Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Mae mwy na £800,000 yn cael ei ddarparu i helpu rhieni sy'n mynd drwy brosesau amddiffyn plant. Bydd hyn sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed a'u bod yn cael eu cefnogi bob cam o'r ffordd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth siarad yng Nghynhadledd Rhwydwaith Eiriolaeth Rhieni (PAN) Cymru ym Mhort Talbot, cadarnhaodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden, y bydd £133,600 o'r cyllid yn cael ei ddarparu i roi'r cynllun Caffi Rhieni poblogaidd ar waith mewn rhagor o ardaloedd.

Mae'r caffis yn cynnig mannau cefnogaeth gan gymheiriaid dan arweiniad rhieni, gan helpu teuluoedd i feithrin hyder a gwytnwch.

Mae ymchwil yn dangos bod eiriolaeth i rieni yn lleihau nifer y plant sy'n mynd i ofal, yn gwella'r berthynas rhwng rhieni a gweithwyr cymdeithasol, ac yn magu hyder rhieni wrth ymgysylltu â gwasanaethau.

Mae'r buddsoddiad o £808,408 yn cynnwys cyllid parhaus ar gyfer darparwyr eiriolaeth proffesiynol y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS), Tros Gynnal Plant (TGP) Cymru a Mental Health Matters, ochr yn ochr â'r buddsoddiad yn null dan arweiniad cymheiriaid PAN Cymru.

Mae eiriolaeth i rieni wedi'i ymgorffori yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys ymrwymiad clir i atal teuluoedd rhag chwalu drwy ariannu gwasanaethau eiriolaeth i rieni sydd â phlant yn rhan o brosesau amddiffyn plant.

Bydd Fframwaith Cenedlaethol newydd ar gyfer Eiriolaeth i Rieni yn cael ei ddatblygu i sicrhau cefnogaeth gyson ledled Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:

Mae pob un ohonom eisiau gwella'r canlyniadau er lles plant a theuluoedd ledled Cymru.

Mae PAN Cymru wedi gwneud cynnydd aruthrol o ran trawsnewid profiad teuluoedd wrth ymgysylltu â gwasanaethau cymdeithasol plant yng Nghymru.

Pan ymwelais â Chaffi Rhieni haf diwethaf, clywais rieni yn dweud eu bod wedi cael ail wynt a bod eu llesiant wedi gwella. Gall grym cymorth gan gymheiriaid newid bywydau a daeth hynny yn amlwg.

Bydd y cyllid hwn yn helpu rhagor o deuluoedd ledled Cymru i gael cymorth hanfodol, gan helpu cadw plant yn ddiogel gyda'u teuluoedd lle bynnag y bo'n bosibl.

Dywedodd Rheolwr Prosiect Cynghorol PAN Cymru, Fiona MacLeod:

Mae'r cyllid hwn yn nodi adeg arwyddocaol i PAN Cymru ac i deuluoedd ledled Cymru.

Mae'n cydnabod grym cydweithredu dan arweiniad rhieni, gyda chefnogaeth broffesiynol i gryfhau teuluoedd a chymunedau a sicrhau bod teuluoedd yn cael eu clywed o ddifrif gyda thosturi a thegwch.