Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Chwefror 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

O heddiw ymlaen, gall ysgolion a gynhelir, colegau addysg bellach ac awdurdodau lleol wneud cais i Weinidogion Cymru atal dros dro neu addasu gofynion deddfwriaeth addysg i ddiben gweithredu prosiectau arloesol a allai gyfrannu at godi safonau dan y ‘pŵer i arloesi’.

Rwyf eisiau sicrhau nad oes yr un cyfle'n cael ei golli i dreialu syniadau arloesol pan fo ganddynt y potensial i symbylu newidiadau ledled y system, codi safonau a gwella'r canlyniadau i ddisgyblion a dysgwyr.  

Dyna pam fy mod wedi cychwyn pwerau Gweinidogion Cymru i hwyluso arloesi, a byddwn yn annog staff ysgolion, cyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol i feddwl yn greadigol sut y gallwn godi safonau a gwella'r canlyniadau ymhob rhan o'n system addysg.

Nid oes unrhyw ragdybiaethau o ran y math o gynnig y gellid ei dreialu, er bod yn rhaid i geisiadau ddangos sut y byddai cynnig yn codi safonau addysgol.  Os cytunir ar gynnig, bydd gorchymyn cyfyngedig ar amser hyd at dair blynedd, gydag estyniad unigol posibl am gyfnod pellach hyd at tair mlynedd ychwanegol, yn cael ei wneud er mwyn caniatáu i'r treial fynd yn ei flaen.  

Cyhoeddwyd canllawiau i gefnogi ymgeiswyr heddiw, a gellir cael rhagor o wybodaeth ar lein.