Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth
Mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd o dan Adran 30 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993 mewn perthynas â'r gwasanaethau yng Nghymru yn unig a'r elfen Gymraeg o wasanaethau Cymru i sicrhau parhad o ran y ddarpariaeth o wasanaethau rheilffyrdd i deithwyr. Mae Gweinidogion Cymru hefyd yn caffael gwasanaethau rheilffyrdd i deithwyr sy'n cynnwys elfen Seisnig Gwasanaethau Cymru, gan weithredu fel asiant i Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth a Gweinidogion Llywodraeth y DU wedi cymeradwyo cytundeb gwasanaethau rheilffyrdd i'r sector cyhoeddus gyda Trafnidiaeth Cymru Cyfyngedig, ochr yn ochr â chymeradwyaeth i'r cytundebau cysylltiedig ac angenrheidiol rhwng Gweinidogion Cymru a Llywodraeth y DU, i gynnal gwasanaethau rheilffyrdd o dan Adran 30 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993.
Daeth cytundeb gwasanaethau rheilffyrdd y sector cyhoeddus a'r cytundebau gyda Llywodraeth y DU i rym ar 1 Chwefror 2026.
Mae'r cytundeb yn hyblyg ac wedi'i gynllunio i ychwanegu at y buddsoddiad o dros £1bn i drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd, £800m ar drenau newydd, cynnydd mewn capasiti a gwelliannau o ran perfformiad sydd eisoes wedi'u cyflawni ledled Cymru a'r Gororau.
