Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Prif Weinidog, Eluned Morgan, wedi cyhoeddi rhestr fer Gwobrau mawreddog Dewi Sant eleni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n nodi cynnal y gwobrau am y drydedd flwyddyn ar ddeg. Hyd yma, mae'r gwobrau wedi dathlu cyflawniadau rhyfeddol dros 300 o bobl  o bob cwr o Gymru .

Caiff tri eu dewis yn deilyngwyr ar gyfer pob un o'r 11 o Wobrau, ac mae'r bobl yn y 10 categori cyntaf yn cael eu henwebu gan y cyhoedd:

  • Busnes
  • Dewrder
  • Arwr Cymunedol
  • Diwylliant
  • Pencampwr yr Amgylchedd
  • Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
  • Gwasanaeth Cyhoeddus  
  • Chwaraeon
  • Gwirfoddolwr
  • Person Ifanc
  • Gwobr Arbennig y Prif Weinidog

Mae'r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ym mhob categori yn cael eu dewis gan banel annibynnol. Mae'r enillwyr yn cael eu dewis gan y Prif Weinidog.

Gellir dyfarnu'r Wobr Arbennig i nifer o bobl yn ogystal â dathlu llwyddiant unigolion.

Bydd pob enillydd yn cael tlws Gwobrau Dewi Sant, sydd wedi'i ddylunio a'i wneud gan y ceramegydd Daniel Boyle o Lanbedr Pont Steffan.  Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal ddydd Iau 26 Chwefror 2025 yn y Senedd.

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:

"Braint yw cyhoeddi rhestr fer Gwobrau Dewi Sant. Mae'n dod â'r goreuon o Gymru ynghyd, ac yn dangos enghreifftiau gwych inni o'r cyfraniad cadarnhaol y gall pobl ei wneud i fywydau pobl eraill. Mae gennym restr fer anhygoel eleni, sy'n llawn straeon ysbrydoledig a phobl sydd wedi cyflawni pethau mawr."

Gweler y rhestr fer lawn.