Mae’r adroddiad yn archwilio profiad bywyd teuluoedd sy’n defnyddio Teuluoedd yn Gyntaf, amrywiad cyflenwi ar draws Cymru, ac yn nodi heriau a chyfleoedd o fewn y rhaglen.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad cenedlaethol o Deuluoedd yn Gyntaf
Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn rhaglen gyffredinol o ymyrraeth gynnar ac atal a ddarperir gan bob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae wedi'i chynllunio i atal anawsterau teuluol rhag cynyddu trwy ddarparu cymorth cydgysylltiedig, amlasiantaethol cyn i anghenion gyrraedd penllanw neu angen ymyrraeth statudol. Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn cefnogi rhieni o'r feichiogrwydd hyd nes bod y plentyn yn 18 oed, neu hyd at 25 oed ar gyfer teuluoedd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Nod yr ymchwil oedd deall profiadau bywyd teuluoedd sy'n defnyddio Teuluoedd yn Gyntaf, edrych ar yr amrywiaeth o ran y ffordd mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno ledled Cymru, a nodi'r heriau a'r cyfleoedd presennol o fewn y rhaglen.
Canfu'r ymchwil fod teuluoedd yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth a ddarperir gan Teuluoedd yn Gyntaf. Adroddodd llawer o deuluoedd bod eu hyder wedi codi a'u sgiliau rhianta wedi gwella, bod eu perthynas â'u teulu yn gryfach, a bod eu llesiant emosiynol yn well o ganlyniad i ymwneud â'r gwasanaethau.
Mae Teuluoedd yn Gyntaf wedi arddangos gwytnwch ac effeithiolrwydd wrth addasu i anghenion teuluoedd, er enghraifft yn ystod pandemig COVID-19, ond mae'n wynebu heriau o ran y galw cynyddol, cymhlethdod anghenion teuluoedd, a chyfyngiadau ariannu.
Mae teuluoedd a rhanddeiliaid yn cydnabod bod y rhaglen yn chwarae rhan hanfodol mewn ymyrraeth gynnar, gan atal problemau rhag gwaethygu a gwella canlyniadau i deuluoedd.
Adroddiadau
Adroddiad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Ymchwil Plant a Theuluoedd
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn:
0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
