Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n gosod Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2026-27 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr Heddlu a Throseddu) gerbron y Senedd. Mae hwn yn amlinellu elfen Llywodraeth Cymru o Setliad Terfynol yr Heddlu ar gyfer heddluoedd yng Nghymru yn 2026-27. Cyhoeddodd y Swyddfa Gartref heddiw ddyraniadau terfynol Grant yr Heddlu ar gyfer cyrff plismona yng Nghymru a Lloegr, er mwyn sicrhau bod Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn gallu gosod praeseptau erbyn 1 Mawrth. 

Nid yw polisi plismona wedi’i ddatganoli ac mae cyllid yn cael ei ddarparu i bedwar heddlu Cymru drwy drefniant tair ffordd sy’n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a’r dreth gyngor. Ar gyfer 2026-27, bydd cyfanswm y cymorth craidd i heddluoedd yng Nghymru yn £512.34miliwn. 

Mae cyllid yn cael ei ddosbarthu i heddluoedd Cymru a Lloegr drwy fformiwla gyffredin sy’n seiliedig ar anghenion, a’r Swyddfa Gartref sy’n gyfrifol am weithredu’r fformiwla honno. Mae elfen Llywodraeth Cymru o ddarpariaeth cyllid yr heddlu yn cael ei phennu a’i dosbarthu ar sail yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ar draws Cymru a Lloegr.

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae’r Swyddfa Gartref wedi defnyddio mecanwaith cyllid gwaelodol ar gyfer ei fformiwla sy’n seiliedig ar anghenion. Mae hyn yn sicrhau y gall pob heddlu yng Nghymru a Lloegr ddisgwyl cael cynnydd o 4.022% yn ei gyllid craidd ar gyfer 2026-27. Rwy’n annog y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu yng Nghymru i ymgynghori â’u cymunedau lleol wrth ystyried lefel y cyllid lleol ar gyfer 2026-2027. Bydd angen iddynt ystyried yn ofalus sut i sicrhau cydbwysedd rhwng effaith unrhyw gynnydd ym mhraeseptau’r heddlu a’r gwasanaethau a ddarperir i’w cymunedau. 

Yn dilyn cyfnod o ymgynghori, mae’r cyllid ar gyfer Setliad Terfynol yr Heddlu yn parhau fel y nodwyd yn fy natganiad ar 18 Rhagfyr ar Setliad Dros Dro yr Heddlu. O ganlyniad, rwy’n cynnig pennu swm cyfraniad Llywodraeth Cymru at gyllid yr heddlu ar gyfer 2026-27 yn £113.47 miliwn. Y Swyddfa Gartref sy’n darparu’r cyllid gwaelodol. Mae Tablau 1 i 4 o’r Datganiad hwn yn cynnwys crynodeb o’r ffigurau.

Rwy’n cydnabod y cyd-destun ariannol heriol y mae partneriaid plismona yn gweithredu ynddo, yn ogystal â’r pwysau costau byw parhaus sydd ar lawer o aelwydydd. Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau, yn Lloegr, fod unrhyw gynnydd ym mhraeseptau’r heddlu wedi’i gyfyngu i £15 cyn y bydd yn ofynnol cynnal refferendwm. Er nad yw’r terfyn hwn yn berthnasol yng Nghymru, mae Gweinidogion Cymru yn cadw’r pŵer i osod cap ar gynnydd os ystyrir y bydd hynny yn angenrheidiol. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu’n adeiladol â Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu a heddluoedd Cymru i ddefnyddio ein hadnoddau a rennir yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl ac i helpu i gyflawni ein dyheadau ar y cyd ar gyfer cymunedau ledled Cymru.

Disgwylir i Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2026-27 fod yn destun dadl yn y Senedd ar 3 Mawrth 2026.

Mae’r wybodaeth hon hefyd wedi’i chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru yn: 

Setliad Terfynol yr Heddlu 2026-27