (wedi’u pwysoli) ar gyfer cymhwyster.
- Gyda phrif ddysgu, mae 40 y cant o’r cymhwyster gyfwerth â 40 y cant o’r oriau dysgu dan arweiniad.
- Ni cheir defnyddio esemptiad o ran o gydran fel addasiad rhesymol.
- Dim ond pan fydd ymgeisydd yn methu cael mynediad at unrhyw ran o’r gydran honno y ceir caniatáu esemptiadau ar gyfer y gydran gyfan.
Caiff nifer fach iawn o esemptiadau eu rhoi bob blwyddyn gan sefydliadau dyfarnu'r JCQ. Mae mwyafrif helaeth y rhain ar gyfer cymwysterau TGAU.
Mae esemptiad yn addasiad rhesymol a ddefnyddir pan fydd popeth arall wedi methu, lle nad oes unrhyw addasiad rhesymol arall yn briodol. Mae’n gytundeb a wneir gyda sefydliad dyfarnu, cyn yr asesiad, sy’n golygu bod ymgeisydd anabl yn cael esemptiad o gydran (neu gydrannau) cymhwyster. Pan roddir esemptiad, ystyrir mai perfformiad yr ymgeisydd yn y cydrannau a gyflawnwyd yw ei berfformiad ar gyfer y cymhwyster cyfan.
Defnyddir esemptiad pan fydd popeth arall wedi methu oherwydd nid yw’n galluogi ymgeiswyr i arddangos yn llawn yr hyn y gallant ei gyflawni. Dylid gwneud pob ymdrech i ganfod addasiadau rhesymol sy’n caniatáu i’r ymgeisydd gymryd rhan ym mhob elfen o’r cymhwyster a gaiff eu hasesu. Pan roddir esemptiad, nodir hynny ar dystysgrif yr ymgeisydd.
Mae caniatáu esemptiadau’n lleihau’r anfantais i ymgeiswyr anabl. Mae pennu cyfyngiadau penodol ar y defnydd a wneir ohonynt yn cynnal ffydd y cyhoedd ac yn helpu i sicrhau bod y cymwysterau yn rhoi darlun dibynadwy o wybodaeth, sgiliau a phrofiad ymgeiswyr.
Ar hyn o bryd, 40 y cant yw cyfran uchaf y cymhwyster y gellir cael esemptiad ohono. Dim ond pan fydd ymgeisydd yn methu cael mynediad at unrhyw ran o’r gydran honno y ceir caniatáu esemptiadau ar gyfer y gydran gyfan. Mae’r fanyleb hon yn adlewyrchu’r dull presennol a’r bwriad yw sicrhau cysondeb ar draws sefydliadau dyfarnu a helpu i sicrhau mai dim ond ar ôl i bopeth arall fethu y defnyddir esemptiadau. Fel y nodwyd, dylid gwneud pob ymdrech i ganfod addasiadau rhesymol sy’n caniatáu i’r ymgeisydd gymryd rhan yn yr asesiad.
Oherwydd strwythur asesu'r cymwysterau TGAU a nodir isod, caniateir trefniadau esemptio eithriadol mewn amgylchiadau penodol.
Ar gyfer y cymhwyster canlynol ym mlwyddyn asesu 2026
TGAU Cymraeg Ail Iaith (CBAC) fel y gellir esemptio 50% (o gymharu â 40%) o farciau'r cymhwyster fel addasiad rhesymol lle nad oes addasiad rhesymol arall ar gael.
Y cymwysterau TGAU newydd a fydd yn cael eu haddysgu am y tro cyntaf o Fedi 2025 yw:
Ar gyfer TGAU Cymraeg Craidd, gellir esemptio 40% o asesiadau'r cymhwyster fel addasiad rhesymol lle nad oes addasiad rhesymol arall ar gael.
Ar gyfer TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg a TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, caniateir esemptiad rhannol o un neu fwy o gydrannau fel addasiad rhesymol lle nad oes addasiad rhesymol arall ar gael.
Mae'r cymwysterau TGAU Cymraeg Ail Iaith a TGAU Cymraeg Craidd yn cynnwys pedair uned gydag Unedau 1 a 2 yn cael eu hasesu drwy dasgau siarad a gwrando integredig, gan gyfrannu 50% o asesiad cyffredinol y cymhwyster. Mae cynyddu canran y marciau cymhwyster y gellir eu hesemptio fel addasiad rhesymol lle nad oes addasiad rhesymol arall ar gael yn mynd i'r afael â'r effaith bosibl ar ddysgwyr y gall eu hanabledd effeithio ar eu gallu i gwblhau'r asesiad llafaredd.
Yn achos TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg a TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, oherwydd natur integredig (ysgrifenedig a llafaredd) yr asesiad llafaredd, mae potensial y gallai'r dysgwr gael mynediad at rai o'r asesiadau ysgrifenedig o fewn yr Uned a'u cwblhau, hyd yn oed os yw anabledd yn effeithio ar eu gallu i gael mynediad llawn at elfen lafaredd yr asesiad hwnnw. O dan yr amod presennol, byddai'r gallu hwn i gwblhau rhan o'r asesiad yn negyddu'r posibilrwydd y gall y dysgwr gael ei esemptio o'r elfen lafaredd yn unig.
Ffiniau gradd a marciau pasio
Nid oes dyletswydd ar gyrff dyfarnu i wneud addasiad rhesymol i ffiniau gradd a (neu) farciau pasio ar gyfer ymgeiswyr anabl.
Nid yw’r fanyleb hon yn newid y trefniadau presennol o gwbl.
Bydd pennu nad oes dyletswydd ar sefydliadau dyfarnu i wneud addasiadau rhesymol i ffiniau gradd a (neu) farciau pasio yn helpu i gynnal ffydd y cyhoedd yn ogystal â sicrhau bod y cymwysterau yn rhoi darlun dibynadwy o wybodaeth, sgiliau a phrofiad yr ymgeisydd.
Nid yw’r dull hwn yn rhoi mantais i ymgeiswyr anabl nac yn eu rhoi o dan anfantais. Diben addasiadau rhesymol yw ceisio sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn gyfartal pan fo ymgeisydd anabl yn cael ei roi dan anfantais sylweddol mewn asesiad o gymharu ag ymgeiswyr nad ydynt yn anabl.
Drwy beidio ag addasu ffiniau gradd a (neu) farciau pasio, mae ymgeiswyr anabl yn gallu bod yn dawel eu meddwl eu bod wedi ennill eu cymwysterau ar sail teilyngdod. Yr un yw gwerth y cymhwyster neu gradd i bob ymgeisydd.
Enghraifft
Os mai ystod y marciau ar gyfer gradd C mewn Mathemateg TGAU yw 50 i 59 y cant, a bod ymgeisydd anabl ac ymgeisydd nad yw’n anabl yn cael 59 y cant, bydd y ddau yn cael gradd C.
Darllenwyr
Ni cheir defnyddio darllenwyr dynol fel addasiad rhesymol pan fydd gallu’r ymgeisydd i ddarllen yn cael ei asesu.
Gall darllenwyr fod yn ddarllenwyr dynol neu’n ddarllenwyr cyfrifiadur/sgrin, y cyfan yn darllen deunyddiau asesu ysgrifenedig. Yr arfer presennol yw peidio â chaniatáu darllenwyr dynol na darllenwyr cyfrifiadur/sgrin os yw gallu darllen ymgeisydd yn cael ei asesu. Fodd bynnag, gellir defnyddio’r rhain fel addasiad rhesymol os nad yw gallu’r ymgeisydd i ddarllen yn cael ei asesu.
Mewn amgylchedd gwaith ac ystafell ddosbarth bob dydd, gall dysgwyr ddefnyddio technolegau cynorthwyol, megis darllenwyr sgrin, i ddilyn testun ysgrifenedig. Rydym am sicrhau bod asesiadau’n gyson â’r ‘byd go iawn’ ar yr amod nad yw’n tanseilio amcanion yr asesiad.
Ar hyn o bryd, mae darllenwyr dynol a thechnolegau cynorthwyol yn cael eu trin yr un fath. Fodd bynnag, mae gwahaniaethau pwysig rhyngddynt.
- Nid yw technolegau cynorthwyol a darllenwyr dynol yn dehongli testun yr un fath. Mae darllenwyr dynol yn gallu ychwanegu haenen o ddehongli geiriol (arlliw ac ystyr), a allai effeithio ar ymateb yr ymgeisydd, a thrwy hynny, peryglu dibynadwyedd y cymhwyster.
- Mae technolegau cynorthwyol yn caniatáu ar gyfer annibyniaeth, yn wahanol i ddarllenydd dynol.
Pan fydd gallu darllen ymgeisydd yn cael ei asesu, bydd hawl defnyddio technolegau cynorthwyol megis darllenwyr cyfrifiadur neu sgrin mewn asesiadau darllen – sy’n wahanol i’r sefyllfa bresennol. Fodd bynnag, ni fydd hawl o hyd i ddefnyddio darllenwyr dynol mewn asesiadau o’r fath er mwyn sicrhau bod y cymhwyster yn rhoi darlun dibynadwy o wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth yr ymgeisydd.
Enghraifft
Mewn arholiad darllen Cymraeg neu Saesneg TGAU a gynlluniwyd i brofi gallu’r ymgeisydd i ddarllen, ni ddylid defnyddio darllenydd dynol. Yn yr achos hwn, gellid ystyried addasiadau rhesymol eraill, megis defnyddio darllenydd cyfrifiadur neu sgrin.
Ysgrifenyddion a thechnoleg adnabod llais
Ni cheir defnyddio ysgrifenyddion dynol a systemau adnabod llais fel addasiad rhesymol i arddangos sgiliau ysgrifennu pan fydd gallu’r ymgeisydd i ysgrifennu yn cael ei asesu.
Defnyddir ysgrifenyddion a thechnolegau cynorthwyol, megis systemau adnabod llais, pan nad yw ymgeiswyr yn gallu ysgrifennu neu deipio gan ddefnyddio prosesydd geiriau. Ysgrifenyddion yw pobl sy’n ysgrifennu neu’n teipio atebion llafar yr ymgeisydd. Mae systemau adnabod llais yn cynhyrchu ffeil electronig a chopi caled pan fydd ymgeisydd yn llefaru i gyfrifiadur.
Mae’r fanyleb hon yn adlewyrchu’r arfer bresennol. Ar gyfer y rhan fwyaf o gymwysterau, mae defnyddio ysgrifenyddion a systemau adnabod llais yn addasiad rhesymol priodol. Fodd bynnag, pan fydd cymwysterau’n asesu’n benodol y gallu i ysgrifennu, megis cymwysterau TGAU Cymraeg, Saesneg ac ieithoedd tramor modern, mae defnyddio ysgrifenyddion neu systemau adnabod llais yn gallu cael effaith uniongyrchol ar yr amcanion asesu.
Nid yw’r fanyleb hon yn atal defnyddio ysgrifenyddion a systemau adnabod llais yn gyfan gwbl. Fodd bynnag, pan ddefnyddir ysgrifenyddion a systemau adnabod llais, ni fydd marciau a roddir ar gyfer sillafu, atalnodi a gramadeg ar gael i’r ymgeisydd, oni bai bod yr ymgeisydd yn sillafu llythrennau pob gair i’r ysgrifennydd. Mae hyn yn sicrhau mai sgiliau cywirdeb iaith yr ymgeisydd sy’n cael eu hasesu, ac nid sgiliau’r ysgrifennydd.
Iaith Arwyddion Prydain
Ni cheir defnyddio Iaith Arwyddion Prydain fel addasiad rhesymol pan fydd gofyn i ymgeiswyr arddangos eu gallu i siarad neu wrando.
Ar hyn o bryd, nid yw defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar gael fel addasiad rhesymol yng nghydrannau siarad a gwrando’r rhan fwyaf o gymwysterau cyffredinol Cymraeg, Saesneg ac ieithoedd tramor modern. Mae’r rhesymau dros hyn fel a ganlyn:
- Mae BSL yn cael ei chydnabod fel iaith yn ei rhinwedd ei hun.
- Mae meini prawf cyfredol cymwysterau TGAU Cymraeg, Saesneg ac ieithoedd tramor modern yn cyfeirio’n benodol at y gallu i siarad a gwrando, ac nid ydynt yn cyfeirio at gyfathrebu anysgrifenedig yn yr ystyr ehangach.
Yn y tymor hwy, rydym am ddatblygu dull gweithredu mwy cyson o ran defnyddio BSL ar draws pob cymhwyster Cymraeg, Saesneg ac iaith dramor fodern. Fodd bynnag, ceir rhesymau clir dros fabwysiadu dulliau gweithredu gwahanol sy’n ymwneud yn uniongyrchol ag amcanion asesu cyfredol. Gan fod y rhain yn dal mewn grym, rhaid i’n manyleb ystyried y gwahaniaethau hyn.
Enghraifft
Mewn asesiad gwrando TGAU Almaeneg, ni fyddai hawl darparu dehonglydd BSL. Byddai caniatáu ei ddefnyddio yn golygu nad oedd yr ymgeisydd yn dangos ei allu i ddeall Almaeneg llafar, sef un o amcanion yr asesiad. Gellir caniatáu addasiadau rhesymol eraill, megis dehonglydd llais awgrymol, neu gellir gofyn am esemptiad pan nad yw’r rhain yn briodol.
Cynorthwywyr ymarferol
Ni cheir defnyddio cynorthwywyr ymarferol fel addasiad rhesymol pan fydd gofyn i ymgeiswyr gyflawni tasgau corfforol neu arddangos sgiliau corfforol sy’n rhan o amcanion asesu’r cymhwyster.
Byddai caniatáu i gynorthwywyr ymarferol arddangos sgiliau corfforol sy’n ffurfio rhan o amcanion yr asesiad yn tanseilio ffydd y cyhoedd yn y cymhwyster, gan na fyddai’r ymgeiswyr yn cael eu hasesu ar sail eu galluoedd eu hunain.
Mae’r fanyleb hon yn adlewyrchu’r trefniadau presennol, ac nid yw’n atal defnyddio cynorthwywyr ymarferol i gyflawni tasgau nad ydynt yn rhan o amcanion yr asesiad.
Enghreifftiau
- Pan fydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu ar eu gallu i chwarae offeryn cerdd mewn cymhwyster cerddoriaeth, nid oes hawl gan gynorthwyydd ymarferol arddangos y sgiliau hynny ar ran yr ymgeisydd.
- Os oes angen cymorth ar ymgeisydd anabl i droi tudalennau mewn arholiad ysgrifenedig, neu symud offer mewn asesiad ymarferol gwyddonol, gall cynorthwyydd ymarferol gyflawni’r tasgau hynny gan nad yw’r sgiliau corfforol hyn yn rhan o amcanion yr asesiad.
Dyddiadau gweithredu
Bydd yr holl fanylebau yn dod i rym ar 16 Chwefror 2026.
Mae’r manylebau’n pennu’r addasiadau rhesymol na cheir eu defnyddio fel nad ydynt yn peryglu safonau na hygrededd cymwysterau cyffredinol. Mae sefydliadau dyfarnu’n gyfrifol am benderfyniadau ynghylch pa addasiadau a roddir a chaiff y rhain eu hystyried fel arfer ar sail unigol, yn dibynnu ar anghenion y dysgwr. Nid yw’r ffaith nad oes manyleb ar gyfer addasiad yn golygu y bydd yn rhesymol dan unrhyw amgylchiadau penodol.
Bydd Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda Cymwysterau Cymru fel y rheoleiddiwr cymwysterau yng Nghymru, yn adolygu’r manylebau hyn yn rheolaidd ac yn eu diweddaru yn ôl y gofyn.
Cyhoeddiadau cysylltiedig a chanllawiau
- Deddf Cydraddoldeb 2010 www.legislation.gov.uk
- Deddf Cydraddoldeb 2010 (Adran 96) – Cyrff cymwysterauu: https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2010/15/section/96
- Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb: Addasiadau Rhesymol i Gymwysterau Cyffredinol Publications | Page 2 | GOV.WALES
- Integrated Impact Assessment: Reasonable Adjustments of General Qualifications – Amending statutory guidance exercising Welsh Ministers’ regulatory power under the Equality Act 2010
- Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Rheoleiddiwr Cyrff Cymwysterau Cyffredinol a Chymwysterau Perthnasol) (Cymru) 2010 www.legislation.gov.uk
- Trefniadau Mynediad, Addasiadau Rhesymol ac Ystyriaeth Arbennig – Cymwysterau Cyffredinol a Galwedigaethol, y Cyd-gyngor Cymwysterau (sy’n cael ei ddiweddaru'n flynyddol) Dogfennau CGC
- Mynediad Teg drwy Ddylunio: Cymwysterau Cymru https://cymwysterau.cymru/cyhoeddiadau-ac-adnoddau/mynediad-teg-drwy-ddylunio/
- Code of Practice in relation to Trade organisations, Qualifications bodies and general Qualifications Bodies, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (heb ei ddiweddaru eto i adlewyrchu'r newidiadau a wnaed gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010) www.equalityhumanrights.com
- Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus: dyletswyddau penodol yng Nghymruhttps://www.equalityhumanrights.com/cy/arweiniad/public-sector-equality-duty/dyletswydd-cydraddoldeb-y-sector-cyhoeddus-dyletswyddau
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Uned Noddi Cymwysterau Cymru
Yr Is-adran Llwybrau Dysgu
Y Gyfarwyddiaeth Addysg Drydyddol
Llywodraeth Cymru
E-bost: QWSUCorrespondence@llyw.cymru
troednodiadau
[1] Yn Lloegr, y rheoleiddiwr priodol yw Ofqual, ac yn yr Alban y rheoleiddiwr priodol yw SQA. Nid yw Deddf Cydraddoldeb 2010 yn berthnasol i Ogledd Iwerddon gan fod deddfwriaeth gydraddoldeb ar wahân ar waith yn y wlad honno.
