Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser mawr gen i gyhoeddi mai Llinos Roberts yw Cadeirydd cyntaf yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae Llinos yn cael ei phenodi yn dilyn proses penodiadau cyhoeddus gystadleuol wedi ei chynnal yn unol â'r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus. Bydd y penodiad yn dechrau ar 1 Ebrill 2026 am dymor o bum mlynedd. 

Daw Llinos â chyfoeth o brofiad addysg i rôl y Cadeirydd. Mae ganddi brofiad sylweddol o'r sectorau sy’n hanfodol i waith yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol, gan gynnwys y sector ôl-16, a’r sector Dysgu Cymraeg. Rwy'n hyderus y bydd ei harbenigedd a'i hymrwymiad i'r Gymraeg yn galluogi cydweithio effeithiol â rhanddeiliaid allweddol, gan sicrhau bod yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn sefydliad sydd a ffocws gwirioneddol gydol oes o ran caffael y Gymraeg. Rwy'n ddiolchgar i Goleg Cambria am y cydweithrediad gyda’r trefniadau ymarferol sydd wedi gwneud y penodiad hwn yn bosibl.

Mae Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 yn sefydlu'r Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Bydd y corff statudol newydd hwn yn cryfhau ac yn sicrhau cynllunio cenedlaethol i gefnogi pobl o bob oed i ddysgu Cymraeg a hwyluso’u cynnydd. Pwrpas cyffredinol yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol yw hwyluso a hyrwyddo dysgu Cymraeg gydol oes, gan sicrhau bod mwy o bobl yn cael y cyfle i gaffael a defnyddio'r iaith. Bydd yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cael ei sefydlu ar 1 Awst 2027.