Mae mwy na 200,000 o dyllau ar fwy na 400 milltir o wyneb ffyrdd wedi cael eu trwsio neu eu hatal ledled Cymru ers mis Ebrill y llynedd.
Mae menter benthyca Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol wedi galluogi cynghorau lleol i drwsio neu atal tua 171,000 o dyllau ar 324 milltir o ffyrdd lleol yng Nghymru. Ac ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol (SRN) mae tua 30,000 o dyllau wedi cael eu trwsio neu eu hatal ar fwy na 65 milltir o ffordd yn yr un cyfnod, diolch i gyllid Llywodraeth Cymru.
Hyd yma mae 1,011 o gynlluniau ailwynebu lleol a 24 o gynlluniau ailwynebu cefnffyrdd wedi cael eu cwblhau ledled y wlad, a bydd mwy yn cael eu cwblhau cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Mae cynlluniau fel yr un ar yr A48 Redhill i Stormy Down ym Mhen-y-bont ar Ogwr eisoes yn gwneud gwahaniaeth mawr yn y gymuned leol.
Ar yr SRN cwblhawyd gwaith ychydig cyn y Nadolig ar yr M4 C24 i C26 Coldra i Malpas a bydd dau gynllun mawr arall, ar yr A55 Dobbs Hill i Ewlo a'r A483 Beulah, yn cael eu cwblhau yn 2026.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
Mae trwsio ein ffyrdd yn flaenoriaeth i'r llywodraeth hon.
"Rwy'n falch iawn o'r cynnydd gwych rydyn ni wedi'i wneud ers mis Ebrill ac mae llawer mwy yn yr arfaeth.
"Rydyn ni wedi cynyddu'n sylweddol ein buddsoddi mewn cynnal a chadw ffyrdd a gwaith ataliol y flwyddyn ariannol hon i gyflawni gwelliannau ar hyd y rhwydweithiau ffyrdd strategol a lleol.
"Yn ogystal ag estyn oes ffyrdd a seilwaith critigol Cymru, mae'r gwaith hwn hefyd yn helpu i gadw cymunedau mewn cysylltiad mewn ffordd ddiogel a chynaliadwy – a fydd yn ei dro yn helpu'r economi.
